Mae’n bosib y bydd yn rhaid i drigolion Ynys Môn ddod i arfer â Virginia Crosbie fel eu haelod seneddol, a hithau wedi dweud wrth golwg360 nad yw hi’n “mynd i unman”.

Datgelodd fod ei chyfarfod i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal ymhen ychydig wythnosau.

Ac mae’r ddynes a gafodd ei geni yn Essex, ond sydd â’i thad o Gymru, yn ffyddiog y bydd trigolion Môn Mam Cymru yn ei hailethol.

“Mae gan Ynys Môn enw da am fod yn hynod o deyrngar i’w haelod seneddol, gyda’r sedd ond yn newid pleidiau gwleidyddol pan fydd aelod yn camu o’r neilltu,” meddai wrth golwg360.

“Ym mis Rhagfyr 2019, rhoddodd Ynys Môn ei hymddiriedaeth ynof i’w gwasanaethu ac mae’n fraint ac yn anrhydedd rwy’n ei chymryd o ddifrif.

“Fi oedd yr unig ymgeisydd nad oedd yn siarad Cymraeg a’r unig ymgeisydd o Lundain, ac eto cefais fy ethol gan yr ynys.

“Rwy’n benderfynol o wneud fy ngorau – dydy’r swydd hon ddim yn dod gyda llawlyfr – rwy’n anelu at drin eraill sut yr hoffwn gael fy nhrin a gwneud yfory yn ddiwrnod gwell i gynifer ar yr ynys â phosibl.

“Dw i ddim yn bwriadu mynd i unman ac mae fy nghyfarfod i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal ymhen ychydig wythnosau.

“Fel y dywedais, dw i ddim yn mynd i unman.”

‘Dwy flynedd ddiwethaf yn eithriadol o anodd’

Er nad yw Virginia Crosbie yn bwriadu “mynd i unman”, mae’n ddigon posib y bydd yna newidiadau mawr yn y Blaid Geidwadol, wrth i Heddlu Llundain roi dirwyon i’r Prif Weinidog Boris Johnson a’r Canghellor Rishi Sunak.

Ond er yr holl sgandalau sy’n amgylchynu’r Llywodraeth a’r diffyg ymddiriaeth ynddyn nhw ymhlith y cyhoedd, mae Virginia Crosbie yn mynnu bod pobol wedi gwneud y peth iawn wrth bleidleisio dros Lywodraeth Geidwadol yn 2019.

Mae hi hefyd yn ffyddiog mai “materion lleol” fydd yn dylanwadu ar yr etholiadau lleol ym mis Mai, yn hytrach na’r naratif cenedlaethol.

“Pe bai Llafur wedi ennill etholiad 2019, byddai Jeremy Corbyn wedi bod yn Brif Weinidog – mae’n debyg y byddem yn dal i drafod Brexit, fydden ni ddim wedi cael y brechlyn cyflymaf yn Ewrop a fyddai’r Deyrnas Unedig ddim yn cefnogi Wcráin i’r graddau rydym yn ei wneud.

“Byddai unrhyw blaid wleidyddol wedi cael y ddwy flynedd ddiwethaf yn eithriadol o anodd ac mae’r blynyddoedd nesaf yn mynd i barhau i fod yn anodd.

“O ran yr etholiadau lleol, maen nhw’n ymwneud â materion lleol.

“Ar Ynys Môn, mae gan y Ceidwadwyr 35 o ymgeiswyr yn sefyll am 35 sedd.

“Mae gen i dîm rhagorol sydd i gyd wedi’u lleoli yng Nghaergybi, ac rwy’n hynod falch ohonyn nhw.

“Gyda thîm o gynghorwyr Ceidwadol, byddwn yn gallu gwneud hyd yn oed mwy dros ein hynys a byddai gen i gynghorwyr Ceidwadol yn gallu ymladd dros fy etholwyr ar faterion allweddol.”

Rhoi lloches i ferch o Wcráin

Mae Virginia Crosbie hefyd wedi datgelu ei bod hi a’i theulu yn paratoi i groesawu merch Aelod Seneddol o Wcráin wrth i’r rhyfel barhau yn nwyrain Ewrop.

“Mae’r ystafell yn barod ac rydym ni fel teulu i gyd yn edrych ymlaen at roi cartref diogel iddi,” meddai.

“Rwy’n gwybod y bydd pobol Ynys Môn yn rhoi croeso cynnes iddi hi hefyd.

“Mae hi’n ferch i Aelod Seneddol sy’n rhan o blaid yr Arlywydd Zelensky, a bydd hi’n parhau i astudio ar-lein tra mae hi’n aros gyda ni.

“Dw i bellach yn cysylltu â theuluoedd eraill â ffoaduriaid sydd i fod i gyrraedd fel y bydd ganddi strwythur cymorth unwaith y bydd hi yma.

“Dw i ddim eisiau dweud mwy mewn gwirionedd, mae hwn yn benderfyniad rydym wedi’i wneud fel teulu oherwydd ein bod yn awyddus i helpu.

“Dw i’n credu hefyd fod angen i ni barchu preifatrwydd y fenyw ifanc a rhoi amser iddi addasu i’r hyn a fydd yn newid enfawr i’w bywyd.”