Mae’r awdur ac ymgyrchydd trawsryweddol Juno Dawson yn dweud bod angen drama i ysbrydoli pobol drawsryweddol fel y gwnaeth It’s A Sin gan Russell T Davies ar gyfer pobol hoyw.
Daeth Juno Dawson i amlygrwydd fel awdur ffuglen i oedolion ifainc, a chyhoeddodd yn ddiweddarach ei bod yn drawsryweddol.
Bydd ei phrosiect diweddaraf, Doctor Who: Redacted, yn cael ei darlledu ar BBC Sounds yn ddiweddarach y mis hwn, gan ddilyn y cymeriadau Cleo, Abby a Shawna, tair sydd wedi cefnu ar y brifysgol ac sy’n cyflwyno podlediad am y byd paranormal, The Blue Box Files, sy’n adrodd hanes bocs glas sydd wedi ymddangos droeon yn y gorffennol.
Mae’r gyfres wedi’i lleol ym myd Doctor Who, gyda Charlie Craggs, sy’n drawsryweddol, yn chwarae ei rhan gyntaf fel actores.
‘Newid y sgwrs’
“Pan dw i’n edrych ar sioeau fel Queer As Folk neu It’s A Sin, maen nhw wedi newid y sgwrs ynghylch pobol hoyw ac am HIV,” meddai Juno Dawson wrth BBC Newsbeat.
“Dw i ddim yn meddwl y bu rhywbeth tebyg i Queer As Folk or It’s A Sin ar gyfer pobol drawsryweddol, ac felly dw i’n obeithiol iawn y bydd crëwyr traws fel fi yn cael cyfleoedd i adrodd ein straeon ein hunain.”
Roedd Queer As Folk ac It’s A Sin gan Russell T Davies o Abertawe’n adrodd gwahanol agweddau ar fywydau dynion hoyw yn ninasoedd y Deyrnas Unedig.
Ond mae Juno Dawson yn dweud ei bod hi’n gobeithio y bydd darluniau o fywyd y gymuned drawsryweddol mewn cyfresi megis Doctor Who: Redacted yn dangos bod bywydau pobol drawsryweddol “yn normal ac yn ddiflas”, a hynny “fewl bod pobol yn gallu dod i’n nabod ni”.
“Ac weithiau mae pobol normal, ddiflas yn mynd ar anturiaethau gyda’r Doctor – a dyna fu Doctor Who erioed,” meddai wedyn.
Mae Charlie Craggs, sydd wedi cyflwyno rhaglen ddogfen am fod yn berson trawsryweddol, yn dweud ei bod hi’n gobeithio y bydd y rhaglen newydd yn helpu i newid canfyddiad pobol ynghylch y gymuned drawsryweddol heb wneud iddyn nhw “deimlo fel pe bai rhywun yn gweiddi arnyn nhw”.
“Dw i wedi diflasu cymaint gyda’r ffaith fod ein cymuned yn ddioddefwyr,” meddai.
“Pan ydyn ni’n cael ein hintegreiddio i mewn i ddarnau celfyddydol prif ffrwd, fel llinyn stori fawr yn Eastenders neu Coronation Street, mae hynny mor bwerus oherwydd nid dyna pam mae pobol yn gwylio.
“Ond maen nhw’n gallu cymryd hynny oddi wrthi.
“Mae’n anodd peidio teimlo pa mor ddynol yw cymeriad Cleo pan ydych chi’n gwrando ar y sioe hon.
“Byddai’n rhaid eich bod chi’n ryw fath o sociopath i beidio â theimlo rhywbeth pan glywch chi’r hyn mae hi’n mynd drwyddo fe.”
Bydd Doctor Who: Redacted ar gael ar BBC Sounds o Ebrill 17.