Mae Llinos Medi, Aelod Seneddol Ynys Môn, yn galw am gefnogaeth frys yn dilyn cau porthladd Caergybi.
Mae hi wedi ysgrifennu at Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn sgil difrod sylweddol i’r porthladd yn dilyn Storm Darragh.
Bu’n rhaid cau’r porthladd o ganlyniad i’r difrod ar Ragfyr 6, ac mae’n annhebygol y bydd yn ailagor cyn y Nadolig gan fod angen cwblhau gwaith atgyweirio.
Caergybi yw ail borthladd ‘i mewn ac allan’ prysuraf y Deyrnas Unedig, ac mae cerbydau a gyrwyr yn cael eu dargyfeirio o Gaergybi i nifer o borthladdoedd eraill, gan gynnwys Doc Penfro, Abergwaun, Lerpwl, a Cairnryan yn yr Alban.
Mae hyn wedi arwain at gryn oedi mewn porthladdoedd eraill.
Effaith ar yr economi
“Does dim amheuaeth y bydd yr effaith ar y sawl sy’n dibynnu ar y porthladd ar gyfer gwaith yn ddinistriol,” meddai Llinos Medi.
“Mae nifer o fusnesau ar yr ynys wedi cael eu heffeithio’n enfawr, a nifer o unigolion wedi colli’u swyddi ar unwaith.
“Mae’n amhosib lleihau effaith y storm heb gefnogaeth y llywodraeth.”
Mae hi’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio â Llywodraeth Cymru i helpu busnesau sydd wedi cael eu heffeithio, gan dynnu sylw at bwysigrwydd y porthladd o ran y berthynas fasnach rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn cydweithio â’r awdurdodau er mwyn lleihau effaith y storm, ond mae masnach ryngwladol yn fater sydd heb ei ddatganoli.
“O ystyried pwysigrwydd strategol y llwybr masnachu allweddol hwn o ran buddiannau masnachu’r Deyrnas Unedig gyfan, mae’n bwysig fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amlinellu’r rhan y byddan nhw’n ei chwarae wrth gryfhau gwytnwch porthladd Caergybi a chefnogi’r busnesau sy’n cynnal ein cysylltiadau masnach,” meddai.
“Mae’r porthladd yn llwybr masnach ryngwladol pwysig i’r Deyrnas Unedig i gyd.
“Rhaid i Lywodraeth San Steffan beidio ag aros yn dawel tra bo swyddi’n cael eu colli ac wrth i fusnesau ei chael hi’n anodd.”
Cymorth
Mae Gareth Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd yn y gogledd, yn galw ar lywodraethau Cymru, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ymyrryd ar frys er mwyn ailagor y porthladd.
Dywed fod cau’r porthladd yn cael “effaith enfawr ar yr ardal”, ac y bydd yn cael effaith ar economi Cymru a’r Deyrnas Unedig.
“Mae angen i Stena fod yn agored a thryloyw ynghylch pa gamau maen nhw’n eu cymryd i ddatrys y mater hwn,” meddai.
“Os oes angen cefnogaeth arnyn nhw gan lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, yna dylai’r llywodraethau fod yn barod i gamu i mewn.
“Mae’r cau parhaus yn cael effaith andwyol ar yr economi leol a’r gadwyn gyflenwi ehangach.
“Mae hi hefyd yn hanfodol bod gan deithwyr yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i wneud trefniadau teithio amgen pe bai angen.”