Bydd grŵp o gwmnïau bwyd a diod o Gymru yn mynd i Birmingham ddiwedd y mis ar gyfer dwy sioe yn y calendr coginio.

Mae’r grŵp yn cynnwys dros 40 o gwmnïau o Gymru a fydd yn cael sylw mewn dau ddigwyddiad rhwng Ebrill 25 a 27 – Farm Shop & Deli Show 2022 a’r Expo Bwyd a Diod 2022.

Bydd stondin Llywodraeth Cymru yn ardal yr Expo Bwyd a Diod yn cynnwys dwsin o gynhyrchwyr bwyd a diod mwyaf adnabyddus Cymru, tra bydd stondin Clwstwr Bwyd Da a Chlwstwr Mêl Bwyd a Diod Cymru yn y Farm Shop & Deli Show yn cynnwys 20 o gwmnïau sydd wedi cydweithio i ddatblygu a chyflwyno arddangosfa.

Wedi’i gydlynu gan brosiect Cywain, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes, mae’r Clwstwr Bwyd Da yn ceisio rhoi llwyfan i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol o Gymru gydweithio.

Mae’r gweithgareddau cydweithio’n ymestyn dros feysydd amrywiol, megis cynnal stondinau ar y cyd mewn digwyddiadau fel y Farm Shop & Deli Show, rhannu gwybodaeth, nodi a datrys problemau cyffredin, trefnu hyfforddiant grŵp, a manteisio ar gyfleoedd masnachol ar y cyd fel clwstwr.

Ariennir Cywain gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig / Cronfa Pysgodfeydd Ewrop.

“Hyder”

Mae llawer o’r cynhyrchwyr fydd yn rhan o’r arddangosfeydd yn ‘raddedigion’ ‘Her Ehangu’ Cywain.

Wedi’i harwain gan arbenigwyr a mentoriaid a’i chynnal dros chwe sesiwn wythnosol, roedd yr ‘Her Ehangu’ yn cyflwyno cyngor ymarferol i helpu cwmnïau llai i ehangu eu gweithgareddau i ddatblygu eu busnesau.

Dywed Claire Jesse, perchennog Welsh Homestead Smokery yn Nhregaron, fod bod yn rhan o’r Her Ehangu wedi rhoi hyder iddi.

“Roedd yr Her yn dda iawn; helpodd ni i ganolbwyntio a blaenoriaethu pethau,” meddai.

“Mae wedi rhoi mwy o hyder i ni fynd i’r afael â phethau hefyd a bod yn rhan o ddigwyddiadau fel y Farm Shop & Deli Show, a byddwn yn cynghori unrhyw gwmni i gymryd rhan.

“Yr hyn oedd yn arbennig o werthfawr oedd cael mynediad uniongyrchol i fentoriaid yr Her.

“Fel cwmni bach, dydych chi ddim bob amser yn cael cyfle i siarad â pherchnogion cwmnïau mwy o faint, ond trwy’r Her Ehangu, cawsom gyfle i rwydweithio â nhw.”

‘Cyfle gwych’

Dywed Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig a Gogledd Cymru yn Llywodraeth Cymru ei bod hi’n “wych gweld mwy na 40 o fusnesau bwyd yn mynd i’r ddau ddigwyddiad masnach mawr hyn”.

“Bydd yn gyfle gwych i arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru i ddarpar brynwyr newydd ac rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi eu presenoldeb yn y sioeau,” meddai.

“Dymunaf bob llwyddiant iddynt.”