Mae Morgannwg dan bwysau ar ddiwedd trydydd diwrnod gêm gynta’r tymor yn y Bencampwriaeth yn erbyn Durham yng Nghaerdydd.
Ar ôl bowlio Morgannwg allan am 234, mae’r ymwelwyr yn 348 am dair, sy’n flaenoriaeth o 114 gyda diwrnod yn weddill o’r gêm.
Er bod rhannau helaeth o’r ddau ddiwrnod cyntaf wedi’u colli i’r tywydd, mae Durham yn llygadu buddugoliaeth ar ôl i Alex Lees daro 163 heb fod allan wrth agor y batiad, ac fe gafodd ei gefnogi gan Scott Borthwick (64) a David Bedingham (74 heb fod allan).
Ond mae gan Durham waith i’w wneud o hyd i gipio’r fuddugoliaeth, a bydd rhaid iddyn nhw sgorio’n ddigon cyflym a chipio wicedi wedyn i gau pen y mwdwl ar yr ornest.
Daeth dau gyfle i gipio wiced Lees ar ddechrau’r batiad, ond fe oroesodd e ddau waedd am goes o flaen y wiced a mynd yn ei flaen wedyn i gosbi’r bowlwyr.
Ond cipiodd yr Iseldirwr Timm van der Gugten wicedi Michael Jones a Sean Dickson gan fowlio’n gywir, gyda’r naill fatiwr wedi’i fowlio a’r llall wedi’i ddal gan Chris Cooke y tu ôl i’r wiced.
Daeth cyfle yn ystod y prynhawn i gipio wiced Borthwick, ond fe laniodd y bêl ymhell dros ben Kiran Carlson yn y cyfar.
Cyrhaeddodd Lees ei hanner canred oddi ar 226 o belenni, gan gyrraedd y garreg filltir gydag ergyd i’r ffin ar ochr y goes.
Daeth hanner canred Borthwick wedyn oddi ar 93 o belenni, gyda’i bartneriaeth gyda Lees yn werth 147 am y drydedd wiced, ond llwyddodd y troellwr Andrew Salter i dorri’r llif wrth i Borthwick ddarganfod dwylo diogel Sam Northeast wrth dynnu ar ochr y goes.
Cyrhaeddodd Lees ei ganred wedyn, gyda’r sgorio’n cyflymu pan ddaeth Bedingham i’r llain, gyda hanner canred y batiwr o Dde Affrica’n dod oddi ar 56 o belenni, ac mae e wedi wynebu 78 o belenni i gyrraedd 74 hyd yn hyn.
Canmol Alex Lees
“Mae’n ddiwrnod hir, yn enwedig y sesiwn olaf honno, 42 o belawdau, ond alla i ddim beirniadu’r ffordd wnaeth y bois fowlio a’u hymdrechion yn y maes,” meddai’r is-hyfforddwr David Harrison am berfformiad Morgannwg.
“Roedd hynny’n dda iawn, ond mae angen canmol Alex Lees a batwyr Durham hefyd, chwaraeon nhw’n dda iawn heddiw.
“Yn yr hanner awr olaf, roedd y bois wedi bod yn y maes am amser hir, yr ail bêl newydd, cyrff blinedig tua’r diwedd.
“Alla i ddim beirniadu’r bois drwy gydol y dydd heddiw, ac os gallwn ni fowlio fel yna am ran fwya’r tymor, byddwn ni’n gwneud yn iawn.”