Cipiodd Andrew Salter, y troellwr o Sir Benfro, ei ffigurau gorau erioed – saith wiced am 45 – i helpu i achub Morgannwg, sydd wedi gorffen gêm Bencampwriaeth gynta’r tymor yn erbyn Durham yn gyfartal.

Tarodd Chris Cooke 85 heb fod allan, ei ail hanner canred o’r ornest, gyda Kiran Carlson, y batiwr o Gaerdydd, yn taro 61 i sicrhau bod yr ymwelwyr yn mynd adref heb y fuddugoliaeth.

Collodd Durham saith wiced am 32 rhediad ar ôl iddyn nhw adeiladu blaenoriaeth batiad cyntaf o 149, gyda’r agorwr Alex Lees yn sgorio 182 heb fod allan i gario’i fat am yr ail waith erioed.

Roedd 16 pelawd yn weddill o’r gêm pan ddaeth hi i ben, gyda deuddydd o’r ornest wedi’u colli i’r tywydd eithafol.

Y diwrnod olaf

Roedd gan Durham flaenoriaeth o 114 ar ddechrau’r diwrnod olaf, gyda saith wiced wrth gefn.

Ond aethon nhw o 351 am dair i 383 i gyd allan o fewn dim o dro, wrth i Salter gipio pum wiced mewn batiad am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth.

Wicedi Andrew Salter

Scott Borthwick oedd ei wiced gyntaf, wedi’i ddal gan Sam Northeast am 64 ar y trydydd diwrnod:

David Bedingham aeth nesaf, wedi’i stympio gan Chris Cooke am 76:

Ned Eckersley wedyn, wedi’i ddal gan Kiran Carlson am bedwar:

Paul Coughlin oedd ei bedwaredd wiced, wedi’i ddal gan James Harris heb sgorio:

Ben Raine, wedi’i ddal gan Sam Northeast heb sgorio, oedd pumed wiced Andrew Salter, ei bedwaredd mewn 11 o belenni:

Cafodd Liam Trevaskis ei ddal gan Chris Cooke wedyn oddi ar fowlio James Harris i adael yr ymwelwyr yn 366 am wyth, cyn i Salter fowlio Matty Potts:

Cwympodd wiced ola’r batiad pan gafodd Chris Rushworth ei ddal gan Michael Hogan:

Ail fatiad Morgannwg

Ar ôl cinio, roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion am gyfnod ar 66 am bedair wrth i Colin Ingram gael ei fowlio gan Ben Raine, ond llwyddodd y sir Gymreig i gael blaenoriaeth diolch i bartneriaeth o 90 rhwng Kiran Carlson a Chris Cooke.

Ond daeth batiad Carlson i ben pan gafodd ei ddal gan y wicedwr Ned Eckersley oddi ar fowlio Matty Potts.

Ar ôl sgorio 59 yn y batiad cyntaf, Cooke oedd yr arwr unwaith eto yn yr ail fatiad wrth sicrhau bod ei dîm yn osgoi colli.

Ymateb y troellwr

“Dw i’n meddwl bod y ffordd wnaeth y bois chwarae yn ail hanner y dydd yn dda iawn,” meddai Andrew Salter.

“Roedd hi’n drueni i ni golli’r wicedi cynnar hynny, ond roedd y ffordd ddaeth y bois yn ôl iddi yn addawol.

“Do’n i’n sicr ddim yn disgwyl [cipio saith wiced.

“Mae’n gêm wallgo’, wir, on’d yw hi?!

“Mae’n gallu mynd y naill ffordd neu’r llall, dw i wedi bod i’r pegwn arall lle maen nhw’n dod allan, chwarae ergydion ac yn gorffen yn yr eisteddle.

“Ro’n i’n bles o’u gweld nhw’n mynd yn syth i fyny i’r awyr, ac i gael cwpwl o wicedi.

“Ond rhaid i fi sôn am y gwaith caled wnaeth y bois cyn hynny.

“Wnaethon ni ddim wir cael y wobr gynta’ ddoe.

“Ar lefel bersonol, roedd hi’n braf iawn cipio wicedi, mae’n teimlo’n dda wrth ddod ma’s o’r llaw, felly mae’n braf cael casglu’r wobr.

“Ond mae’n debyg ’mod i wedi bowlio’n hirach ac yn well na hynny heb gael fy ngowbrwyo.”