Cipiodd Prifysgol Bangor fwy o wobrau na’r un brifysgol arall yn hanes gwobrau RTS Cymru eleni.

Cafodd y gwobrau eu cynnal yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd, ac enillodd ffilmiau a gafodd eu cynhyrchu ym Mangor saith tlws.

Y ffilmwyr llwyddiannus oedd Shafin Basheer a Kumara Gadda, y ddau o India, Matt Evans o’r Fali ar Ynys Môn a Dion Jones o Gaernarfon.

Enillodd Matt Evans wobr am y Ddrama Ôl-radd Orau, Between the Headphones, a gwobr am ddylunio cynhyrchiad ar gyfer yr un ddrama.

Daeth Shafin Basheer i’r brig yn y wobr Cynhyrchiad Ôl-radd Ffeithiol Gorau am Love of my Landscape, ac enillodd Dion Jones y wobr ysgrifennu ar gyfer Y Lein: Friction Dynamics.

Cipiodd Kumara Gadda’r wobr am waith camera a golygu am y ffilm Chitti: The Missing Girl, ac enillwyd gwobrau Crefft Myfyrwyr ar ran y pedair ffilm o Fangor a lwyddodd i gyrraedd y rhestr o enwebiadau hefyd.

Bydd y ffilmiau yma’n mynd yn eu blaenau i gael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Teledu Myfyrwyr yr RTS, a fydd yn cael eu cynnal yn Llundain ddiwedd mis Mehefin.

Adrodd hanes streic Friction Dynamics

Dywed Dion Jones ei fod wedi bod eisiau adrodd hanes streic ffatri Friction Dynamics yng Nghaernarfon rhwng 2001 a 2003 ers iddo ddechrau’r cwrs.

Roedd taid Dion yn un o’r 86 gweithiwr yn y ffatri, a oedd yn gwneud darnau ar gyfer ceir, fu’n streicio am bron i dair blynedd ar ôl i amodau a thelerau cyflogaeth y cwmni newid dan berchennog newydd.

“Y gobaith yw y bydd ennill y wobr yma gan RTS Cymru yn dangos y potensial sydd yna i wneud hon yn ffilm hirach ar gyfer teledu neu i’w rhyddhau’n annibynnol,” meddai Dion Jones.

“Mae wir yn rhan o’n hanes ni na ddylai fynd yn angof.”

‘Hwb mawr’

“Fel gwneuthurwyr ffilm ifanc, mae ennill y wobr yma’n gam mawr yn fy ngyrfa ac yn fy annog i wneud mwy o’r hyn rwy’n ei garu – sef gwneud ffilmiau am natur a phobol,” meddai Shafin Basheer.

Dywed Dr Geraint Ellis o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor ei bod hi’n noson “arbennig”.

“Mae pawb mor falch o’r cyn-fyfyrwyr am beth maen nhw wedi ei gyflawni,” meddai.

“Roedd y ffilmiau’n amrywio’n fawr o ran yr arddull a’r testunau ond roedd safon pob un o’r cynyrchiadau yn uchel iawn.

“Dw i’n sicr bydd y llwyddiant hwn yn rhoi hwb mawr i’r gwneuthurwyr ffilm talentog yma wrth i’w gyrfaoedd ddatblygu ac mi fydd o’n gyffrous gweld beth arall y gallan nhw gyflawni.”