Mae dau o bwyllgorau’r Senedd yn poeni bod dull Llywodraeth Cymru er mwyn ymdrin â deddfwriaeth trethi newydd yn “rhoi llawer gormod o bŵer i weinidogion Cymru ar draul rôl y Senedd”.
Mae’r Bil Deddfau Trethi Cymru yn cael ei lywio drwy’r Senedd ar hyn o bryd, ac mae’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cwestiynu a yw’r pŵer sy’n cael ei gynnig yn y Bil yn briodol.
Byddai’r Bil, fel y mae ar y funud, yn rhoi pŵer i weinidogion Llywodraeth Cymru ddiwygio Deddfau Trethi Cymru yn gyflym drwy ddefnyddio rheoliadau.
Yn hytrach na gorfod pasio ‘deddfwriaeth sylfaenol’ a rhoi cyfle i Aelodau o’r Senedd ddiwygio a thrafod pob cynnig, byddai’r Bil yn rhoi’r grym i weinidogion newid cyfreithiau trethi drwy ddefnyddio rheoliadau a fyddai ond yn caniatáu i’r Senedd dderbyn neu wrthod o gyfraith newydd.
Byddai’r Bil hefyd yn caniatáu i weinidogion newid y gyfraith ar unwaith, cyn ceisio cymeradwyaeth y Senedd.
‘Amheus a gwyliadwrus’
Ond yn ôl Syr Paul Silk, cyn-glerc i’r Cynulliad gynt, dylai deddfwrfeydd barhau i fod yn amheus ac yn wyliadwrus pan fydd llywodraethau’n cynnig unrhyw gynnydd i’w pwerau eu hunain i wneud deddfwriaeth na fydd cyfle i Aelodau o’r Senedd graffu arni’n iawn.
Dywedodd adroddiad y pwyllgor Cyllid y byddai’r dull hwn yn “gyrru mandad democrataidd y Senedd i’r cyrion”.
“Fel y mae, mae mwyafrif y Pwyllgor yn fodlon i’r Bil fynd i’r cyfnod nesaf, ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr argymhellion yn ein hadroddiad a fydd yn darparu mesurau diogelu pwysig ar gyfer defnyddio’r pŵer newydd hwn,” meddai Peredur Owen Griffiths, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
“Mae datganoli trethi yn ddatblygiad cymharol ddiweddar yng Nghymru ac, wrth i system dreth Cymru aeddfedu, mae’n bwysig bod y Senedd yn fodlon bod datblygiadau yn gymesur ac yn cydymffurfio ag egwyddorion democrataidd.
“Mae gennym amheuon ynghylch dull a ddefnyddir yn y Bil ac rydym yn credu bod yn rhaid i’r Senedd gael y cyfle gorau posibl i graffu a dylanwadu ar gyfreithiau trethi newydd yn hytrach na gadael i Lywodraeth Cymru newid cyfreithiau trethi fel y gwêl yn dda.”
‘Llawer gormod o bŵer’
Mae adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad yn argymell y dylid diwygio’r Bil i gynnwys darpariaeth fachlud, sef ffordd o sicrhau bod pŵer sy’n cael ei roi i’r Llywodraeth i wneud rheoliadau yn dod i ben yn awtomatig ar ôl Gorffennaf 2027.
Yn ôl Huw Irranca-Davies, cadeirydd y pwyllgor hwnnw ac Aelod o’r Senedd dros Lafur yn Aberogwr, daeth eu hadroddiad i’r casgliad y dylai’r Bil fod yn fesur tymor byr, dros dro.
“Mae’r cyfiawnhad a roddwyd gan y Gweinidog dros y dull gweithredu a gynigir yn annigonol ac mae’r Pwyllgor yn cytuno y byddai’r Bil yn rhoi llawer gormod o bŵer i Weinidogion Cymru ar draul rôl y Senedd,” meddai.
“Os yw Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fwrw ymlaen â’r Bil hwn, mae’r Pwyllgor yn glir y dylai ymateb yn gadarnhaol i’n hargymhellion, yn benodol i gynnwys ‘darpariaeth fachlud’.
“Byddai hyn yn rhoi amser i Lywodraeth Cymru ddatblygu dulliau mwy priodol o ddefnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth.”
‘Diogelu trethdalwyr’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai bwriad y bil yw caniatáu ymatebion cyfatebol ac ar unwaith i ddigwyddiadau allanol a fydd yn helpu i ddiogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus Cymru yn y pen draw.
“Mae cwmpas y Bil wedi’i gyfyngu’n fwriadol drwy gynnwys pedwar prawf a fydd yn cyfyngu ar ei ddefnydd i nifer fach o ddibenion penodol.
“Os na fydd y Senedd o blaid defnyddio’r pŵer, bydd yn gallu gwrthod unrhyw reoliadau, ac mewn amgylchiadau o’r fath mae mesurau diogelu ar waith ar gyfer dinasyddion.
“Rydym yn ystyried adroddiadau’r ddau Bwyllgor yn ofalus, ac rydym yn gwrando ar eu hargymhellion ac yn rhoi sylw iddynt cyn y ddadl yn y Senedd ar y mater ar 26 Ebrill.”