Mae Dai Young wedi newid tîm Gleision Caerdydd yn sylweddol ar gyfer y gêm heddiw gartref yn erbyn y Scarlets, wedi’r golled 35-20 oddi cartref yn Llanelli’r penwythnos diwethaf.

Fe gafodd y perfformiad gan y Gleision yn Llanelli ei feirniadu yn hallt gan Dai Young, gyda Phrif Hyfforddwr y rhanbarth yn anhapus gyda’i chwaraewyr yn awr ola’r gêm honno.

Mae’r ddau dîm yn cwrdd eto heddiw ar Barc yr Arfau toc wedi tri, gyda’r gêm yn fyw ar BBC 1 Cymru.

Elfen ddifyr o’r ddarbi yw bod Liam Williams yn nhîm y Scarlets i wynebu’r Gleision, sef y rhanbarth y bydd yn ymuno â nhw’r tymor nesaf yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Dai ddim ar ben ei ddigon

Cyn y gêm bu Prif Hyfforddwr y Gleision yn egluro pam mae wedi newid gymaint o’r tîm ar gyfer y gêm heddiw.

“Rydym wedi gwneud sawl newid, rhai oherwydd anafiadau a rhai eraill ar sail y ffordd maen nhw yn chwarae.

“Mae yn siomedig ein bod yn gorfod gwneud heb Josh Adams am rhai wythnosau [oherwydd anaf] ac rydym yn gobeithio na fydd James Ratti a James Botham wedi eu hanafu am yn rhy hir.

“Wedi dweud hynny, mae ganddo ni chwaraewyr safonol yn y tîm y penwythnos yma ac rydym angen gweld ymateb wedi’r perfformiad y penwythnos diwethaf.”

Mae disgwyl torf fawr ym Mharc yr Arfau heddiw ac mae gan y Gleision record dda gartref, gan golli unwaith yn unig yn y gynghrair a llwyddo yn ddiweddar i faeddu Leinster a Glasgow Warriors.

Newid sylweddol

Mae Liam Williams yn un o bump o newidiadau i dîm y Scarlets y penwythnos hwn, gyda Jonathan Davies, Ryan Elias, Aaron Shingler a Dan Davis hefyd yn dod fewn i gychwyn y gêm.

O ran Gleision Caerdydd, mae’r rheng flaen yn hollol wahanol i’r un y penwythnos diwethaf, gyda Rhys Carre, Kirby Myhill a Dmitri Arhip yn cychwyn.

Daw Lloyd Williams fewn yn safle’r mewnwr gyda Garyn Smith yn cael lle yn y canol yn bartner i Rey Lee-Lo.

Ac mae Owen Lane a Theo Cabango yn newydd ar yr esgyll, a Matthew Morgan yn cychwyn yn safle’r cefnwr.