Does “dim amheuaeth” bod erchyllterau yn cael eu cyflawni gan luoedd Rwsia yn Wcráin, yn ôl Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Daw hyn wrth i frwydro ffyrnig barhau yn ninas Mariupol, yn ne-ddwyrain y wlad.

Mae Rwsia’n honni bod mwy na 1,000 o filwyr Wcráin wedi ildio yn y ddinas a’u bod nhw bellach wedi cymryd rheolaeth yno.

Ond mae’r prif ymgynghorydd i’r Arlywydd Volodymyr Zelensky yn dweud bod eu lluoedd wedi cael eu hatgyfnerthu yn y ddinas, a bod rhannau o Mariupol yn dal i fod mewn dwylo Wcreinaidd.

Mae’n anodd iawn gwirio beth sy’n digwydd yn y ddinas ar hyn o bryd, ond wrth siarad gyda golwg360, dywedodd Mick Antoniw fod “Mariupol wedi cael ei ddinistrio fwy neu lai fel dinas, mae degau o filoedd o bobol wedi cael eu lladd a does dim amheuaeth fod erchyllterau wedi cael eu cyflawni”.

“Dydyn ni ddim yn gwybod eto os oes arfau cemegol wedi cael eu defnyddio, ond rydyn ni’n gwybod bod lluoedd Wcráin yn dal i fod mewn rheolaeth yng nghanol y ddinas a dydyn nhw ddim yn mynd i ildio – maen nhw wedi dweud eu bod yn bwriadu brwydro tan y dyn olaf,” meddai.

“Dyw’r frwydr am Mariupol ddim drosodd eto ond mae hi yn sefyllfa anodd dros ben.

“Mae Rwsia yn amlwg yn rheoli rhannau o’r ddinas, ond mae ardaloedd megis y porthladd a’r gwaith haearn dal i fod yn nwylo lluoedd Wcráin.

“Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd canlyniad y brwydro, ond pe bai Rwsia wedi cymryd y ddinas i gyd, byddem yn gwybod hynny oherwydd fe fyddai’r Rwsiaid yn ffilmio’r cwbl a byddem yn gweld y carcharorion.”

Nod gwreiddiol y rhyfel “wedi methu’n llwyr”

“Mae nod cyntaf y rhyfel hwn, sef concro Wcráin gyfan, y brifddinas Kyiv, a sefydlu Llywodraeth byped wedi methu’n llwyr,” meddai Mick Antoniw wedyn.

“Ffocws Rwsia nawr yw concro rhannau o Luhansk a Donetsk a’u cysylltu â’r Crimea ac mae’n ymddangos mai dyna yw’r strategaeth ar hyn o bryd.

“Dyw’r frwydr fwyaf heb ddechrau eto, ac mi fydd hi yn frwydr eithriadol o waedlyd.

“Mae canlyniad y frwydr honno yn dibynnu ar faint o’r arfau sydd eu hangen ar Wcráin er mwyn amddiffyn eu hunain maen nhw’n eu derbyn.

“Dw i ddim yn credu bod Wcráin wedi derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw hyd yma, mae popeth wedi bod yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr.

“Mae nawr yn gyfle i wneud yn iawn am hynny, ond does dim amheuaeth bod yna wendidau enfawr ar yr ochr Ewropeaidd.

“Yn gyntaf, y ffaith bod yr Almaen yn ariannu’r rhyfel i bob pwrpas.

“Mae’n rhaid i’r Almaen, ond hefyd Ffrainc, yr Eidal, ac Awstria, wrthod prynu mwy o olew gan Rwsia. Mae angen boicot economaidd llwyr.

“Mae’n hollol hurt fod gwledydd Ewropeaidd ar un llaw yn cyflenwi Wcráin gydag arfau ac ar y llaw arall yn rhoi arian i [Vladimir] Putin sy’n caniatáu iddo ariannu’r rhyfel.”

‘Hil-laddiad’

Fe gyhuddodd Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, luoedd Rwsia o gyflawni hil-laddiad yn Wcráin heddiw (dydd Mercher, Ebrill 13) gan alw Vladimir Putin yn “droseddwr rhyfel”.

Mae sawl ymchwiliad ar y gweill i erchyllterau Rwsia yn Wcráin, sy’n cynnwys dinistrio Mariupol a dienyddio dinasyddion y wlad yn Bucha.

Agorodd yr erlynydd yn y llys troseddol rhyngwladol yn yr Hague achos ym mis Chwefror gan ddweud bod “sail resymol i gredu bod troseddau rhyfel honedig a throseddau yn erbyn y ddynoliaeth wedi’u cyflawni yn Wcráin”.

Mae’r Kremlin yn dweud eu bod yn anghytuno’n llwyr ag Arlywydd yr Unol Daleithiau.

“Rydym o’r farn fod y math hwn o ymdrech i waethygu’r sefyllfa’n annerbyniol,” meddai Dmitry Peskov, llefarydd y Kremlin.

“Nid yw rhethreg o’r math hwn yn dderbyniol gan Arlywydd yr Unol Daleithiau.”

Ond ôl Mick Antoniw, mae Joe Biden “yn llygad ei le”.

“Mae’n glir iawn beth yw strategaeth Rwsia, eu nod nhw yw dad-Wcreinio Wcráin,” meddai.

“Mae’n ymddangos mai’r hyn maen nhw’n bwriadu ei wneud ydy caethgludo pobol Wcráin i diriogaethau pell yn nwyrain Rwsia.

“Yna byddan nhw’n mewnfudo dinasyddion Rwsia i feddiannu’r ardaloedd hynny maen nhw’n eu concro.

“Dw i’n credu bod (Joe) Biden yn llygad ei le pan mae’n dweud bod hil-laddiad ar fin digwydd.”

‘Gwarchod eu swyddi ar gefn gwaed Wcreinaidd’

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson a’r Canghellor Rishi Sunak yn “gwarchod eu swyddi ar gefn gwaed Wcreinaidd”, medd Mick Antoniw, wrth droi ei sylw wedyn at San Steffan.

Daw hyn ar ôl i’r ffaith fod y rhyfel yn parhau yn nwyrain Ewrop yn cael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad nad yw’r ddau wedi ymddiswyddo yn dilyn derbyn dirwyon gan Heddlu’r Met am fynychu parti yn Rhif 10 Downing tra roedd cyfyngiadau Covid mewn grym.

“Mae’n afiach fod yr erchyllterau a’r hil-laddiad sy’n digwydd yn Wcráin yn cael eu defnyddio fel ffordd o esgusodi anonestrwydd a chelwyddau Boris Johnson a Rishi Sunak,” meddai.

“Maen nhw’n gwarchod eu swyddi ar gefn gwaed Wcreinaidd.

“Mae’r peth yn hollol warthus.

“Er hynny, roedd hi’n bwysig fod Boris Johnson wedi ymweld â’r Arlywydd Zelensky.

“Mae hi’n bwysig fod arweinwyr gwledydd Ewropeaidd a thu hwnt yn ymweld â Kyiv ac yn dangos undod gyda Llywodraeth Wcráin.

“Bydd yn rhaid i eraill farnu beth ysgogodd Boris Johnson i wneud y daith yno, ond yn sicr roedd hi’n bwysig ei fod wedi mynd.”