Mae actores ag anableddau yn galw am ragor o gefnogaeth i sefydliadau sy’n gweithio gyda phobol ag anableddau er mwyn gwella cyfleoedd iddyn nhw ym myd y celfyddydau.
Ar hyn o bryd, mae Jenna Preece yn astudio am radd Meistr yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd, yn arbenigo mewn ‘Actio i’r Llwyfan, Sgrîn a Radio’.
Yn ôl ei dealltwriaeth hi, dim ond dau unigolyn arall ag anableddau sydd wedi astudio Actio yn y coleg yn ei holl hanes.
“A fi yw’r person mwya’ severely disabled mae’r ysgol wedi ei gael,” meddai Jenna Preece, sydd wedi actio ar gyfresi fel Un Bore Mercher ar S4C a Tourist Trap ar BBC1. “Mae yn rhywbeth dw i wir yn browd ohono fe.
“Y broblem yw bod 70% o bobol ddim yn gallu mynd i addysg uwch oherwydd hygyrchedd. Dyw pobol anabl ddim hyd yn oed yn gallu siarad Cymraeg – oherwydd bod eu hanabledd nhw yn golygu bod rhaid iddyn nhw fynd i ysgolion arbenigol, a does dim llawer o ysgolion felly yn siarad Cymraeg.”
Fe fydd hi’n actio yn y sioe antur awyr agored newydd i blant, Achos Rhyfeddol Aberlliw, dros y Pasg. Cwmni Taking Flight o Gaerdydd sy’n gyfrifol am y cynhyrchiad (ar y cyd â chwmni LAS Theatre) – cwmni a roddodd yr anogaeth i Jenna fynd i astudio gradd Meistr.
Un o’r prif anawsterau i bobol ag anableddau ddilyn hyfforddiant yn y celfyddydau yw diffyg hygyrchedd a chyfleusterau, meddai.
“Dy’n nhw’n dal heb gael tŷ bach i fi,” meddai. “Ond dim bai’r coleg yw e. Os chi’n byw yn y disabled system, chi’n deall. Mae’n ddoniol gweld pobol efo arian yn meddwl ‘mi wnawn ni jyst taflu arian ato fe’. Ond na.
“Mae’r toiledau dw i eu hangen yn dod o’r Almaen, ac wedyn ry’ch chi angen rhywun sy’n gallu plymio fe mewn a phopeth. Maen nhw wedi ei archebu, ond dw i’n cofio chwerthin oherwydd roedden nhw’n meddwl bydden nhw wedi cael toiled i mewn cyn i fi gamu ar dir y coleg. Dw i’n graddio flwyddyn yma, a dyw e’n dal ddim yna!”
Dyled i Taking Flight
Mae cwmni theatr Taking Flight yn gweithio gyda grwpiau o bobol sydd heb gael eu cynrychioli ddigon ym myd y theatr yn y gorffennol, ac yn creu gwaith creadigol o safon gyda pherfformwyr proffesiynol sy’n F/fyddar, anabl a heb fod yn anabl.
“Onest, dw i ddim yn gwybod beth fydden i wedi neud tase fi heb fod wedi cwrdd â Taking Flight,” meddai Jenna Preece.
“Tasech chi yn cwrdd â fi o’r blaen ac yn fy ngalw i yn anabl, byddwn i wedi mynd yn amddiffynnol ac yn aggressive oherwydd fy mod i ond wedi ei glywed e yn negyddol. Maen nhw wedi dysgu fi cymaint – mae’n anhygoel.
“Y broblem yw does dim hyfforddiant, dim cefnogaeth, dim grwpiau amatur. Pan oeddwn i yn blentyn do’n i ddim yn gallu mynd i grŵp drama, grŵp dawns, neu grŵp cheerleading, achos ro’n i yn wahanol a doedd neb yn gallu dysgu fi. Mae hi’n lot gwell nawr efo cwmnïau fel Hijinx, a Taking Flight – ond os oes gyda chi blentyn creadigol sydd ag anabledd does unlle iddyn nhw fynd.”
Bu’n rhaid i’w rhieni fynd i’r llys i fynnu am yr hawl iddi gael derbyn ei haddysg mewn ysgol gyfun Gymraeg brif ffrwd, yn hytrach nag ysgol arbenigol, er mwyn cadw ei Chymraeg.
“Mae gen i ffrind sydd â phlentyn bach sydd gyda syndrom Down, sydd angen un-i-un, ond does dim grŵp drama iddo fynd iddo, felly mae angen llawer mwy o nawdd a chefnogaeth,” meddai Jenna Preece, a fuodd i Ysgol Rhydfelen/Gartholwg.
“Mae’r celfyddydau i fod am bawb, ond er tristwch, dyw e ddim. Mae llawer o grwpiau lleiafrifol ddim yn gallu cyrraedd ato.”
Galw am ragor o nawdd i gwmnïau elusennol llai
Hoffai Jenna Preece pe bai cwmni Taking Flight yn cael rhagor o nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
“Dw i ddim yn gallu credu eu bod nhw ddim yn cael core funding,” meddai.
“Fe agoron nhw heb core funding, ac maen nhw wedi goroesi am 10 i 15 mlynedd fel elusen. Mae ganddyn nhw le yn fy nghalon i.
“O ystyried bod y ddau berson sydd wedi creu Taking Flight ddim yn anabl eu hunain, maen nhw wedi creu teulu yng Nghaerdydd lle mae pobol sydd ag anabledd a heb anabledd yn gallu bod yn greadigol a theimlo’n saff. Dw i ddim yn gwybod lle byddwn i heb Taking Flight.”
Mae hi’n credu bod Taking Flight – sydd yn cyflogi pedwar o staff llawn amser – yr un mor bwysig a gwerthfawr â’r prif gwmnïau theatr cenedlaethol.
“Dw i’n creu bod angen i Gyngor y Celfyddydau edrych ar eu cyllideb eto, a gweld pwy sydd angen gwneud mwy a phwy sydd ddim,” meddai Jenna Preece.
“Dw i’n caru’r National Theatre a phopeth… ond mae elusennau llai sy’n gwneud y gwahaniaeth yn y gymuned ddim yn cael cefnogaeth. Mae’n wallgo’.”
- Bydd Achos Rhyfeddol Aberlliw (Theatr Taking Flight a chwmni theatr LAS) yn digwydd y tu allan i Theatr Brycheiniog, Aberhonddu rhwng Ebrill 16 a 18, ac ym Mharc Gwledig Cwm Dâr rhwng Ebrill 21 a 24.
Darllenwch ragor am Achos Rhyfeddol Aberlliw a gwaith Taking Flight yn rhifyn nesaf cylchgrawn Golwg.