Mae yna bryder ymhlith telynorion yn y gogledd fod y nifer sy’n astudio offeryn cenedlaethol Cymru yn gostwng.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae gostyngiad cyffredinol wedi bod yn y nifer sy’n dewis cael gwersi telyn, yn ôl telynor sy’n trefnu gwersi offerynnol i ddisgyblion ysgol yn y gogledd.
“Mi wnes i gymryd y delyn i fyny yn Ysgol Glan-y-môr (Pwllheli) yn 13 oed, ac roedd athro telyn yn dod yno am ddiwrnod i ddysgu’r delyn,” meddai Tudur Eames, Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn.
“Roedd ganddi ddiwrnod cyfan o ddisgyblion telyn mewn un ysgol. Does yna ddim un ysgol fel yna bellach. Efallai bod dwy neu dair fan hyn fan draw. Mae o’n bechod.”
Gyda sain y delyn yn atseinio drwy ganolfan Galeri heddiw (dydd Mercher, Ebrill 13) a ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 12) gyda Gŵyl Delynau Cymru ar ei hanterth yno, pam nad oes rhagor yn dewis dysgu’r delyn?
“Mae o’n offeryn drud, ond mae yna ddigon o help ar gael efo llogi telynau,” meddai Tudur Eames.
“Mae’r Gymdeithas Cerdd Dant yn eu llogi nhw allan, a’r Urdd yn eu llogi… Ddylai hynna ddim bod yn rhwystr. Ond dw i ddim yn gwybod beth ydi’r rheswm.
“Ai am nad ydi o yn cŵl? Yr offerynnau roc sy’n denu rŵan.
“Mae’r offerynnau cerddorfaol i gyd, yn enwedig llinynnau, ar i lawr, ac rydyn ni’n cynnwys y delyn yn y llinynnau.
“Mae’r delyn yn rhywbeth anodd i’w llusgo o gwmpas o le i le, ac rydych chi’n ddibynnol ar rieni sy’n fodlon prynu car ddigon mawr.
“Mae bob math o gostau ynglŷn ag o.”
Eisiau “cymryd balchder”
Fe ddylai’r Cymry ymfalchïo yn y ffaith mai’r delyn yw ein hofferyn cenedlaethol, yn ôl Tudur Eames.
“Mi fyddwn ni, a Gwasanaethau Cerdd drwy Gymru, yn edrych ar y sefyllfa o ran offerynnau mewn peryg … fel yr offerynnau mawr fel y bâs dwbl, y basŵn, y tiwba…”
Mae’r delynores Elinor Bennett, Cyfarwyddwr Artistig yr Ŵyl Delynau yng Nghaernarfon, hithau’n pryderu am ostyngiad mewn nifer.
“Mae niferoedd wedi mynd lawr,” meddai wrth golwg360, gan grybwyll bod yna un ysgol yng Ngwynedd sydd â dwy delyn at ddefnydd disgyblion ond heb fyfyriwr yn dysgu arnyn nhw.
Llai yn gyffredinol – “nid dim ond y delyn”
Yn ôl telynor llwyddiannus o Gaerdydd, mae yna ostyngiad cyffredinol yn y nifer sy’n dechrau gwersi gyda sawl offeryn, oherwydd y pandemig.
Dechreuodd Ben Creighton-Griffiths ddysgu’r delyn pan oedd yn bedair oed ac mae e bellach yn teithio’r byd yn perfformio cerddoriaeth jazz ar y delyn.
“O fy mhrofiad i lawr yn y de, mae’n dal yn eithaf prysur ac mae llawer o bobol yn dysgu,” meddai wrth Golwg360 ar ôl iddo gyrraedd yr Ŵyl Delynau.
“Wn i ddim faint mae’r pandemig yn gyfrifol.
“Fydden i yn dweud bod rhywfaint o ostyngiad yn gyffredinol wedi bod ar draws cryn dipyn o wahanol offerynnau. Mae fy mam yn ffliwtydd proffesiynol ac mae ganddi lai o ddisgyblion hefyd.
“Fydden i ddim yn meddwl ei fod e ond yn digwydd i’r delyn. Fydden i yn gobeithio mai gostyngiad dros dro yw hyn, ac y gwelwn ni bobol yn dod yn ôl ato.
“Mae digwyddiadau fel yr ŵyl yma, lle mae gennych chi gyngherddau a gweithdai, yn allweddol i ddod â phobl yn ôl i mewn, a chael plant i ymddiddori, ac ennyn diddordeb oedolion sy’n dysgu’r delyn, a chadw’r gymuned honno i ffynnu.”
Mae Ben Creighton-Smith yn cynnal gweithdai yn yr Ŵyl Delynau, a bydd yn perfformio yng nghyngerdd yr Ŵyl heno (nos Fercher, Ebrill 13) gyda’i grŵp The Transatlantic Hot Club, sydd newydd fod yn perfformio yng Ngŵyl Delynau Rhyngwladol Caeredin.