Mae telynor jazz sydd ar frig ei yrfa ac yn teithio’r byd yn perfformio, yn dweud bod gwyliau fel Gŵyl Delynau Cymru yn “enfawr” ac yn bwysig i delynorion lleol.
Pedair oed oedd Ben Creighton Griffiths, a gafodd ei fagu yng Nghaerdydd, pan ddechreuodd ddysgu’r delyn.
Fe fydd yn cynnal gweithdai i delynorion yn yr Ŵyl Delynau yn Galeri heddiw (dydd Mercher, Ebrill 13).
Fe fydd hefyd yn perfformio heno yng nghyngerdd yr Ŵyl gyda’i grŵp The Transatlantic Hot Club, sydd newydd fod yn perfformio yng Ngŵyl Delynau Rhyngwladol Caeredin.
Enillodd y brif wobr i delynorion o dan 13 oed yn yr Ŵyl Delynau pan oedd yn iau ac ers hynny mae wedi bod yn dychwelyd droeon i’r ŵyl, fel perfformiwr gwâdd yn yr Ŵyl Delynau Ryngwladol sy’n digwydd bob pedair blynedd (gŵyl flynyddol yw Gŵyl Delynau Cymru).
Mae’r ddwy ŵyl yn cael eu trefnu gan Ganolfan Gerdd William Mathias, sydd â’u swyddfa yn Galeri.
“Mae’n enfawr gan fod yna lawer o delynorion yn yr ardal yma,” meddai Ben Creighton Griffiths am yr Ŵyl Delynau.
“Efallai yn arbennig mewn cymunedau mwy gwledig, maen nhw fel petaen nhw’n fwy gwasgaredig felly fe gewch chi fwy o gyfleoedd i ddod â thelynorion ynghyd mewn un lle ar gyfer un digwyddiad, i wneud dosbarthiadau, gweithdai a gweld cyngherddau. Mae hynny’n dda yn enwedig ar gyfer telynorion iau.
“Weithiau mae’n dipyn o offeryn unigol, yn wahanol i’r ffidil neu’r ffliwt neu beth bynnag lle y byddwch chi’n amlwg yn chwarae’n amlach gyda phobol eraill.
“Felly mae’n wych cael telynorion at ei gilydd mewn grwpiau.
“Mae gennym ni ddigwyddiadau fel hyn ledled y wlad, a ledled y byd ac mae bob amser yn wych i’r gymuned honno yn yr ardal honno. Mae’n amhrisiadwy i ogledd Cymru, a hefyd i Gymru gyfan.”
Y delyn yn gweithio’i ffordd i’r byd jazz
Newydd-ddyfodiad i’r byd jazz yw’r delyn, yn ôl Ben Creighton Griffiths, sy’n gerddor jazz a chlasurol ac yn feistr ym maes telyn jazz electro-acwstig.
Mae e wedi perfformio ym Mrasil, Canada, Y Caribî, Croatia, Y Weriniaeth Tsiec, Ffrainc, Hwngari, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Sbaen, Hong Kong, India a’r Unol Daleithiau.
Gyda’i grŵp Transatlantic Hot Club, mae yn perfformio jazz a gwahanol arddulliau fel Jazz Sipsi, Swing, a cherddoriaeth America-Ladin.
“Mae’r delyn bob amser yn cyd-fynd yn dda â hynny,” meddai’r telynor jazz.
“Yn amlwg, i’r diwydiant jazz mae e’n offeryn mwy newydd. Mae’n dechrau dod i mewn i fyd jazz, ond mae gennym ni ddigonedd o delynorion jazz gwych ym Mhrydain a thramor. Rydyn ni i gyd yn gwneud ein ffordd i mewn i’r gymuned honno.
“Nid yw wedi’i sefydlu cystal ag y mae yn y gymuned werin ond mae’n mynd i gyrraedd yno dros y degawdau nesaf. Mae’n mynd i wthio go iawn i mewn iddo.”
Mae chwarae jazz ar y delyn yn “ddiawledig o anodd”, yn ôl Ben Creighton Griffiths.
“Mae o’n mynd yn groes i lawer o bethau naturiol yr offeryn. Mae’n llawer mwy cromatig ac rydych chi’n ei chwarae mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n gallu cynnig synau gwahanol iawn i’r genre a dyna pam mae pobl yn ei hoffi ac yn clywed rhywbeth newydd a gwahanol.”
Ei bartner yn y grŵp Transatlantic Hot Club yw’r feiolinydd Adrien Chevalier o Ffrainc, sy’n byw yn Efrog Newydd.
Fe ddaethon nhw i adnabod ei gilydd mewn gŵyl delyn yn Martinique yn Guadelopue yn y Caribî, ac maen nhw’n cwrdd â’i gilydd i berfformio unwaith neu ddwy y flwyddyn.
Mae cerddorion yn ymuno â nhw lle bynnag y byddan nhw’n perfformio.
Y chwaraewr bâs dwbl o Gaerdydd, Ashley John Long, sy’n ymuno â nhw ar gyfer eu pedwar gig yng Nghymru eleni.
Bydd Ben Creighton Griffiths a’i Transatlantic Hot Club yn perfformio yng nghyngerdd Gŵyl Delynau Cymru heno yn Galeri, ac yn Aberjazz yng nghaffi Peppers, Abergwaun nos fory (nos Iau, Ebrill 14).