Mae pethau’n dechrau poethi ym mhob cynghrair bêl droed erbyn hyn ac mae nifer o chwaraewyr Cymru yn ei chanol hi. Sut benwythnos a oedd hi iddynt yr wythnos hon tybed?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd buddugoliaethau cyfforddus i’r ddau Gymro sydd yn chwarae yn fwyaf rheolaidd yn yr Uwch Gynghrair yr wythnos hon.

Rhoddodd Leeds dair heibio i Watford gyda Dan James yn dechrau’r gêm yn y llinell flaen ac yn creu’r gôl agoriadol i Raphinha. Mae Tyler Roberts yn parhau i fod wedi ei anafu.

Enillodd Tottenham o bedair i ddim yn erbyn Aston Villa gyda Ben Davies yn chwarae’i ran yn y llechen lân, yn chwarae’r 90 munud yn y cefn. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Rodon.

Ben Davies a Dan James

Rhoddwyd hwb enfawr i obeithion Burnley o osgoi’r gwymp gyda buddugoliaeth dros Everton ganol wythnos cyn iddynt ddad wneud y gwaith da trwy golli o ddwy i ddim yn Norwich ddydd Sul. Dechreuodd Connor Roberts yn erbyn Everton ond collodd ei le ar gyfer y daith i Norwich, yn ymuno â Wayne Hennessey ar y fainc.

Mae Danny Ward yn parhau i fod wedi’i anafu ac allan o garfan Caerlŷr ac nid oedd Fin Stevens yng ngharfan Brentford ychwaith ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn West Ham.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Cadwodd Abertawe eu gobeithion hynod fain o gyrraedd y gemau ail gyfle yn fyw gyda buddugoliaeth o ddwy gôl i un dros Derby ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ben Cabango yn y cefn ac roedd Cameron Congreve ar y fainc eto.

Chwaraeodd Tom Lawrence i’r gwrthwynebwyr ac ef a sgoriodd eu gôl hwy, yn rhwydo o’r smotyn i gau’r bwlch yn dilyn dwy gôl gynnar yr Elyrch. Honno oedd unfed gôl ar ddeg y Cymro’r tymor hwn ond go brin y bydd ei goliau’n ddigon i’w cadw i fyny â hwythau bellach wyth pwynt i ffwrdd o’r safleoedd diogel gyda dim on chwe gêm yn weddill.

Dwy gôl i un a oedd hi hefyd wrth i Gaerdydd ennill yn Reading. Rubin Colwill a oedd yr unig Gymro i ddechrau’r gêm ond daeth Isaak Davies a Will Vaulks oddi ar y fainc. A Vaulks a enillodd y gêm i’r Adar Gleision gyda’i gôl hwyr. Aros ar y fainc a wnaeth Mark Harris.

Will Vaulks

Parhau i fynd o nerth i nerth y mae tymor Brennan Johnson. Mae ei dîm, Nottingham Forest, bellach yn drydydd yn dilyn buddugoliaethau o ddwy gôl i ddim dros Coventry ganol wythnos ac yna Birmingham ddydd Sadwrn. Y Cymro a sgoriodd yr ail yn erbyn Coventry ac ef a greodd y gyntaf i Keinan Davies yn erbyn Birmingham.

Bournemouth sydd yn ail o hyd yn dilyn gêm ddi sgôr yn erbyn Sheffield United. Ar y fainc yr oedd Chris Mepham i’r Cherries ac felly hefyd Adam Davies a Rhys Norrington-Davies i’r Blades. Yn parhau i fod wedi’i anafu y mae Kieffer Moore.

Ar ôl methu rhan helaeth o’r tymor gydag anafiadau mae Chris Maxwell yn ôl rhwng y pyst i Blackpool. Daeth ymlaen wedi ugain munud yn y gêm ganol wythnos yn erbyn Preston oherwydd anaf i Dan Grimshaw, cyn dechrau yn Blackburn ddydd Sadwrn. Gôl yr un a oedd hi gyda Ryan Hedges yn gwneud ymddangosiad hwyr fel eilydd i’r tîm cartref.

