Mae’r arlunydd Bagsy yn gwerthu crysau T yn arbennig ar gyfer Jiwbilî Platinwm Brenhines Lloegr – yn dwyn y geiriau “She’s not my Queen. I’m Welsh”.

Mae’r crysau-T yn adleisio dyfyniad enwog gan John Charles, un o gewri pêl-droed Cymru.

Yn ôl chwedloniaeth, roedd gwrthwynebydd yn ceisio tynnu coes John Charles yn ystod gêm fawr rhwng Juventus, sef tîm y Cymro, ac Inter Milan.

Fe wnaeth e hyn drwy sarhau’r Frenhines a dweud pethau dilornus amdani.

Mae’r crysau T yn dwyn ymateb John Charles i’w wrthwynebydd.

Mewn neges ar Twitter, dywed Bagsy fod y crysau T yn “talu gwrogaeth i ddyfyniad John Charles”.

“Plîs peidiwch â phrynu rhain a’u gwisgo nhw drwy gydol y Jiwbilî,” meddai, a’i dafod yn ei foch.

“Byddai hynny’n ofnadwy.”

Bagsy yn rhoi’r Rhondda – a’r Gymraeg – ar y map

Bethan Lloyd

“Wnes i ddechrau gwneud gwaith graffiti ar fagiau plastig a’u gadael nhw o gwmpas archfarchnadoedd yn y Cymoedd”

“Nid oriel yw’r lle priodol ar gyfer graffiti,” meddai Bagsy am Banksy

Bethan Lloyd

Yr artist o’r Rhondda yn ymateb i’r penderfyniad i symud gwaith celf Banksy o Bort Talbot