Bydd Côr Telynau Gogledd Cymru yn perfformio yn gyhoeddus am y tro cyntaf erioed heno (nos Fercher, Ebrill 13) mewn cyngerdd yng Nghaernarfon.
Cafodd y côr telynau ei sefydlu ym mis Ionawr eleni gan Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, i roi “her” i fyfyrwyr telyn o safon o dan arweiniad y beirniad telyn Tudur Eames.
“Mae ganddon ni Gôr Telyn Gwynedd a Môn sydd o gwmpas safon Gradd 3 a 4, ond mae yna delynorion allan yna sydd yn uwch eu safon hyd yn oed, a doedden ni ddim yn cynnig dim byd iddyn nhw,” meddai Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, sydd â’i swyddfa yn Galeri.
“Syniad oedd o iddyn nhw gael gweithio efo telynorion proffesiynol fel eu bod nhw yn cael her, yn hytrach na’u bod nhw’r gorau yn y côr telyn arall. Eu bod nhw angen yr her yna.
“Yn y fan hyn, y gwahaniaeth ydi eu bod nhw’n cyd-chwarae efo’r telynorion proffesiynol. Mae’r her yn rhoi’r cyfle unigryw iddyn nhw, yn golygu eu bod nhw’n cael repertoire mwy heriol a difyr.”
Côr Telynau Gogledd Cymru fydd yn agor cyngerdd fawreddog Gŵyl Delynau Cymru yn Galeri heno, gan berfformio gweithiau gan Handel, Darius Milhaud, Monika Stadler a Willi Maerz.
Y telynorion proffesiynol fydd yn ymuno â’r myfyrwyr yn y cyngerdd yw Dylan Cernyw, Catrin Morris Jones ac Angharad Wyn.
“Mi fyddan nhw’n cael y profiad o fod o flaen cynulleidfa, mewn cyngerdd safonol – nid cyngerdd y mae’r Gwasanaeth wedi ei threfnu,” meddai Tudur Eames.
“Mae o’n rhywbeth pwysig i ni.”
Ar hyn o bryd, mae’r myfyrwyr sy’n aelodau o Gôr Telynau Gogledd Cymru yn ddisgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion yng Ngwynedd.
Mae’n bartneriaeth gyda gwasanaethau cerdd ysgolion Conwy, Dinbych, Wrecsam, a Sir Fflint, felly mae Tudur Eames yn gobeithio denu telynorion o’r siroedd hynny i’r côr wrth i bethau ddatblygu.
‘Profiad pwysig’
Drwy fod yn aelod o Gôr Telynau Gogledd Cymru, mae telynorion addawol yn dysgu sgiliau pwysig wrth gyd-berfformio fel “ensemble,” yn ôl Tudur Eames.
“Y sgiliau hynny ydi sgiliau gwrando – nid yn unig canolbwyntio ar eich rhan eich hun, ond bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas chi,” meddai.
“Dyna ydi’r allwedd.
“Mae gwersi un-i-un ar yr offeryn yn hanner y daith ond, i ddatblygu’r cerddor y tu mewn, mae angen y sgiliau gwrando yma, cydweithio, a synhwyro beth mae’r lleill yn ei wneud.
“Mae’n union yr un peth â bod mewn côr, neu mewn drama lle rydach chi’n gorfod synhwyro beth mae pawb yn ei wneud.
“Ar ôl y broses ymarfer, mae pawb yn gwybod eu gwaith yn drylwyr, ac yna mae’r sgiliau perfformio yna wedyn yn tynnu’r gorau allan ohonoch chi am yr un cyfle yna rydach chi’n ei gael.
“Mae o’n brofiad pwysig.”
Er mai heno mae eu perfformiad swyddogol cyntaf, fe roddodd Côr Telynau Gogledd Cymru berfformiad rhaglas am 5pm nos Lun (Ebrill 11) yn y bar yn Galeri.
Gŵyl deuddydd yw Gŵyl Delynau Cymru a bydd yn dod i ben heddiw (dydd Mercher, Ebrill 13).