Mae hi’n “annerbyniol” bod cymaint o gynghorwyr yng Nghymru yn cael eu hethol yn awtomatig am nad oes neb yn sefyll etholiad yn eu herbyn nhw.

Dyna farn un cynghorydd yng Ngwynedd fydd ddim yn gorfod wynebu etholiad fis nesaf, am nad oes neb am ei herio am yr hawl i gynrychioli un o wardiau Caernarfon ar y cyngor sir.

Olaf Cai Larsen sy’n cynrychioli ward Seiont ac mae yn aelod amlwg o Blaid Cymru yn y dref.

Wrth siarad â golwg360, awgrymodd bod y feirniadaeth mae cynghorwyr yn ei derbyn yn un ffactor pam nad oes mwy eisiau gwneud y gwaith.

Bydd naw o’r 22 o gynghorau sir yng Nghymru yn gweld rhai o’u cynghorwyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad bron i fis cyn y diwrnod pleidleisio.

Ac mae’r broblem ar ei gwaethaf yng Ngwynedd, lle mae 28 allan o 69 o gynghorwyr y sir yn dod yn gynghorwyr heb orfod sefyll etholiad.

Mae hyn yn golygu na fydd 30,722 o bleidleiswyr y sir yn cael dewis ymgeisydd, gan na fydd etholiad yn eu wardiau nhw.

Ar draws Cymru bydd 74 o gynghorwyr yn cael eu hethol heb unrhyw wrthwynebiad.

Symptom o system ‘First Past the Post

Mae’r broblem yn symptom o system ‘First Past the Post‘, yn ôl Jess Blair, Cyfarwyddwr ERS Cymru.

“I dros 100,000 o bleidleiswyr yn etholiadau Cymru mae etholiadau Mis Mai wedi cael eu canslo i bob pwrpas,” meddai.

“Etholiadau lleol yw sylfaen ein democratiaeth – cyfle i bobl leol ddweud eu dweud ynghylch sut mae eu hardal leol yn cael ei rhedeg ac, yn bwysig, dros bwy sy’n eu cynrychioli.

“Ond eto, gwrthodir llais i filoedd o bleidleiswyr gyda’r canlyniadau’n cael eu penderfynu wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.

“Mae seddi heb wrthwynebiad yn symptom arall eto o’n system ‘First Past the Post‘ sydd wedi torri – un sy’n creu seddi diogel i rai ymgeiswyr a phleidiau.”

“Annerbyniol”

Er ei fod yn dweud bod y sefyllfa yn “annerbyniol”, mae Olaf Cai Larsen yn cyfaddef ei fod yn teimlo “elfen o ryddhad” nad oes ganddo wrthwynebwr.

“O siarad yn bersonol, mi faswn i’n dweud celwydd taswn i’n dweud bod yna ddim rhyw elfen o ryddhad mod i ddim yn wynebu etholiad,” meddai wrth golwg360.

“Hynny ydi, bod etholiad yn golygu gwaith caled iawn.

“Ond o ran y system ddemocrataidd, mae o’n amlwg yn hollol annerbyniol bod cymaint o bobol yn mynd i mewn heb orfod sefyll etholiad.

“I’r system weithio’n iawn mae o’n bwysig bod – nid yn unig cynghorwyr, ond unrhyw aelod etholedig – yn sefyll etholiad bob pum mlynedd a bod etholwyr yn gallu dod i gasgliad ynglŷn â’u record nhw.

“Mae o’n anffodus iawn nad ydi hynny yn digwydd mor aml ac y dyla fo.”

“Gormod o gynghorwyr”

“Mae yna nifer o resymau am y sefyllfa, mae’n debyg mai un o’r rhesymau ydi bod yna ormod o gynghorwyr,” meddai wedyn.

“Mae yna nifer o gynghorau yng Nghymru, os nad y rhan fwyaf ohonyn nhw, sydd â mwy o gynghorwyr nag sydd yna o aelodau etholedig yn Senedd Cymru.

“Dw i’n meddwl bod gan Gyngor Gwynedd 75 o gynghorwyr tra bod gan Senedd Cymru 60 o aelodau.

“Rheswm arall posib ydi bod hi yn rôl lle mae yna lefel uchel iawn o feirniadaeth ar gynghorwyr, ac mae yna lefel isel iawn o gyflog i’r rhan fwyaf o gynghorwyr.

“Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n cael £14,000.

“I lot o bobol sydd mewn gwaith, dydy o ddim gwerth iddyn nhw wneud felly mae faint o bobol sy’n fodlon rhoi eu henwau ymlaen yn cael ei gyfyngu i bobol sydd ddim yn ddibynnol ar yr incwm yna a phobol sydd â chroen tew hefyd.”