Mae Zed Seselja, un o weinidogion Llywodraeth Awstralia, wedi hedfan i Ynysoedd Solomon er mwyn ceisio atal presenoldeb milwrol posib Tsieina yno.

Cyhoeddodd Ynysoedd Solomon ar Ebrill 1 eu bod nhw wedi dod i gytundeb diogelwch rhannol â Tsieina, ac fe fu pryderon am ddylanwad Tsieina yno ers hynny.

Mae dau swyddog cudd-wybodaeth hefyd wedi bod yn cyfarfod â Manasseh Sogavare, prif weinidog Ynysoedd Solomon.

Ond mae Llywodraeth Ynysoedd Solomon yn parhau i fynnu na fydd gan Tsieina mo’r hawl i adeiladu safle milwrol yno, ac mae Tsieina yn gwadu eu bod nhw’n ceisio ennill dylanwad.

Mae gan Awstralia gytundeb diogelwch gydag Ynysoedd Solomon eisoes, ac mae’r heddlu a lluoedd heddwch eraill o’r wlad wedi bod yn cynnal trafodaethau yn Honiara, prifddinas Ynysoedd Solomon, ers y terfysgoedd ym mis Tachwedd.

Ynysoedd Solomon dan reolaeth Awstralia?

“Mae’r awgrym mae’n ymddangos bod rhai yn ei wneud, fod Ynysoedd Solomon rywsut o dan reolaeth Awstralia, dw i’n meddwl, yn sarhaus i Ynysoedd Solomon,” meddai Scott Morrison, prif weinidog Awstralia.

“Gwlad sofran ydyn nhw.

“Dw i’n parchu eu hannibyniaeth a byddan nhw’n gwneud eu penderfyniad eu hunain am eu sofraniaeth eu hunain.

“Yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei wneud yw sicrhau eu bod nhw’n gwbl ymwybodol o’r peryglon a’r materion diogelwch nad ydyn nhw ddim ond yn berthnasol i Awstralia, ond i ynysoedd a gwledydd ledled y Môr Tawel.”

Mae Awstralia’n dweud eu bod nhw wedi gofyn i Ynysoedd Solomon gefnu ar y cytundeb â Tsieina, ac i ymgynghori ag Awstralia er mwyn bod yn “agored a thryloyw yn y rhanbarth”.

Awstralia ac Ynysoedd Solomon

Mae’r ymweliad yn un anarferol yn ystod cyfnod pan fo etholiad ar y gorwel yn Awstralia.

Bydd yr etholiad hwnnw’n cael ei gynnal ar Fai 21.

Mae Scott Morrison bellach yn bennaeth ar lywodraeth dros dro, ac mae’n rhaid i unrhyw bolisi gael cydsyniad yr wrthblaid yn ystod y cyfnod hwn.

Ond mae llefarydd materion tramor yr wrthblaid yn dweud bod y llywodraeth wedi methu yn eu hymgais i fynd i’r afael ag Ynysoedd Solomon.

Yn ôl cytundeb drafft, gallai Tsieina anfon heddlu, milwyr a lluoedd arfog eraill i Ynysoedd Solomon “i helpu i gynnal trefn gymdeithasol” ac am sawl rheswm arall, gan gynnwys anfon llongau i aros ac i ollwng nwyddau.

Mae hynny wedi arwain at sïon fod Tsieina wrthi’n sefydlu safle milwrol yno.