Mae dau gwmni theatr ieuenctid, y naill yng Nghymru a’r llall ym Malawi, yn cydweithio er mwyn cyflwyno ffilm newydd yng Ngŵyl Pasg Solomonic Peacocks Theatre y mis yma.
Mae’r ffilm wedi ei chreu gan y perfformwyr ifanc fel rhan o brosiect cydweithredol rhyngwladol blwyddyn o hyd.
Cafodd y prosiect ei gynnal yn ddigidol dros Zoom a WhatsApp, ac roedd yn cynnwys gweithdai creadigol rheolaidd ar-lein yn archwilio llais ieuenctid a’u grymuso – a darganfod y pethau sydd gan bobol ifanc yn y ddwy wlad yn gyffredin.
Solomonic Peacocks
Cafodd Solomonic Peacocks Theatre ei sefydlu yn 1999 yn Blantyre ac ers hynny, mae e wedi ffurfio i fod yn un o grwpiau theatr enwocaf Malawi, gyda dilynwyr ar draws de Affrica.
Mae’r grŵp yn gwmni cynhyrchu cyflawn sy’n gweithredu heb gymorthdaliadau’r llywodraeth.
Er hyn, maen nhw wedi perfformio mwy na 70 o gynyrchiadau theatr broffesiynol ledled Malawi, ar draws Affrica deheuol a thramor.
Er bod eu corff o waith yn amrywiol, maen nhw bob amser wedi ymrwymo i lwyfannu dramâu sy’n berthnasol i’r presennol ym Malawi.
Maen nhw’n cynhyrchu addasiadau o glasuron enwog, darnau wedi’u dyfeisio ac maen nhw hefyd yn llwyfannu sgriptiau newydd.
Maen nhw hefyd yn mynychu gwyliau theatr yn rheolaidd lle maen nhw’n perfformio, yn ogystal â chynnal gweithdai er mwyn cyfnewid syniadau gydag eraill.
Trwy eu gwaith gydag ysgolion, maen nhw hefyd yn anelu at ddefnyddio Theatr mewn Addysg i hwyluso dysgu ac addysgu sgiliau bywyd nad ydyn nhw’n gallu cael eu datblygu yn yr ystafell ddosbarth
Y ffilm dairieithog
Mae’r ffilm deirieithog – Cymraeg, Chichewa a Saesneg – yn gerdd lafar gydweithredol sy’n cael ei pherfformio gan y crewyr a’i ffilmio ar ffonau symudol, un o’r technolegau cyffredin sy’n uno pobol ifanc o amgylch y byd.
Un agwedd bwysig o’r prosiect oedd sicrhau bod y bobol ifanc wrth galon creu’r gwaith, gyda’r grŵp yn penderfynu canolbwyntio ar y themâu o rymuso merched a menywod ifanc, a’u cysylltiad cyffredin o ddwyieithrwydd a’u hawydd i rannu eu bywydau bob dydd a’u diwylliant yn ddigidol.
Ynghyd â’r premiere yng Ngŵyl Pasg SPT ddydd Gweener (Ebrill 8), bydd ffilm ddogfen yn cael ei rhyddhau’n dangos creu’r ffilm a sut y mae’r prosiect wedi effeithio ar y bobol ifanc oedd yn rhan o’r prosiect.
Yn y Deyrnas Unedig, caiff y ffilm ei lansio ar yr un pryd ar blatfform AM, ar www.amam.cymru/nyaw .
Mae’r prosiect wedi’i ariannu drwy gronfa ‘Mynd yn Ddigidol’ British Council Cymru, a gafodd ei chreu i hwyluso partneriaethau digidol rhwng cwmnïau celfyddydau yng Nghymru gyda phobol ifanc yn Affrica Is-Sahara.
Mae’r prosiect a’i sesiynau wythnosol wedi eu cyd-gynhyrchu gan y ddau gwmni, ac mae hefyd wedi galluogi hwyluswyr a chynhyrchwyr theatr ifanc i ddysgu oddi wrth ei gilydd, gan alluogi gwir gyfnewidfa ddiwylliannol.
Llongyfarchiadau
Mae Dawn Bowden, dirprwy weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, wedi llongyfarch y bartneriaeth.
“Mae’n wych gweld y cydweithredu rhyngwladol hwn rhwng Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre, Malawi,” meddai.
“Mae’r gyfnewidfa ddiwylliannol gyffrous hon rhwng perfformwyr ifanc, ar thema grymuso ieuenctid, wir yn gwneud y gorau o’r cyfryngau digidol a phartneriaeth ryngwladol.
“Mae ffurfio’r math yma o gysylltiadau rhyngwladol yn rhan allweddol o’n strategaeth gelfyddydol yng Nghymru – ac mae’n galonogol gweld pobl ifanc yng Nghymru’n ymateb trwy ffocysu ar yr hyn sydd gennym yn gyffredin, yn hytrach na’r hyn sy’n ein rhannu.
“Rwy’n edrych ymlaen at wylio’r ffilm orffenedig yn fuan iawn a gweld yr hyn y mae’r bobl ifanc wedi’i greu.”
Ymateb y byd ffilm yng Nghymru
“Mae wedi bod yn wych gallu cyflwyno’r gyfnewidfa ddiwylliannol hon i aelodau ThCIC,” meddai Gillian Mitchell, Prif Weithredwraig Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.
“Fel mae’r prosiect yn arddangos yn gwbl glir, mae mwy o elfennau’n dod â phobl ifanc at ei gilydd o amgylch y byd nac sy’n eu gwahanu.
“Rydym yn ddiolchgar i British Council Cymru am ariannu’r prosiect, sydd wedi hwyluso’r cyfnewid syniadau hyn a bydd yn gadael etifeddiaeth barhaol yn ein dwy wlad.”
Mae British Council Cymru yn dweud eu bod nhw’n “falch” o gefnogi’r prosiect.
“Rydym yn falch iawn i fod yn cefnogi’r bobl ifanc o Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Solomonic Peacocks Theatre yn Malawi i archwilio theatr ddigidol a chyfnewidfa ddiwylliannol,” meddai Natasha Nicholls, Rheolwraig Prosiect Celfyddydau British Council Cymru.
“Mae ‘Mynd yn Ddigidol’ yn rhaglen gan y British Council Cymru i alluogi partneriaid o Gymru ac Affrica Is-Sahara i gysylltu’n ddigidol, datblygu perthnasau newydd ac archwilio ffyrdd newydd o weithio.
“Mae’r rhaglen wedi ei chynnal yng Nghymru ac 8 gwlad ar draws Affrica Is-Sahara, gan gwmpasu dawns, theatr, llythrennedd, ffilm a chelfyddydau gweledol.”
Yr ymateb ym Malawi
“Er bod pandemig Covid-19 wedi atal cysylltiad corfforol, mae grym celfyddyd wedi chwalu’r rhwystr drwy dechnoleg ddigidol,” meddai McArthur Matukuta, Cyfarwyddwr Gweithredol Solomonic Peacocks Theatre.
“Mae wedi profi i fod yn un o’r cyfryngau gorau er mwyn parhau i gyfnewid a rhannu sgiliau ymysg pobol ifanc.”
Mae’r ffilm ar gael i’w gwylio, am ddim, ar www.amam.cymru/nyaw .