Dechreuodd Andrew Hughes i Preston wrth iddynt guro QPR o ddwy gôl i un. Nid oedd Ched Evans yng ngharfan Preston ond fe wnaeth George Thomas ymddangos fel eilydd ail hanner i Rangers.

Dave Cornell a oedd yn y gôl i Peterborough wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Bristol City. Nid oedd Andy King yng ngharfan y gwrthwynebwyr ond mae’n debyg ei fod yn ôl yn ymarfer yn llawn yn dilyn cyfnod hir allan gydag anaf.

Chwaraeodd Joe Allen y gêm gyfan wrth i Stoke drechu West Brom o dair gôl i un, ar y fainc yr oedd James Chester ac nid oedd Morgan Fox yn y garfan.

Chwaraeodd Tom Bradshaw y deg munud olaf o fuddugoliaeth gyfforddus Millwall dros Barnsley ac roedd ymddangosiad prin ar fainc y gwrthwynebwyr i Isaac Christie-Davies.

Mae Fulham o fewn pum pwynt i sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r Uwch Gynghrair ond bydd yn rhaid iddynt aros fymryn yn hirach ar ôl colli yn erbyn Coventry ddydd Sul. Creodd Harry Wilson gôl i Alekandar Mitrovic yn y fuddugoliaeth ganol wythnos dros Middlesbrough ac yntau sydd bellach wedi creu’r mwyaf o goliau yn y gynghrair y tymor hwn, pedair gôl ar ddeg. Dechreuodd yntau a Neco Williams yn erbyn Coventry ond colli o dair gôl i un a fu eu hanes.

Nid yw Luton Tom Lockyer a Huddersfield Sorba Thomas yn wynebu ei gilydd tan nos Lun.

 

*

 

Cynghreiriau is

Roedd hi’n wythnos dda i Sam Vokes yn yr Adran gyntaf. Sgoriodd y blaenwr mawr ddwywaith yn erbyn Caergrawnt ganol wythnos ac yntau a sgoriodd gôl Wycombe yn y gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Gillingham ddydd Sadwrn hefyd, ei bymthegfed o’r tymor. Dechreuodd Joe Jacobson y ddwy gêm hefyd.

O un sydd yn sgorio’n aml i un sydd ddim. Rhwydodd Jordan Williams ei gôl gyntaf i Bolton ddydd Sadwrn, yn sgorio yn y munud olaf i gipio pwynt dramatig yn erbyn Sheffield Wednesday. Dechreuodd Gethin Jones a Declan John y gêm hefyd. Wedi eu hanafu y mae Josh Sheehan a Lloyd Isgrove.

Sgoriodd Ellis Harrion i roi Fleetwood ar y blaen yn erbyn Accrington ond nid oedd hynny’n ddigon wrth iddynt fynd ymlaen i golli’r gêm o ddwy i un.

Colli o’r un sgôr a wnaeth Rhydychen yn erbyn Sunderland wedi i Billy Bodin greu gôl i Elliott Moore. Roedd Nathan Broadhead yn nhîm buddugoliaethus y Cathod Du.

Roedd buddugoliaeth dda i Charlton, yn ennill o gôl i ddim yn Rotherham. Dechreuodd Adam Matthews fel ôl-asgellwr dde a hynny ar ôl creu gôl yn y gêm gyfartal ganol wythnos yn erbyn Wimbledon. Nid oedd Chris Gunter yn y garfan.

Cadwodd Owen Evans lechen lân wrth i Cheltenham guro Portsmouth o gôl i ddim ond nid oedd Ben Williams yn y garfan. Dechrau ar fainc Pompey a wnaeth Joe Morrell a Louis Thompson, gyda Morrell yn dod oddi arni ar gyfer yr hanner awr olaf.

Wigan sydd ar frig y tabl ar ôl curo Lincoln o dair i un. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gwion Edwards i’r tîm buddugol ond fe chwaraeodd Regan Poole a Liam Cullen i’r gwrthwynebwyr.

Ym mhen arall y tabl, cadarnhawyd y bydd Crewe yn disgyn yn dilyn colled arall, yn Doncaster y tro hwn. Dechreuodd Dave Richards, Billy Sass-Davies a Tom Lowery y gêm a dichon y bydd ambell glwb ar ôl Sass-Davies a Lowery yn awr.

