Bydd Menter Môn yn defnyddio cyllid newydd i dreialu ffyrdd newydd o hyrwyddo’r Gymraeg drwy gefnogi defnydd cymunedol o’r iaith a gwella sgiliau iaith.
Mae’r Fenter wedi llwyddo i sicrhau dros £250,000 o’r Gronfa Adfywio Gymunedol, ac mae cynlluniau eisoes ar y gweill er mwyn gwneud yn fawr o’r hwb ariannol.
Hyd yn hyn, mae tua £140,000 ohono wedi’i glustnodi i 40 grŵp cymunedol a gwirfoddol ar hyd a lled yr ynys.
‘Denu teuluoedd di-Gymraeg’
Un o’r grwpiau hynny yw Cylch Meithrin Rhoscolyn. Mae holl blant y Cylch yn dod o aelwydydd ble mai’r Saesneg yw’r brif iaith.
Yn ôl Mair Williams, trysorydd y Cylch, bydd derbyn cefnogaeth yn sicrhau eu bod nhw’n gallu ymestyn eu darpariaeth a chynnwys rhieni mewn gweithgareddau.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr arian yma,” meddai.
“Y gobaith yw y bydd yn ein galluogi ni i ddenu mwy o deuluoedd di-Gymraeg i gymryd rhan ac i gofrestru efo ni, fydd yn ei dro yn cryfhau’r Gymraeg yn yr ardal.”
‘Cynnal digwyddiadau Cymraeg’
Sefydliad arall sydd wedi derbyn cefnogaeth yw Tafarn yr Iorwerth Arms, Bryngwran.
Dywed Neville Evans, cadeirydd pwyllgor y dafarn gymunedol, fod modd iddyn nhw gynnal digwyddiadau a chyngherddau byw Cymraeg drwy gydol yr haf diolch i’r arian o’r gronfa.
“Rydym wastad yn ceisio datblygu ein harlwy fel lleoliad er mwy denu cwsmeriaid newydd ac i’n caniatáu ni i barhau yn ganolbwynt i’r gymuned yma yn Bryngwran ble mae’r Gymraeg mor bwysig,” meddai.
‘Ffyrdd newydd o hyrwyddo’r iaith’
Yn ogystal â chefnogi grwpiau amrywiol, bydd arian o’r gronfa’n cael ei fuddsoddi i greu adnoddau ar gyfer teuluoedd a phobol ifanc, a bydd yn cynnig cymorth i fusnesau’r ynys gynyddu eu defnydd o’r iaith.
Yn ôl Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn, bydd y cyllid yn gwneud “gwahaniaeth sylweddol” i’w gwaith ac mae’n golygu bod modd iddyn nhw gefnogi mwy o grwpiau a chymdeithasau “sy’n greiddiol wrth sicrhau dyfodol y Gymraeg ar yr ynys”.
“Fel nifer o ardaloedd ar draws Cymru, mae’r iaith ym Môn yn wynebu heriau newydd trwy’r amser,” meddai.
“Ac er nad ydym wedi derbyn canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf eto rydym eisoes yn gwybod fod trosglwyddo’r iaith o un genhedlaeth i’r llall yn faes pryder.
“Gyda’r arian yma, gallwn edrych ar ffyrdd newydd o hyrwyddo gweithgareddau cyfrwng y Gymraeg a chreu bwrlwm o gwmpas yr iaith a’n gwaith ni fel menter.”