Mae cynlluniau ar gyfer canolfan radiotherapi i gleifion canser gael triniaeth yn nes at adref wedi cael eu cyflwyno i Gyngor Sir Mynwy.

Nod y ganolfan arfaethedig yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni, sy’n fenter ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yw darparu gwasanaethau radiotherapi ychwanegol a mwy hygyrch i drigolion Gwent a de Powys.

Yn ôl cynlluniau sydd wedi’u rhoi i Gyngor Sir Mynwy, bydd adeilad gwasanaethau cyn-enedigol yn yr ysbyty yn cael ei ddymchwel, gyda chanolfan lloeren radiotherapi dau lawr yn cael ei chodi yn ei le.

Y cynlluniau

Mae datganiad cynllunio’n nodi bod yr uned gwasanaethau cyn-enedigol, a fydd yn symud i ran arall o’r ysbyty, yn gadael ei hadeilad presennol yn ddiweddarach eleni gan digon o le i ailddatblygu’r safle.

Bydd y ganolfan yn estyniad o adeiladau presennol yr ysbyty, ond mae’r datganiad cynllunio’n nodi y bydd ganddi ei “hunaniaeth ei hun” a mynedfa ar wahân.

Bydd gardd sydd â golygfeydd hardd a lle i eistedd i fwynhau byd natur yn “ganolbwynt” i’r cynlluniau.

Bydd cyfleusterau triniaethau ar y llawr gwaelod, tra bydd swyddfeydd, gweithdai a chyfleusterau gorffwys ar y llawr uwchben.

Bydd cyfleusterau’r ganolfan yn cynnwys ardal aros, swît adolygu triniaethau, swît radiotherapi a swît delweddau.

Bydd y ganolfan hefyd “mor garbon-niwtral â phosib”, ac yn cynnwys paneli solar ar y to, yn ôl y datganiad cynllunio.

Ymgynghoriad

Mewn ymgynghoriad cyn cyflwyno’r cais, dywedodd Cyngor Tref y Fenni eu bod nhw’n “siomedig” nad yw’r cynlluniau’n cynnwys darpariaeth ar gyfer golau naturiol i mewn i ganol yr adeilad oddi uchod, ac maen nhw wedi cynnig nifer o addasiadau i’r dyluniad.

Yn ôl ymateb gan y rhai a wnaeth y cais, mae’r cynlluniau’n cynnwys darpariaeth i sicrhau bod golau naturiol yn dod i mewn i’r coridorau drwy ofod ar ddwy ochr yr adeilad.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi mynegi pryder am “wybodaeth annigonol” yn y cais.

Mae’r uned radiotherapi wedi cael ei glustnodi i roi triniaeth i gleifion yn nes at eu cartrefi, gyda’r rhan fwyaf ar hyn o bryd yn gorfod teithio i Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd.

Mae’r cynlluniau’n rhan o’r rhaglen o weddnewid gwasanaethau canser yn ne-ddwyrain Cymru, sy’n anelu i ddarparu triniaethau’n nes at adref, lleihau anghydraddoldeb gwasanaethau a lleihau amserau teithio.

“Nid yn unig mae’r SRU (canolfan lloeren radiotherapi) o fewn Ysbyty Nevill Hall yn ceisio cyflwyno canolfan triniaethau canser newydd hanfodol, ond mae hefyd yn ceisio cyflwyno’r ganolfan newydd gyda lles, yr amgylchedd a phensaernïaeth wrth ei chalon,” meddai’r datganiad cynllunio.

Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys mynedfa newydd i ambiwlansys gael gollwng cleifion, yn ogystal â maes parcio newydd â lle i 74 o ddefnyddwyr yr ysbyty, ac is-orsaf newidydd newydd.

Bydd Cyngor Sir Mynwy yn asesu’r cynlluniau hyn.