Y Parchedig Kate Bottley a Jason Mohammad fydd y pâr cyntaf i serennu yn y gyfres newydd o ‘Iaith Ar Daith’ ar S4C heno (nos Sul, Ebrill 10).
Yn ymuno â’r offeiriad fel selebs sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg mae’r anturiaethwr a chyn-chwaraewr rygbi Richard Parks, y digrifwr ac actor Mike Bubbins, y DJ a chyflwynydd Katie Owen, y ddawnswraig broffesiynol Amy Dowden a’r actores Amanda Henderson.
Bydd gan bob dysgwr fentor sy’n siarad Cymraeg gyda nhw ar y daith, a byddan nhw’n cynnig cymorth ac yn gosod heriau iddyn nhw.
Yn ogystal â Jason Mohammad, y mentoriaid yn y gyfres yw’r rhedwraig a chyflwynydd Lowri Morgan, y digrifwr Elis James, y DJ a chyflwynydd Huw Stephens, y canwr a chyflwynydd Aled Jones a’r actores Mali Harries.
Bydd pob seleb sy’n dysgu yn cael gwersi ar-lein i ddechrau, a hynny dan arweiniad Aran Jones, a byddan nhw wedyn yn treulio pedwar diwrnod yn teithio i wahanol lefydd yng Nghymru sydd yn bwysig iddyn nhw.
Byddan nhw yn siarad cymaint o Gymraeg â phosib ar hyd y daith, a bydd rhaid iddyn nhw gwblhau sawl her ar y ffordd, yn gorffen gyda her gyfryngol.
Kate Bottley a Jason Mohammad
Mae’r gyfres newydd yn dechrau gyda thaith y Parchedig Kate Bottley a’i mentor Jason Mohammad.
Dechreuodd y Parchedig Kate Bottley ei gyrfa teledu o’i soffa adre gyda’i gŵr Graham fel un o wynebau cyfarwydd y gyfres Gogglebox, ac erbyn heddiw mae hi’n un o gyflwynwyr amlycaf ‘Songs of Praise’.
Mae hi hefyd yn llais cyfarwydd ar Radio 2 ac yn dihuno’r genedl bob bore Sul gyda Jason Mohammad.
Ac er ei bod hi wedi ei geni a’i magu yn Sheffield, mae’r Gymraeg wedi dod yn rhan fawr o’i bywyd.
“Wel, mae’r tîm Songs of Praise wi’n gweithio gyda i gyd yn Gymraeg ac mae Jason Mohammad yn siarad Cymraeg,” meddai.
“Ond un o’r prif resymau dwi’n dysgu’r Gymraeg yw, i fod yn onest, mae gen i gywilydd fy mod i’n gallu dweud ‘helo’ a ‘diolch’ yn yr iaith Roegaidd, Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg ond dwi’n methu siarad Cymraeg ac mae Cymru jyst draw fynna! Mae hi’n iaith bwysig.
“Y peth hoffwn i wir ei wneud yw gallu adrodd Gweddi’r Arglwydd yn y Gymraeg. Mae hyn yn freuddwyd i mi.”
Yn ogystal â gweithio gyda’i gilydd mae’r ddau yn ffrindiau da.
“Mae Kate Bottley yn nyts! Rydan ni’n ffrindiau mawr a dwi wrth fy modd ac yn edrych ymlaen at weld Kate yn dysgu’r iaith Gymraeg,” meddai Jason Mohammad.
Mae’r ddau yn dechrau ar eu taith ym Mharc Treftadaeth y Rhondda, lle mae Kate yn helpu yn y caffi ac yn gweini aelodau o’r Merched y Wawr leol.
Ymlaen at Onllwyn, Castell Nedd ac mae Kate yn clywed mwy am Streic y Glowyr yn 1984 a’r ffilm Pride gan y cyn-aelod seneddol Siân James.
Mae’r daith yn dod i ben yn Sir Benfro, lle mae Kate yn gorfod wynebu ei her gyfryngol, sef cael ei chyfweld gan Nia Roberts ar Dechrau Canu, Dechrau Canmol a darllen Gweddi’r Arglwydd yn y Gymraeg yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Bydd Kate yn ymddangos ar raglen Dechrau Canu heno am 7.30 yn syth cyn Iaith Ar Daith am 8.00.