Dim ond 26.5 o belawdau o griced oedd yn bosib ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Durham yng Nghaerdydd oherwydd y tywydd.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 234, wrth iddyn nhw golli chwe wiced am 41 o rediadau yn ystod y bore, gyda’r ymwelwyr yn wynebu pelawd yn unig cyn cinio a chyrraedd pump heb golli wiced, 229 o rediadau y tu ôl i Forgannwg.

Dechreuodd Chris Cooke a Colin Ingram yn gadarn ar ddechrau’r bore, gyda’r ddau yn ymosod o’r dechrau’n deg.

Ond daeth batiad Ingram i ben pan yrrodd e i’r slip David Bedingham oddi ar fowlio Paul Coughlin am 87, ac fe arweiniodd y wiced honno at chwalfa sylweddol wrth i Forgannwg lithro o 188 am bedair i 229 i gyd allan.

Tarodd Callum Taylor ddwy ergyd i’r ffin cyn cael ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Matty Potts am 11, a’r bowliwr yn cipio wiced James Weighell yn yr un modd ddwy belen yn ddiweddarach gyda iorcer i adael Morgannwg yn 214 am saith.

Llwyddodd Chris Cooke i sgorio 59 oddi ar 120 o belenni wrth i wicedi gwympo ben draw’r llain, ac fe gollodd yntau ei wiced yn y pen draw wrth daro’r bêl i’r trydydd dyn Liam Trevaskis oddi ar fowlio Coughlin.

Yn fuan ar ôl i Durham ddechrau batio, daeth y glaw a chenllysg yn ystod amser cinio am yr ail ddiwrnod yn olynol, a bu’n rhaid i’r tirmyn gasglu rhew oddi ar y cae cyn i’r dyfarnwyr benderfynu na fyddai modd chwarae eto heddiw.

‘Braf bod ’nôl’

“Roedd hi’n braf bod ’nôl, ac roedd hi’n braf cael cyfle,” meddai Colin Ingram.

“Dw i’n meddwl bod llawer o bobol bob amser yn teimlo fy mod i ond eisiau chwarae â’r bêl wen.

“Ond roeddwn i bob amser eisiau dod yn ôl, ac mae’n braf cael y cyfle ac ro’n i’n teimlo’n eitha’ da hefyd.

“Dw i wir wedi mwynhau’r paratoadau.

“I ryw raddau, mae’r bêl goch yn rhoi cryn sylfaen i chi chwarae criced ymosodol â’r bêl wen.

“Felly dwi wedi defnyddio’r cyfnod cyn dechrau’r tymor ac mae wedi bod yn braf cael bod allan yma gyda’r grŵp, ac fe wnes i ddefnyddio hynny’n eitha’ da a dw i’n teimlo fy mod i’n perfformio’n eitha’ da.”