Mae penaethiaid Amgueddfa Cymru wedi mynegi optimistiaeth er gwaethaf un o’r blynyddoedd mwyaf anodd erioed, a “llifogydd mawr” yn yr oriel yng Nghaerdydd yn ystod y stormydd diweddar.

Dywedodd y Prif Weithredwr Jane Richardson wrth y Pwyllgor Diwylliant yn y Senedd fod Amgueddfa Cymru wedi cyffroi ar gyfer y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.

“Rydyn ni mewn lle gwahanol iawn, iawn heddiw nag yr oedden ni flwyddyn yn ôl,” meddai.

“Rydyn ni wedi bod drwy flwyddyn eithriadol o anodd, un o’r rhai mwyaf heriol yn hanes yr amgueddfa.”

Nododd fod yr amgueddfa wedi derbyn codiad o 3.5% neu £900,000 mewn gwariant refeniw dydd-i-ddydd, gan ychwanegu y bydd cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwr at yswiriant gwladol yn costio oddeutu £500,000 dros y flwyddyn.

“Mewn gwirionedd, mae angen oddeutu £2m arnon ni er mwyn aros yn yr unfan, felly mae rhywfaint o brinder,” meddai, wrth iddi ymddangos gerbron y pwyllgor ar gyfer craffu blynyddol ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 11).

‘Llifogydd mawr’

Dywedodd Jane Richardson fod yr amgueddfa wedi gwneud yn well o ran dyrannu arian cyfalaf ar gyfer buddsoddiad hirdymor, gydag awgrym o £8m ar gyfer amgueddfeydd yng Nghaerdydd, Abertawe a Llanberis.

“Mae’n newyddion gwych,” meddai wrth y pwyllgor.

“Bydd yr arian hwnnw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Y pryder fydd gennym ni yw pa mor gyflym fyddwn ni’n gallu cael gafael ar yr arian hwnnw.”

Galwodd Jane Richardson – gafodd ei phenodi fis Tachwedd 2023 yn fuan cyn toriad o 10% i gyllideb yr amgueddfa – am fwy o hyblygrwydd ar gyfer arian prosiectau’r amgueddfa.

Cyfeiriodd hi at enghraifft o £1.3m gafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fis Mai ar gyfer gwaith atgyweirio brys yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda llythyr grant yn cyrraedd ar Ragfyr 10.

“Ryw ddeng niwrnod yn ôl, cawson ni lifogydd mawr ar y llawr gwaelod ac i mewn i’r orielau gwyddorau naturiol,” meddai.

“Roedden nhw’n ofodau nad oedden ni’n gwybod eu bod nhw mewn perygl tan ddiwrnod y llifogydd.”

‘Erchyll’

“Roedd dirfawr angen i ni gynnal arolygon er mwyn deall lle mae’r dŵr yn dod i mewn,” meddai wedyn.

“Felly, mae’r achos busnes yn bownsio’n ôl ac ymlaen dros gyfnod o amser.”

Y llynedd, datgelodd Jane Richardson fod staff wrth law dros nos i symud celf gwerthfawr o ganlyniad i’r perygl o ddifrod, a chafodd pedwar bwced eu gosod y tu allan i’w swyddfa er mwyn dal dŵr glaw.

Cododd Alun Davies, cyn-weinidog Llafur, bryderon am y sefyllfa “erchyll” mae cyrff cyhoeddus yn dal i’w hwynebu wrth ymdrin â Llywodraeth Cymru.

“Mae’n ymddangos i fi bod hyn bron â bod yn rhyw fath o hunllef fiwrocrataidd,” meddai.

Dywedodd Jane Richardson y gall achosion busnes gwerth £2m neu fwy gymryd hyd at ddeunaw mis, wrth iddi alw am ymgorffori arian prosiectau yng ngrant craidd yr amgueddfa.

‘Amseroedd tywyll’

Fe wnaeth Heledd Fychan (Plaid Cymru), fu’n gweithio yn yr amgueddfa hyd nes iddi gael ei hethol i’r Senedd yn 2021, bwyso ar y prif weithredwr ynghylch diswyddiadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Jane Richardson fod yr amgueddfa wedi colli un ym mhob chwe aelod o staff, gyda 144 o ddiswyddiadau.

“Bu’n flwyddyn anodd, ac fe fu rhai amseroedd tywyll i’n cydweithwyr, ond ar y cyfan nawr, byddwn i’n dweud bod moral yn gwella’n sylweddol,” meddai.

“Ac mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gyffro wrth edrych ymlaen… mae yna ethos o dîm cryf ein bod ni wedi dod drwyddi gyda’n gilydd.”

Dywedodd Jane Richardson wrth y pwyllgor fod yr amgueddfa wedi gwrando ac wedi ceisio mynd i’r afael â phryderon fod llai o bobol ar ôl i wneud yr un faint o waith.

Tâl mynediad

Cadarnhaodd y prif weithredwr, sydd wedi ymdrin â phedwar gweinidog mewn blwyddyn, na fydd rhagor o ddiswyddiadau, cau safleoedd na chodi tâl mynediad yn dilyn y Gyllideb Ddrafft.

Ond awgrymodd y bydd tâl mynediad yn cael ei gyflwyno ar gyfer teithiau dan ddaear yn Amgueddfa Lofaol Cymru (Big Pit) yn dilyn arbrawf.

“Mae hynny’n mynd y tu hwnt i’r model mynediad rhad ac am ddim traddodiadol ar gyfer amgueddfa,” meddai.

Cododd Alun Davies bryderon fod codi ffi yn creu rhwystr, gan ddweud ei fod yn gyfystyr â thâl mynediad oherwydd bod y rhan fwyaf o bobol yn mynd i Big Pit er mwyn mynd dan ddaear.

“Mae’n anodd iawn bod yn sefydliad sy’n wynebu torri ei gyllideb mewn ffordd mor radical ac sy’n cael gwybod na all gynhyrchu incwm o’r cyfleoedd prin sydd ganddo,” meddai Jane Richardson wrth ymateb.

“Does gen i ddim pryderon ai dyma’r peth cywir i’w wneud, a byddaf yn ei argymell i’r bwrdd ar ran y tîm yn Big Pit, sy’n teimlo’r un fath.”