Mae gŵyl Merthyr Rising yn dweud nad oedden nhw’n ymwybodol o gantores leol, wedi iddi ymateb i ddiffyg cynrychiolaeth BAME yr ŵyl.

Dywed yr ŵyl eu bod nhw wedi gweithio yn galed i sicrhau bod perfformwyr BAME Cymreig yn rhan o’r ŵyl.

Wrth siarad ar Twitter, dywedodd y gantores soul electronig, Eädyth, fod diffyg cynrychiolaeth gŵyl Merthyr Rising yn ‘ofnadwy’.

“Mi fydda i yn greulon o onest a dweud doedden ni ddim yn ymwybodol ohonot ti ac rydym yn gresynu hynny,” meddai’r ŵyl mewn ymateb i Eädyth Crawford.

Eädyth yn cwestiynu

Gofynnodd Eädyth, sy’n byw ym mhentref Aberfan ger Merthur Tudful, pam nad oes cynrychiolaeth leol yn yr ŵyl eleni.

Dywedodd ei bod yn gigio ers deng mlynedd, ac erioed wedi derbyn cais i chwarae yn yr ŵyl.

“Dw i eisiau teimlo fy mod yn gallu cynrychioli fy nhref enedigol ond yn teimlo fy mod yn cael fy esgeuluso,” meddai.

Dywed ei bod yn gweld newidiadau enfawr mewn cynrychiolaeth o bobol BAME Cymreig ar lwyfannau yn gyffredinol, ond ddim lle mae ei angen ar hyn o bryd.

Mae angen mwy o gynrychiolaeth mewn “ardaloedd mwy anghysbell lle na fu golygfa gynhwysol”, yn ôl y gantores.

“Yn anffodus, dw i erioed wedi ei weld ym Merthyr.”

Mae’r artist yn dweud bod diffyg cynrychiolaeth gyffredinol o bobol BAME yng Nghymru.

“Mae’n amlwg yn anodd i bobol dderbyn hynny a symud ymlaen i’r cyfeiriad cywir,” meddai.

“Diangen” a “chwerthinllyd”

Dywed yr ŵyl, sy’n cael ei chynnal bob mis Mehefin, eu bod nhw wedi bod yn “gynhwysol” erioed.

“Rydym wedi gweithio’n galed i gynnwys perfformwyr lleol, artistiaid Cymreig gan gynnwys artistiaid du a brown,” medden nhw.

“Mae cael pobol yn galw ein tîm yn ‘hiliol’ yn ddiangen ac yn chwerthinllyd.”