Machynlleth yw’r lle i fod y penwythnos hwn os ydych chi’n caru canu gwerin.
Mi fydd Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Lo-Fi Jones a Cerys Hafana yn perfformio yng Ngŵyl Y Pethau Bychain yn y dref farchnad yng ngogledd Powys.
Ac yn ogystal â’r cyfle i glywed hufen y sîn werin Gymraeg, bydd yr ŵyl hefyd yn cynnig gweithdai adrodd chwedlau, clocsio, canu gwerin, ac arddangosfa ryngweithiol newydd sydd wedi ei lleoli yn y Senedd-dy ac wedi ei chreu gan artistiaid lleol.
Mi fydd Gwyneth Glyn a’r seren leol Cerys Hafana yn canu yng Nghanolfan Glyndŵr heno (8 Ebrill), a Gwilym Bowen Rhys a Lo-fi Jones yn perfformio a chynnal sesiwn werin yng Ngwesty’r Wynnstay nos Sadwrn (9 Ebrill).
Ac mae un o drefnwyr Gŵyl Y Pethau Bychain yn credu bod yr ŵyl yn hwb i fusnesau’r ardal, yn dafarndai, gwestai a chaffis, yn ogystal â rhoi cyfle i bobol fwynhau rhai o gerddorion gwerin amlyca’r wlad.
Ac mae Heledd Wyn yn dweud bod yr ŵyl yn newyddion da i’r Gymraeg ym Machynlleth hefyd, gan roi cyfle i ddysgwyr fod yn rhan o’r gweithgarwch.
“Mae e’n bendant yn hybu’r iaith,” meddai.
“Mae gwirfoddoli i helpu gyda’r ŵyl yn gyfle i ddysgwyr ddod i adnabod diwylliant yr ardal, pobol yn yr ardal, cerddoriaeth sy’n cael ei chwarae yn yr ardal, a chaneuon gwerin ac ati.
“Ac yn ogystal â dysgu am ganeuon gwerin traddodiadol, maen nhw yn cael profi caneuon cyfoes Cymraeg.”