Mae Mark Drakeford yn dweud ei bod hi’n bwysig parhau i wneud “pethau syml” i reoli lledaeniad Covid-19.

Soniodd Prif Weinidog Cymru am bum peth y gall pawb eu gwneud i ddiogelu iechyd y cyhoedd, gan gynnwys aros gartref os oes gan rywun symptomau’r coronafeirws.

Daw ei sylwadau ar ôl i Lywodraeth Cymru gynnal yr adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws.

Bydd y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i fod mewn grym am y tair wythnos nesaf.

Fodd bynnag, bydd y gofyniad cyfreithiol i fusnesau gynnal asesiadau risg penodol i’r coronafeirws yn dod i ben ddydd Llun (Ebrill 18).

Fe fydd Llywodraeth Cymru’n parhau i annog busnesau i gymryd camau i weithredu mewn modd diogel.

‘Coronafeirws dal yma’

Dywed Mark Drakeford y bydd parhau i wisgo mygydau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn helpu i reoli lledaeniad Covid yno, yn enwedig o ystyried mai yno mae rhai o’r bobol fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn cael eu trin ac yn byw.

Mae’n dweud y bydd y cam yn helpu i ddiogelu staff hefyd.

“Ry’n ni’n cadw’r gofyniad penodol hwn tra’r ydym yn parhau i symud yn raddol ac yn ofalus y tu hwnt i’r ymateb brys a symud oddi wrth yr amddiffyniadau cyfreithiol sydd wedi bod mewn grym dros y ddwy flynedd diwethaf,” eglura.

“Dyw hyn ddim yn golygu bod y pandemig drosodd. Yn anffodus, mae’r coronafeirws dal yma – ry’n ni wedi gweld cynnydd mewn heintiau dros y mis diwethaf, gyda niferoedd mawr o bobol yn mynd yn sâl a chynnydd yn y niferoedd sy’n gorfod mynd i ysbyty.

“Ry’n ni’n gobeithio ein bod yn dechrau troi’r cornel. Ond mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn parhau i gymryd camau i ddiogelu ein gilydd.

“Mae popeth ry’n ni’n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth i’r bobol o’n cwmpas – fel y mae wedi’i wneud ers dechrau’r pandemig.

“Gyda’n gilydd, gallwn ddiogelu Cymru a mwynhau dyfodol gwell.”

Y “camau syml”

Y pum cam mae Llywodraeth Cymru yn eu hargymell er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd yw:

  • hunanynysu os ydyn nhw’n sâl neu’n profi’n bositif am Covid-19;
  • gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus prysur o dan do;
  • cwrdd yn yr awyr agored pan fo’n bosib, ac awyru mannau o dan do yn dda;
  • cymryd camau ychwanegol wrth ymweld â phobol sy’n agored i niwed. Dylai pobol osgoi cwrdd â nhw os oes ganddyn nhw unrhyw symptomau haint anadlol os yw’n bosib;
  • golchi dwylo’n rheolaidd a gorchuddio’r geg a’r trwyn wrth beswch neu disian.

Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i ddweud mai cael y brechlyn yw’r peth pwysicaf y gall pawb ei wneud i ddiogelu eu hunain.

Bydd y brechlyn atgyfnerthu ar gael y gwanwyn hwn i bobol 75 mlwydd oed a hŷn, pobol sy’n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn, a phobol 12 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.

Mae gwahoddiadau hefyd yn cael eu hanfon i deuluoedd sy’n cynnwys plant rhwng pump ac 11 oed sydd nawr yn gymwys am ddos sylfaenol o’r brechlyn.

Galw am ymestyn y pedwerydd dos o’r brechlyn

Wrth ymateb, dywed y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eu bod nhw’n cytuno bod cadw mygydau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yn “gam synhwyrol a fydd yn helpu i amddiffyn unigolion mwyaf agored i niwed cymdeithas”.

“Rydyn ni’n falch bod Cymru nawr yn symud tuag at fyw gyda Covid-19 hefyd, ac y bydd bywyd yn dychwelyd at ryw fath o normalrwydd, fodd bynnag, hoffwn weld bod y pedwerydd brechlyn atgyfnerthu’n cael ei ymestyn i bobol dan 75 oed sydd ei eisiau,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Byddai cynnig pedwerydd brechlyn i bobol sydd ei eisiau’n helpu pobol sy’n agored i niwed neu bobol sy’n nerfus wrth i bethau agor eto i gael yr hyder i ymgysylltu’n llawn â phopeth maen nhw am ei wneud.”

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau Covid-19 yn cael ei gynnal erbyn Mai 5.