Steve Morison, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yw Rheolwr y Mis y Bencampwriaeth ar gyfer mis Mawrth.

Daw hyn ar ôl i’r Adar Gleision gael tair buddugoliaeth ac un gêm gyfartal yn ystod y mis, gan sicrhau deg pwynt allan o 12 posib.

Fe wnaeth e guro Steve Bruce (West Brom), Steve Cooper (Nottingham Forest) a Neil Critchley (Blackpool) i ennill y wobr.

Dyma’r tro cyntaf iddo fe ennill y wobr, ac mae’n dweud ei bod yn “gamp dda” ei hennill hi.

“Cawson ni fis da iawn, ac mae’n dangos bod yr holl waith caled rydyn ni wedi’i wneud wedi cael cydnabyddiaeth,” meddai.

“Rydyn ni wedi dod yn bell ers i ni gymryd drosodd, ac mae hyn yn gwireddu’r holl waith da rydyn ni wedi’i wneud fel grŵp ac fel staff.

“Roedd y gêm yn erbyn Abertawe [colled o 3-0] yn ergyd fawr o amgylch y lle, ond mae hyn yn ein helpu ni i godi unwaith eto.”