Mae teulu brawd a chwaer tair a phedair oed gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M4, wedi dweud eu bod nhw “wedi eu llorio yn llwyr” gyda’r ddedfryd o naw mlynedd o garchar gafodd y gyrrwr meddw am achosi’r marwolaethau.

Yn Llys y Goron Caerdydd heddiw, roedd y Barnwr Daniel Williams yn cydnabod y byddai llawer yn teimlo bod y cyfnod dan glo a roddwyd i Martin Newman, 41, o Groeserw, yn “annigonol”.

Ond eglurodd nad oedd modd iddo roi dedfryd lymach am nad oedd y gyfraith yn caniatáu hynny.

Roedd Martin Newman wedi cyfaddef iddo achosi’r marwolaethau trwy yrru yn beryglus.

Fe gafodd Jayden-Lee Lucas, tair oed, a’i chwaer Gracie-Ann Wheaton, pedair, eu lladd yn y gwrthdrawiad.

Roedd Martin Newman ddwywaith dros y terfyn ar gyfer yfed alcohol a gyrru, ac roedd cocên yn ei gorff hefyd, wrth iddo yrru fan Ford Transit wen ar yr M4 ar 5 Chwefror a tharo car Ford Fiesta coch nad oedd yn symud ar y pryd.

Yn ogystal â lladd dau o blant, fe gafodd y fam, Rhiannon Lucas, ei hanafu yn ddifrifol yn y Fiesta oedd wedi ei barcio ar y llain galed.

Roedden nhw wedi stopio i Gracie-Ann gael mynd i’r toiled.

“Wedi ein llorio”

Fe gafodd Martin Newman ei ddedfrydu i naw mlynedd a phedwar mis o garchar, gyda’r disgwyl iddo dreulio hanner y cyfnod hwnnw dan glo.

Wedi’r ddedfryd bu Darren Lucas, ewythr Rhiannon Lucas, yn trafod y ddedfryd gyda’r Wasg.

“Rydym wedi ein llorio yn llwyr,” meddai.

“Fe ddylai fod wedi ei garcharu am lawer yn hirach na hynny… mae angen i’r gyfraith newid.

“Bydd y teulu yn apelio i gael dedfryd fwy llym. Rydym am gychwyn ymgyrch i newid y gyfraith… fel nad ydy rhywbeth fel hyn yn digwydd eto.”