Mae Barddas yn cynnal tair cystadleuaeth farddoniaeth i blant a phobol ifanc eleni, gyda’r gobaith o hybu ysgrifennu creadigol.

Bydd enillwyr y cystadlaethau i ddisgyblion ysgolion cynradd, disgyblion uwchradd, a disgyblion chweched dosbarth hyd at 25 oed yn cael eu cyhoeddi yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron ym mis Awst.

Cafodd y cystadlaethau ar gyfer yr oedrannau hŷn eu gohirio llynedd yn sgil y pandemig, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio y byddan nhw’n gallu adfer brwdfrydedd pobol ifanc eleni.

Mae hybu’r genhedlaeth nesaf o feirdd yn rhan o genhadaeth Barddas ac yn un o’u cyfrifoldebau, meddai Rhys Dafis, ysgrifennydd pwyllgor gwaith Barddas, wrth drafod nod y cystadlaethau.

Tlws Pat Neill i Ysgolion Cynradd

Testun y gerdd eleni ydy ‘Anrheg’, a gall y gerdd fod ar unrhyw fesur. Y beirniad yw Grug Muse, enillydd cadair Eisteddfod yr Urdd 2013.

“Mae Tlws Pat Neill yn mynd ers yr 80au,” eglura Rhys Dafis, sy’n gyfrifol am drefnu’r cystadlaethau, wrth golwg360.

“Roedd Pat Neill wedi ymddeol i ardal Ceredigion, wedi dysgu Cymraeg, ac yn gyn-athro cynradd, ac roedd o’n gefnogol ofnadwy i hybu plant i farddoni ac wedi dysgu barddoni yn Gymraeg ei hun.

“Fe wnaeth o gychwyn y gystadleuaeth tra’r oedd o’n fyw, ac fe wnaeth o adael cronfa fach ac rydyn ni wedi parhau â’r cyfrifoldeb yna am y gronfa yn Barddas.

“Wedyn rydyn ni’n gosod y gystadleuaeth ysgolion cynradd yn flynyddol ers hynny.”

Prif wobr y gystadleuaeth fydd cadair dderw fechan a gwobr ariannol, yn ogystal â’r gerdd fuddugol wedi’i fframio.

Bydd gwobr ariannol hefyd i’r plant y gosodir eu cerddi yn ail a thrydydd. Cyflwynir tystysgrif i bob enillydd, ac i’r ysgol â mwyaf o gerddi yn y dosbarth cyntaf.

Bydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo yn ystod Ymryson y Beirdd ar brynhawn Mawrth, Awst 2 yn y Babell Lên yn Nhregaron.

Tlws yr Ysgolion Uwchradd

Y testun ar gyfer y tlws eleni ydy ‘Yfory’, a gall y gerdd honno fod ar unrhyw fesur hefyd. Y beirniad fydd Gruffydd Eifion Owen, ac mae croeso i ddisgyblion o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 gystadlu.

Does dim gwrthwynebiad i gystadleuwyr anfon cerddi sydd wedi’u cyfansoddi’n barod fel rhan o waith ysgol neu gystadleuaeth eisteddfod chwaith, meddai Barddas.

Bydd y buddugol yn derbyn tlws a’r gerdd wedi’i fframio, a’r enillydd yn cael ei ddatgelu yn ystod Ymryson y Beirdd hefyd.

Tlws D Gwyn

Bydd Tlws D Gwyn Evans, sydd wedi’i henwi ar ôl D Gwyn Evans, Aberystwyth, yn cael ei rhoi am gerdd ar y testun ‘Gwên’, a gellir ysgrifennu ar unrhyw fesur.

Croesawir cerddi gan ddisgyblion o flwyddyn 12 hyd at 25 oed.

Llion Pryderi Roberts fydd y beirniad eleni, a bydd yr enillydd yn cael ei wobrwyo brynhawn dydd Mercher, Awst 3 yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd cwpan fach, wedi’i rhoi gan deulu D Gwyn Evans yn wobr, yn ogystal â’r gerdd wedi’i fframio.

‘Hybu barddoniaeth’

Diben y tlysau ydy hybu ysgrifennu creadigol a hybu barddoniaeth, meddai Rhys Dafis.

“Llynedd, fe wnaethon ni ohirio’r ddwy gystadleuaeth hŷn achos roedd athrawon yn dweud wrthym ni ei bod hi’n benbleth fawr trio dal fyny efo’r cwricwlwm oherwydd Covid a phlant wedi bod yn absennol ac yn y blaen,” esbonia.

“Rydyn ni’n amlwg yn andros o awyddus eleni bod pethau’n mynd yn ôl fel roedden nhw.

“Roedd yna nifer dda yn cystadlu. Efo’r ysgolion cynradd roedden ni fyny i 200, 300 o gystadleuwyr, a dros 100 wedi bod yn [cystadlu yn] yr ysgolion uwchradd.

“Ond yn amlwg, y ddwy flynedd ddiwethaf yma, mae hi wedi bod ychydig bach yn fflat.”

Er bod yna lai yn arfer cystadlu am Dlws D Gwyn Evans, y gystadleuaeth ar gyfer pobol ifanc rhwng blwyddyn 12 a 25 oed, roedden nhw’n arfer denu rhwng tua 30 a 40 o gystadleuwyr.

“Mae rhai o’r rhai sydd wedi ennill wedi mynd ymlaen i fod yn feirdd cenedlaethol,” meddai Rhys Dafis, gan gyfeirio at enillwyr megis Karen Owen, Eurig Salisbury, Llŷr Gwyn Lewis, Guto Dafydd, ac Aneurin Karadog.

Dywedodd Rhys Dafis eu bod nhw’n “andros o ddiolchgar” i’r athrawon am hybu’r cystadlaethau, a’u bod nhw’n ffordd o annog pobol ifanc i greu.

Bydd yr holl waith buddugol yn cael ei gyhoeddi ar ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, yn rhifyn yr hydref o gylchgrawn Barddas.

Os am gystadlu, dylid gyrru ceisiadau gyda ffugenw ar waelod y gerdd, ac enw cywir a manylion cyswllt mewn atodiad, at Rhys Dafis, Cilgwyn, Llansannan, LL16 5HL neu drwy e-bost at rhysdafis@aol.com erbyn Mai 7 2022.