Bydd Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant ym Mangor yn cynnal gwasanaeth Nadoligaidd arbennig ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd ddydd Llun (Rhagfyr 16).

Bydd y gwasanaeth, ‘Duw a Dysgwyr Dolig’, yn cael ei addasu o wasanaeth Cymun traddodiadol.

Bydd geirfa ac ynganiad ffonetig yn cael eu darparu ar gyfer geirfa allweddol.

Bydd y gwasanaeth yn cynnwys carolau Nadolig, darlleniadau a phregeth fer.

Nod y fenter yw helpu’r rhai sy’n dysgu Cymraeg i gymryd rhan llawnach mewn addoliad ar draws yr esgobaeth.

Er bod y gwasanaeth wedi’i addasu’n arbennig, mae croeso mawr hefyd i siaradwyr Cymraeg rhugl, medd y trefnwyr.

Duw a Dysgwyr

Mae Duw a Dysgwyr yn wasanaeth Cymun misol dan arweiniad Esgobaeth Bangor, ac mae’n rhan o’u hymrwymiad i hybu’r Gymraeg yn eu heglwysi.

Cafodd y gwasanaeth ei lansio fis Mehefin eleni, ac mae wedi bod yn boblogaidd ar draws yr esgobaeth.

“Rydym yn gyffrous i fod yn cynnal ein gwasanaeth Cymun Nadolig cyntaf erioed i ddysgwyr,” meddai Elin Owen, galluogydd y Gymraeg yn Esgobaeth Bangor.

“Bydd yn ychwanegiad gwych at ddathliadau’r ŵyl i ddysgwyr o bob lefel!

“Mae gwneud addoliad Cymraeg yn hygyrch i ddysgwyr ar bob lefel yn hanfodol er mwyn cadw ein hiaith a’n traddodiadau yn fyw.

“Os ydi rhywun newydd ddechrau ar eu taith Gymraeg neu angen adeiladu eu hyder, fe gawn nhw groeso cynnes Nadoligaidd yn Duw a Dysgwyr Dolig.”

Yn dilyn y gwasanaeth, mae croeso i fynychwyr gael bwffe Nadolig, lle gallan nhw ymarfer eu Cymraeg gyda chyd-ddysgwyr mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol sydd yn cael ei gefnodi gan Fenter Iaith Bangor.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal am 12.30yp.