Mae Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru yn galw ar bobol sydd am bleidleisio i sicrhau eu bod wedi cofrestru mewn pryd.

Dim ond wythnos sydd i fynd nes y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol, sy’n cael eu cynnal ar Fai 5.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar Ebrill 14.

Gallwch wneud cais ar-lein ar wefan www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.

“Dim ond os ydych wedi cofrestru i bleidleisio y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau ym mis Mai, ac mae’r amser yn brin,” meddai Rhydian Thomas.

“Mae’n gyflym ac yn hawdd – dim ond pum munud mae’n ei gymryd ar-lein.

“Os ydych wedi cael eich pen-blwydd yn 16 oed neu wedi symud cartref yn ddiweddar, mae’n arbennig o bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio yn gywir.”

‘Dweud eich dweud’

Un arall sy’n awyddus i weld pobol yn cofrestru i bleidleisio ydi Dylan J Williams, Swyddog Canlyniadau Ynys Môn.

“Gyda dim ond wythnos i fynd, nid oes llawer o amser ar ôl i sicrhau y gallwch gymryd rhan yn yr etholiadau lleol,” meddai.

“Mae’r etholiadau hyn yn gyfle pwysig i ddweud eich dweud am bwy sy’n eich cynrychioli ar faterion sy’n cael effaith uniongyrchol ar fywyd dyddiol ar Ynys Môn.

“Er mwyn gallu pleidleisio, mae’n rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol.

“Felly os na fyddwch wedi cofrestru erbyn hanner nos ar 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”