Cododd cyfradd chwyddiant y Deyrnas Unedig i 7% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyma’r gyfradd uchaf ers 1992 ac mae i fyny o 6.2% ym mis Chwefror.

Mae prisiau’n codi’n gyflymach na chyflogau ac o ganlyniad mae pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud mwy i helpu’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd yn cynyddu.

Fodd bynnag, does dim arwydd y bydd y cynnydd yn lleddfu, gyda disgwyl i gostau byw godi hyd yn oed ymhellach yn y misoedd nesaf.

Roedd tanwydd ymhlith yr effaith fwyaf ar y gyfradd chwyddiant, gyda phrisiau petrol cyfartalog yn codi 12.6c y litr rhwng mis Chwefror a mis Mawrth,

Dyma’r cynnydd misol mwyaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1990, meddai’r Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 3.5c y litr rhwng yr un misoedd yn 2021.

Cododd prisiau disel 18.8c y litr eleni, o’i gymharu â chynnydd o 3.5c y litr flwyddyn yn ôl.

Roedd y cynnydd yn y gyfradd chwyddiant yn uwch na’r 6.7% roedd dadansoddwyr yn ei ddisgwyl, ac fe gafodd ei ysgogi hefyd gan ddodrefn, bwytai a phrisiau bwyd.

Dydy’r ffigurau ar gyfer mis Mawrth ddim yn adlewyrchu’r cynnydd cyfartalog o 54% mewn biliau ynni a ddigwyddodd ar Ebrill 1.

“Rwy’n gwybod bod hwn yn gyfnod pryderus i lawer o deuluoedd, a dyna pam rydym yn cymryd camau i leddfu’r beichiau drwy ddarparu cymorth gwerth tua £22bn yn y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys i’r rhai mwyaf agored i niwed drwy ein cronfa Cymorth i Gartrefi,” meddai’r Canghellor Rishi Sunak wrth ymateb.

Adferiad parhaus

Fodd bynnag, mae busnesau yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig yn profi adferiad parhaus ers i’r cyfyngiadau covid-19 ddod i ben, yn ôl adroddiad newydd gan Ddirnad Economi Cymru.

Mae’r adroddiad yn asesu effaith ymyriadau ariannol Llywodraeth Cymru drwy ei Chronfa Cadernid Economaidd, a gefnogodd fusnesau ledled Cymru yn ystod pandemig Covid-19 ac a gafodd ei gomisiynu ar y cyd gan Ddirnad Economi Cymru, Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dyma rai o ganfyddiadau’r arolwg:

  • Teimla 86% o ymatebwyr fod cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yr un mor bwysig â Chynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran diogelu cyflogaeth;
  • Roedd 95% o’r busnesau a gafodd eu cefnogi yn ystod rowndiau cyllid 1 a 2 yn dal i fasnachu ar adeg yr arolwg rhwng Awst a Hydref 2021;
  • Er bod 65% o’r cyllid yn darparu sefyllfa cyfalaf gweithio â chymorth, cafodd 40% ei ddefnyddio gan fusnesau i fuddsoddi mewn hyfforddiant staff, arloesi a chyfalaf datblygu, gan roi’r derbynwyr mewn sefyllfa gryfach ar gyfer y dyfodol;
  • Creda 58% fod pob swydd yn eu busnesau mewn perygl ar adeg eu cais;
  • Dywedodd 22% o’r ymatebwyr fod nifer y gweithwyr wedi cynyddu ers dechrau’r pandemig;
  • Roedd gan 23% lai o weithwyr ar adeg yr arolwg na chyn y pandemig.
  • Er bod y mwyafrif helaeth o’r rhain wedi dweud bod swyddi naill ai wedi’u hachub neu eu diogelu diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru

‘Calonogol’

“Mae pandemig Covid wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer o fusnesau Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu pob lifer i’w cefnogi,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Mae’r adroddiad annibynnol hwn gan Dirnad Economi Cymru yn dangos pa mor bwysig ac arwyddocaol y mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu busnesau wedi bod yn ystod y cyfnod hwn.

“Mae’r canfyddiad bod 86% o’r ymatebwyr yn teimlo bod cymorth gan Lywodraeth Cymru’r un mor bwysig â Chynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran diogelu cyflogaeth yn dangos bod ein cymorth a’n hymyriadau a wnaed yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Mae cymorth amserol â ffocws, a ddarperir drwy ein Cronfa Cadernid Economaidd, wedi helpu i gadw pobl mewn swyddi ac wedi helpu’r busnesau y maent yn gweithio ynddynt i oroesi.

“Mae ein heconomi wedi dechrau dod allan o ddirywiad digynsail ac mae ein cyfradd ddiweithdra yn parhau i fod yn is na gweddill y Deyrnas Unedig.

“Mae’n galonogol gweld cyfran sylweddol o’r busnesau a gefnogwyd gennym yn awr yn mynegi hyder ynghylch eu gallu i dyfu cyflogaeth yn y flwyddyn i ddod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i chwarae ein rhan lawn wrth adeiladu a chynnal adferiad economaidd Cymru.”

‘Cefnogi busnes Cymru’

“Mae’r rhaglen ymchwil barhaus hon yn gwella ein dealltwriaeth o effeithiolrwydd ymyriadau beiddgar gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn ystod y pandemig,” meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru.

“Mae’n hanfodol ein bod yn deall effeithiolrwydd y mesurau hyn o ran goroesi ar sail ‘syth bin’, ond hefyd yng nghyd-destun twf economaidd mwy hir dymor ac mae’r canlyniadau hyd yn hyn yn optimistaidd gyda 95% o fusnesau’n cael eu cefnogi yng nghamau cynnar y pandemig sy’n dal i fasnachu a 22% eisoes yn dangos arwyddion o dwf.

“Mae’r gwerthusiad parhaus hwn o’r ymyriadau a wnaed i gefnogi busnesau yng Nghymru wedi elwa ar ddull cydweithredol.

“O’r herwydd, rwy’n falch ein bod wedi gallu gweithio ochr yn ochr â phartneriaid yn Llywodraeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd i gynhyrchu’r adroddiad hwn gan ei fod yn dangos cadernid ac uchelgais mentergarwyr Cymru yn glir.

“Bydd y Banc Datblygu yn parhau i weithio ochr yn ochr â’n holl bartneriaid i gefnogi busnes Cymru a’r adferiad economaidd parhaus.”