Chwaraeodd Wes Burns y gêm gyfan wrth i Ipswich gael gêm gyfartal yn erbyn yr Amwythig. Nid oedd Lee Evans yn y garfan ond roedd Charlie Caton ar fainc y gwrthwynebwyr.

Dechreuodd James Wilson a daeth Luke Jephcott a Ryan Broom oddi ar y fainc wrth i Plymouth gael gêm ddi sgôr yn erbyn Burton.

Cafodd Matthew Smith wyth munud prin ym muddugoliaeth ganol wythnos MK Dons yn erbyn Crewe ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd drachefn yn erbyn yr arch elyn, Wimbledon, ddydd Sadwrn.

Yn yr Ail Adran, cadwodd Tom King lechen lân wrth i Salford guro Harrogate o ddwy gôl i ddim. Daeth Liam Shephard ymlaen fel eilydd hwyr.

Ac mae Casnewydd yn y safleoedd ail gyfle gyda phum gêm yn weddill ar ôl trechu Swindon o gôl i ddim. Roedd Aaron Lewis, Tom Waite a Lewis Collins i gyd yn nhîm yr Alltudion a chwaraeodd Jonny Williams y gêm gyfan i Swindon.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Gorffen yn gyfartal a wnaeth hi yng ngêm ddarbi Dundee ddydd Sadwrn, dwy gôl yr un wrth i Dundee wneud y daith fer iawn i wynebu Dundee United. Chwaraeodd Dylan Levitt y gêm gyfan yng nghanol cae i United.

Roedd hi’n ddarbi yng Nghaeredin hefyd wrth i Hearts guro Hibs o dair gôl i un. Aros ar y fainc Hearts trwy gydol y gêm a wnaeth Ben Woodburn ac nid oedd Christian Doidge yng ngharfan Hibs.

Dechreuodd Marley Watkins i Aberdeen wrth iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Ross County ond nid oedd Alex Samuel yng ngharfan y gwrthwynebwyr. Cafodd Morgan Boyes chwarter awr fel eilydd i Livingston wrth iddynt gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn erbyn Motherwell.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Aaron Ramsey yng ngêm fawr Ewropeaidd Rangers yn erbyn Sporting Braga ganol wythnos. Ond dechreuodd y Cymro yn erbyn St Mirren ddydd Sul gan chwarae’n dda yn yr hanner cyntaf cyn cael ei eilyddio ar yr egwyl. Enillodd ei dîm o bedair i ddim.

Mae munudau Gareth Bale i Real Madrid yn cynyddu’n raddol bach, sydd ddim yn anodd iawn wrth gychwyn o ddim! Chwaraeodd y pum munud olaf yn y fuddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Chelsea ganol wythnos a daeth ymlaen gyda chwarter awr yn weddill wrth iddynt guro Getafe yn y gynghrair nos Sadwrn.

Yng Ngwlad Belg nos Sadwrn, chwaraeodd Rabbi Matondo y gêm gyfan wrth i Cercle Brugge gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Antwerp.

Ar fenthyg y mae Matondo wrth gwrs ac fe gododd ei riant glwb, Schalke, i frig y 2. Bundesliga dros y penwythnos a hynny ar draul Werder Bremen a St. Pauli a gafodd gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn ei gilydd. Nid oedd James Lawrence yng ngharfan St. Pauli.

Roedd gan Venezia gêm fawr yn y frwydr i osgoi’r gwymp o Serie A ddydd Sul, yn croesawu Udinese i Stadiwm Pier Luigi Penzo. Colli o ddwy gôl i un a fu eu hanes gydag Ethan Ampadu yn chwarae’r gêm gyfan yng nghanol cae.

Ac os ydi Rhys Healey yn Gymro mae’n werth cadw golwg arno. Sgoriodd cyn chwaraewr Cei Connah a Chaerdydd hatric wrth i Touluse guro Guingamp ddydd Sadwrn. Mae’r blaenwr bellach wedi sgorio chwe gôl yn ei bedair gêm ddiwethaf ac mae ei dîm wyth pwynt yn glir ar frig Ligue 2, yr ail haen yn Ffrainc.