Dylai arian sydd wedi cael ei ddyrannu i Gymru gael ei wario gan Lywodraeth Cymru, meddai Plaid Cymru wrth feirniadu cronfa sydd wedi’i chyflwyno i hybu’r economi ar ôl Brexit.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi manylion pellach am y Gronfa Ffyniant Gyffredin, cronfa sydd wedi cael ei lansio er mwyn cymryd lle arian yr Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Mercher, Ebrill 13).
Fodd bynnag, dydy’r gronfa newydd ddim yn rhoi cymaint o arian i Gymru ag oedd yr Undeb Ewropeaidd, meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Bydd Cymru’n dlotach o £1bn, meddai, gan ddweud bod y Ceidwadwyr wedi torri eu haddewid i ddarparu rhaglen newydd “decach” fyddai’n “fwy addas ar gyfer economi Cymru.”
‘Penderfyniadau’n osgoi Llywodraeth Cymru’
Bwriad arian y gronfa yw helpu ardaloedd difreintiedig ac o dan y rhaglen newydd, bydd awdurdodau lleol yn cael eu hannog i gydweithio ar bwyllgorau rhanbarthol er mwyn penderfynu sut i wario’r arian.
Yn ôl Plaid Cymru, mae’r penderfyniadau ar gyfer gwario’r arian yn osgoi Llywodraeth Cymru, i bob pwrpas.
“Yn yr union ffordd ag y dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru, dylai arian sydd wedi’i ddyrannu i Gymru gael ei wario gan Lywodraeth Cymru – nid gan San Steffan a’u Gweinidogion Torïaidd,” meddai Liz Saville Roberts.
“Yn 2019, fe wnaeth y Torïaid addo cyfnewid arian yr Undeb Ewropeaidd â rhaglen oedd yn ‘decach’ ac wedi’i haddasu’n well ar gyfer economi Cymru. Maen nhw wedi torri’r addewid hwnnw.
“Mae’n llai na’r hyn gafodd ei addo a dydy o ddim hyd yn oed yn cyfateb ag arian yr Undeb Ewropeaidd, bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin hon, fel ei gelwir, yn golygu colled o £1bn i Gymru ac ein cymunedau.
“Mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod cynyddu’r cymorth rhanbarthol yn unol â’r chwyddiant heb ei debyg y maen nhw’n ei oruchwylio ar hyn o bryd – sy’n gwaethygu’r argyfwng costau byw ac yn gwasgu cyllidebau aelwydydd, yn ogystal â chyllidebau ein hawdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
“Tra bod arian yr Undeb Ewropeaidd i Gymru’n cael ei ddyrannu i gymunedau gan ein llywodraeth yn unol â’r angen, mae’r dull o ariannu rhanbarthol ôl-Undeb Ewropeaidd hwn yn dibynnu ar ‘fewnbwn’ ac adfocatiaeth Aelodau Seneddol.
“Drwy rannu Cymru’n 22 rhanbarth economaidd ar wahân, cwtogi nifer yr Aelodau Seneddol, torri corneli wrth ariannu, mae San Steffan yn sicrhau bod y rhaglen am fethu.
“Mae hyn yn ein hatgoffa eto, mewn ffordd chwerw, na fydd San Steffan fyth yn gweithio i Gymru.”
‘Gwella safonau byw’
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, bydd £585m ar gael i Gymru dros y tair blynedd nesaf, gyda £126m i’r gogledd, £42m i’r canolbarth, £138m i’r de-orllewin a £279m i’r de-ddwyrain.
Dywed Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd “cannoedd ar filoedd o bunnoedd yn cael eu targedu’n lleol yng Nghymru er mwyn gwella safonau byw a lledaenu cyfleoedd”.
“Byddan ni’n gweld yr arian hwn yn gweithio i ni,” meddai.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud bod pobol Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd a’u bod nhw’n falch o weld Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn “cyflwyno ewyllys y bobol unwaith eto, er gwaethaf blynyddoedd o rwystrau gan Lafur yng Nghymru a San Steffan”.
“Dw i’n falch o weld mai Cymru fydd yn ennill fwyaf drwy’r gronfa hon,” meddai Paul Davies, llefarydd economi’r Ceidwadwyr Cymreig.
“Yn groes i’r hyn mae gweinidogion Llafur am i bobol gredu, bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod pob rhan o Gymru’n elwa wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Byddwn yn annog pob rhan o Gymru i gymryd y cyfle i weithredu dros eu cymunedau lleol.”
‘Methu cymeradwyo’r dull’
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud heddiw na fu’n bosib iddyn nhw gymeradwyo’r dull y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi’i fabwysiadu ar gyfer y gronfa.
“Er bod rhywfaint o newid wedi bod, nid yw’r cynlluniau ariannu a nodwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw yn adlewyrchu anghenion penodol cymunedau Cymru,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.
“Rydym yn pryderu na fydd digon yn cyrraedd y cymunedau hynny sydd â’r angen mwyaf. Cynigiodd Llywodraeth Cymru fformiwla amgen a fyddai’n dosbarthu cyllid yn decach ledled Cymru yn ôl yr angen economaidd, ond gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Nid yw rôl arfaethedig Llywodraeth Cymru chwaith yn cynnwys swyddogaeth gwneud penderfyniadau gwirioneddol sy’n hanfodol er mwyn sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl a pharchu datganoli yng Nghymru.
“Ar y sail hon, ni fu’n bosibl cymeradwyo’r dull y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei fabwysiadu ar y Gronfa hon ac ni allwn gefnogi eu penderfyniad i ailgyfeirio cronfeydd datblygu economaidd i ffwrdd o’r ardaloedd hynny yn benodol lle mae’r tlodi gwaethaf.
“Mae’r penderfyniad anflaengar hwn yn cael ei ddwysáu gan y gostyngiad dramatig yn yr arian y byddai Cymru wedi’i gael pe bai Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflawni ei haddewid i ddisodli arian yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Cymru yn llawn.”
‘Penderfyniadau anodd’
Ychwanega Vaughan Gething fod y setliad ariannol dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn golygu bod Cymru’n wynebu colled o dros £1bn mewn cyllid o gymharu â’r hyn fyddai wedi dod gan yr Undeb Ewropeaidd dros y tair blynedd nesaf.
“Dros y tair blynedd ariannol nesaf, bydd y Fframwaith yn darparu £585 miliwn i awdurdodau lleol yng Nghymru,” meddai.
“Er bod y pecyn ariannu cyffredinol hwn yn cymharu’n gymharol ffafriol â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig, nid yw’n bodloni ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyfateb o leiaf i faint cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd y bu i Gymru gymhwyso ar eu cyfer yn flaenorol ac y byddai wedi parhau i fod yn gymwys ar eu cyfer.
“Yn syml, rydym yn wynebu colled o dros £1bn mewn cyllid heb ei ddisodli dros y tair blynedd nesaf.
“O ganlyniad, bydd penderfyniadau anodd i’w gwneud gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill ar draws busnesau, addysg uwch ac addysg bellach, a’r trydydd sector sydd wedi elwa o Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol.”