Bydd gŵyl unigryw yn cael ei chynnal ar Ebrill 23 er mwyn pontio Cymru a Llydaw.
Bydd unigolion gweithgar o Lydaw yn cynnal paneli trafod a gweithdai am ymgyrchu iaith, podlediadau, y byd ffilm a cherddoriaeth gyfoes gyda phobol ifainc cyfatebol o Gymru.
Bydd yn gyfle hollol unigryw ac yn torri tir newydd, a’r gobaith yw y bydd yn arwain at ragor o gydweithio yn y dyfodol, gyda’r ddwy wlad yn dod i wybod mwy am ei gilydd o ystyried nad ydyn ni’n bell iawn oddi wrth ein gilydd yn ddaearyddol nac yn ieithyddol.
Bydd Gŵyl Chwoant yn ffordd arbennig o lenwi’r bylchau hyn ac i naill ochr y Môr Udd gyfoethogi’r llall wrth rannu, dysgu ac ysbrydoli trwy ein profiadau.
Mae dysgu am y cyd-destun ieithyddol tebyg a’r frwydr i greu, i fyw ac i ymgyrchu trwy gyfrwng yr ieithoedd hyn yn brofiad gwbl amhrisiadwy, meddai’r trefnwyr.
Magu cysylltiadau
“Mae’n hen bryd i bobol ifainc yr ieithoedd hyn ddod at ei gilydd i gael rhannu a dysgu gan ei gilydd, ac i fagu’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad!” meddai Felix Parker-Price, un o’r trefnwyr.
Yn ôl Marine Lavigne, sy’n canu gyda’r grŵp Llydaweg Ahez a fydd yn cynrychioli Ffrainc yng nghystadleuaeth Eurovision eleni, bydd y digwyddiad yn gyfle i ddysgu a rhannu.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr cael dod i Gymru er mwyn cymryd rhan yng Ngŵyl Chwoant er mwyn dysgu a rhannu gyda’r Cymry. ‘Da ni’n edrych ymlaen yn fawr cael perfformio fest-noz yn fyw yn y prynhawn hefyd,” meddai.
Bydd y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac mae croeso i bawb i’r sgyrsiau, y gweithdai a’r gig ar ddiwedd y dydd.
Bydd Gŵyl Chwoant yn cael ei chynnal yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, yn dechrau am 10yb ac yn gorffen am 7yh.