Mae’r delynores Elinor Bennett wedi cynnig rhoi llety i delynores o Wcráin a’i theulu, sydd wedi gorfod ffoi o’u cartref yn ninas Kharkiv.

Mi oedd y Gymraes wedi recordio cyfweliad Zoom ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 12) gyda’r delynores Veronica Lemishenko, a fydd yn cael ei darlledu heno (nos Fercher, Ebrill 13) yn ystod cyngerdd yr Ŵyl yn Galeri.

Bydd y sgwrs yn cyd-fynd â pherfformiad a gafodd ei recordio yn arbennig i’r Ŵyl ddoe gan y delynores yng nghanolfan delynau Camac yn Llydaw.

Doedd hi ddim wedi llwyddo i gael fisa mewn pryd i ddod i Gymru.

Mae rhieni’r delynores yn ninas Lviv ar hyn o bryd, ar ôl gorfod gadael eu cartref yn Kharkiv oherwydd bygythiadau Rwsia. Mae ei thad yn iau na 55, ac felly yn gorfod aros yn Wcráin ar gais y Llywodraeth.

“Dw i wedi cynnig iddi hi a’i rhieni a’i chariad,” meddai Elinor Bennett, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Delynau Cymru.

“Mae ganddon ni le. Mae’r cynnig iddyn nhw ddod i’n tŷ ni os bydd angen. Dw i eisio helpu. Dw i’n teimlo mor ofnadwy bod angen help. Fedra i ddim helpu, mae dyn yn teimlo drostyn nhw.

“Roedd hi’n ddiolchgar ofnadwy ei fod o ar gael. Ond dydi hi ddim yn teimlo mewn sefyllfa ar y funud (i wybod) beth mae hi’n ei wneud. Mi wnes i ofyn a oes ganddi hi gartref ar hyn o bryd – wel, nagoes.”

Mae Elinor Bennett yn briod â Dafydd Wigley, cyn-lywydd Plaid Cymru, ac yn byw ar gyrion y Bontnewydd ger Caernarfon.

Ysgol gerdd yn lloches rhag y bomiau

Gadawodd Veronica Lemishenko Rwsia, lle’r oedd hi’n gyflogedig gyda cherddorfa, unwaith y dechreuodd y rhyfel, ac mae hi wedi mynd o wlad i wlad ers hynny.

Ar hyn o bryd, mae hi’n llochesu dros dro yn Paris.

“Ro’n i’n gofyn iddi ble roedd ei thelyn hi,” meddai Elinor Bennett.

“Mwy na thebyg roedd hi yn cael telyn rhywun arall yn Rwsia. Felly mae ei thelyn hi yn Kharkiv.

“Roedd ei rhieni wedi gorfod rhedeg i ffwrdd, mae ei thelyn hi’n dal yn yr ysgol gerdd lle’r oedd hi’n cael gwersi. Mae fan’na rŵan yn bomb shelter ac mae ei thelyn hi yn fanno.”

Ers mis, mae Veronica Lemishenko wedi bod yn cynnal cyngherddau a dosbarthiadau i godi arian trwy ei Sefydliad Elusennol i helpu’r achos dyngarol yn Wcráin.

“Dyna beth mae cerddoriaeth yn gallu ei wneud – mae o’n dod â phobol at ei gilydd i gydweithio,” meddai Elinor Bennett.

“Mae ganddi hi lot o bobol mae hi’n eu hadnabod sy’n delynorion, ac mae gymaint o delynorion eisio helpu. Mi aeth i Dwrci, i Slofenia, i Brâg, yna aeth i Fiena, mae hi ym Mharis rŵan.”

Roedd yr ŵyl delynau y mae hi’n ei threfnu, Gŵyl Glowing Harp, i fod i ddechrau heddiw yn Kharkiv.

Mae manylion sut mae cyfrannu at sefydliad elusennol Veronica Lemishenko ar y wefan www.glowingharp-ukraine.com/en