Mae’r amcangyfrifon diweddaraf ynghylch tlodi tanwydd yn “drychineb” i bobol ledled Cymru, yn ôl elusen.
Dywed Luke Young, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Cyngor ar Bopeth Cymru, y dylai amcangyfrifon diweddaraf Llywodraeth Cymru, sy’n rhagweld y gallai 98% o aelwydydd incwm isel fod mewn tlodi tanwydd yn sgil codi’r cap ar brisiau ynni, yrru ias i lawr cefn pob gwleidydd.
Gallai hyd at 45% o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn y cynnydd, meddai’r ystadegau, gydag 8% o’r holl aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol.
Mae’r ystadegau swyddogol, sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Ebrill 13), yn dangos bod bron i 200,000 o aelwydydd yng Nghymru (14%) yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref y llynedd.
‘Methu cwrdd â gofynion sylfaenol’
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r ffigurau hynny “yn ddychryn ac yn peri pryder” ac yn “dangos dyfnder yr argyfwng ynni cyn i’r gaeaf ddechrau a chyn i OFGEM godi’r cap ynni domestig 54% ym mis Ebrill”.
“Rydyn ni wedi rhybuddio’n barhaus fod pobol yn methu â chwrdd â’u gofynion sylfaenol,” meddai Luke Young.
“Mae ein gwasanaethau wedi torri record fis ar ôl mis wrth i fwy o bobol nag erioed fod angen cymorth brys, ac wrth i gynnydd mewn prisiau ynni yrru wthio mwy o bobol i dlodi.
“Mae angen yr help rydyn ni wedi bod yn galw amdano – arian yn uniongyrchol i aelwydydd incwm is drwy’r system fudd-daliadau – ar unwaith nawr.”
‘Hanesion dychrynllyd’
Roedd 59% o aelwydydd incwm isel Cymru’n byw mewn tlodi tanwydd fis Hydref y llynedd, ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw’n “gwybod bod y gwaethaf eto i ddod”.
“Rydym yng nghanol argyfwng costau byw digynsail, sy’n cael ei achosi gan brisiau ynni sy’n codi heb reolaeth. Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi dyfnhau’r argyfwng hwn,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
“Mae cyflwyno’r cap newydd ar brisiau ynni ddechrau’r mis yn peri risg o orfodi degau ar filoedd yn rhagor o bobol i ansicrwydd ynni a thlodi tanwydd.
“Yn ogystal â phrisiau ynni cynyddol, rhaid i aelwydydd hefyd dalu taliadau sefydlog uwch ar eu biliau ynni domestig ac mae pobl yng Nghymru ymhlith y rhai sy’n cael eu taro galetaf.
“Mae’r cynnydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig yng Ngogledd Cymru, gyda thaliadau sefydlog yn cynyddu 102%.
“Mae’r costau ychwanegol hyn yn cael effaith negyddol anghymesur ar aelwydydd incwm is a’r rhai ar fesuryddion rhagdalu.
“Clywn hanesion dychrynllyd yn ddyddiol am bobl a theuluoedd sy’n ofni troi eu gwres ymlaen a chan deuluoedd sy’n wynebu’r dewis ofnadwy rhwng gwresogi a bwyta.”
Galwadau Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn galw unwaith eto ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am fesurau i wella’r sefyllfa.
Dydy’r camau sydd wedi cael eu cynnig hyd yma – yr ad-daliad o £200 ar filiau trydan, y mae’n rhaid i bob talwr bil ei ad-dalu dros bum mlynedd – ddim yn ddigon, yn ôl Jane Hutt.
“Roedd Datganiad y Gwanwyn yn gyfle i Lywodraeth y DU amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, yn hytrach roedd yn ddatganiad ideolegol, atchweliadol gan y Canghellor, heb fesurau ymarferol i helpu’r rhai sydd angen cymorth fwyaf – nid oes dim i’r rhai sy’n methu gweithio a’r rhai ar incwm is,” meddai.
Mae Llywodraeth Cymru’n galw am:
- dalu’r ad-daliad o £200 ar y bil trydan fel grant nad yw’n ad-daladwy i bawb sy’n talu’r biliau;
- cyflwyno cap is ar brisiau ynni ar gyfer aelwydydd incwm is fel eu bod yn gallu talu eu biliau ynni yn well;
- cynyddu’r ad-daliad sy’n cael ei dalu drwy’r gostyngiad cartrefi cynnes a’r cynlluniau tanwydd y gaeaf;
- tynnu’r holl gostau polisi cymdeithasol ac amgylcheddol o filiau ynni aelwydydd ac, yn hytrach, eu talu o drethi cyffredinol, wedi’i ariannu’n rhannol o leiaf gan dreth ffawdelw ar elw gormodol cynhyrchwyr nwy ac olew.
- ailsefydlu’r codiad o £20 yr wythnos yn y Credyd Cynhwysol.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i helpu pobol drwy’r argyfwng costau byw digynsail hwn,” meddai Jane Hutt wedyn.