Mae nifer o bobol yng Nghaernarfon yn dweud iddyn nhw gael eu troi i ffwrdd o sioe oleuadau o ganlyniad i ddryswch ynghylch parcio.

Mae’r digwyddiad aml-gyfrwng Sioe Oleuadau Amdanom Ni yn un o nifer o sioeau arbennig sydd yn cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig.

Cafodd ei drefnu gan 59 Productions ac fel rhan o’r digwyddiad, cafodd castell Caernarfon a nifer o adeiladau cyfagos eu goleuo fel rhan o sioe daflunio fawr dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r sioeau’n rhan o’r gyfres o ddigwyddiadau o’r enw UNBOXED: Creativity in the UK, gan fynd â gwylwyr ar daith drwy’r oesoedd.

Cwynion

Ond mae’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol yn adrodd eu bod nhw wedi derbyn nifer o gwynion a lluniau gan ddarllenwyr yn dangos anhrefn parcio.

Roedd un fam yn honni iddi gael ei throi allan o faes parcio aml-lawr y dref, er ei fod e’n wag, gan arwain at rai gyrwyr yn parcio mewn llefydd amhriodol.

“Roedd gen i a fy ffrind chwech o blant ifainc efo ni,” meddai Bethan Jones o Gaernarfon.

“Fe wnaethon ni yrru i mewn i’r maes parcio aml-lawr a chael ein stopio gan ddyn efo clipfwrdd yn nodi mai dim ond preswyliaid a’r sawl oedd efo trwydded oedd yn cael parcio yno.

“Mi wnes i fynegi fy marn, gan ddweud pa mor warthus oedd o fod pobol yn clywed nad oedden nhw’n cael defnyddio maes parcio aml-lawr ar y fath noson brysur.

“Wrth yrru allan drwy’r maes parcio, mi wnes i gyfri tri char i gyd oedd wedi’u parcio yn y maes parcio aml-lawr. Roedd hyn am 8.30yh ac roedd pobol wedi mynd i banig yn ceisio dod o hyd i rywle i barcio.

“Roedd gennym ni ffrindiau y tu allan i’r dref yn y pen draw, ac wedi gorfod cerdded yn ôl tuag at y dref ynghyd â nifer fawr o bobol eraill.

“Tra bod y sioe ei hun yn anhygoel, ar y ffordd yn ôl mi welson ni bobol oedd wedi parcio ym mhob man, o’r tu ôl i’r Black Boy tuag at Morrisons.

“Roedden ni’n teimlo mor siomedig fod cyfle mor fawr i wneud arian drwy faes parcio wedi cael ei wrthod.”

Ymateb

“Mae nifer o feysydd parcio ar gael i’r sawl sy’n ymweld â’r dref, ac rydym yn annog modurwyr i wneud defnydd llawn o’r cyfleusterau hyn,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Dydyn ni ddim wedi derbyn pryderon am fodurwyr yn cael eu troi i ffwrdd o’r maes parcio aml-lawr yn y dref.

“Rydym yn ymwybodol fod trefnwyr y digwyddiad wedi cyflogi stiwardiaid yn yr ardal sy’n cynnig cyngor i fodurwyr.”

Mae 59 Productions wedi derbyn cais am ymateb.