Daeth artist o’r Rhondda yng Nghymoedd y de i amlygrwydd ar ôl iddo roi gwaith graffiti ar fagiau plastig mewn archfarchnadoedd yn yr ardal.

Mae Bagsy bellach yn gwneud bagiau, crysau-T a hwdis sydd wedi’u cynhyrchu yn y Rhondda, ac wedi dechrau cynnwys sloganau Cymraeg…

Fel dipyn o hwyl a pharodi o’r artist graffiti anhysbys enwog Banksy y dechreuodd Bagsy ei fenter yn y Rhondda. Erbyn hyn, mae’n cynhyrchu bagiau a chrysau-T gyda sloganau bachog arnyn nhw sydd wedi eu gweld ar draws y byd.

“Wnes i ddechrau gwneud gwaith graffiti ar fagiau plastig a’u gadael nhw o gwmpas archfarchnadoedd yn y Cymoedd tua diwedd 2017,” meddai Bagsy sydd, fel Banksy, yn gwrthod datgelu ei enw go-iawn i’r cyhoedd.

Bagsy – yr artist anhysbys. Llun: Tony Smith

“Ro’n i wedi creu’r parodi yma o Banksy a’i alw’n Bagsy ac yn meddwl byddai’n dipyn o hwyl. Ond mi ddechreuodd y darluniau ar y bagiau gael eu darganfod ac roedd y prosiect yn cael dipyn o sylw ar-lein,” meddai Bagsy, sydd wedi aros yn anhysbys er ei fod yn cydnabod bod pobl yn yr ardal yn ymwybodol iawn pwy ydy o.

“Mae’n dipyn o jôc – ar ôl pedair blynedd dw i hyd yn oed yn anghofio fy mod i fod yn anhysbys! Dw i’n credu ei fod yn un o’r cyfrinachau gwaetha yn y Rhondda…”

Erbyn dechrau 2018 roedd gan Bagsy nifer o ddilynwyr oedd yn hoffi ei waith ac eisiau mwy.

“Dyma nhw’n dechrau gofyn i fi wneud bagiau cario cotwm [tote bags]. Digwydd bod roedd hyn wedi digwydd yn yr un wythnos a phan wnes i golli fy nwy swydd efo cytundebau dim oriau. Dw i’n cofio fy ngwraig yn dod i nôl fi o’r gwaith ar ei ffordd adre, a dyma hi’n dweud: ‘Mi elli di un ai eistedd o gwmpas y tŷ yn anobeithio, mynd ar y clwt, neu mi elli di wneud beth wyt ti eisiau gwneud mewn bywyd’.”

Ar ôl gweld y diddordeb yn ei fagiau, fe benderfynodd Bagsy ddysgu sut i argraffu ar ei liwt ei hun mewn garej.

“Roedd genna’i werth mis o arian yn fy mhoced a wnes i ddysgu fy hun sut i brintio drwy wylio lot o fideos YouTube. Ar ôl gwneud lot o gamgymeriadau, wnes i’r print perffaith bythefnos wedyn,” eglura Bagsy, a oedd wedi astudio Celf a Dylunio yn yr ysgol a’r coleg cyn mynd i’r brifysgol a chwblhau graddau BA a Meistr mewn Celf Gain. Bu’n ddarlithydd Celf am bum mlynedd ym Mhrifysgol De Cymru ac mae hefyd wedi arddangos ei waith celf mewn orielau ar draws y byd, “ond o dan fy enw go-iawn”.

‘Portreadu’r Cymoedd mewn ffordd bositif’

Yr awch i fynd yn ôl at ddarlunio oedd wedi sbarduno’r syniad ar gyfer rhoi graffiti ar fagiau plastig.

“Ro’n i wir eisiau dechrau darlunio eto ond doeddwn i ddim eisiau dim ond mynd allan a phrynu llyfr i ddarlunio ynddo fo. Daeth y syniad ata’ i pan oeddwn i’n taflu llwyth o fagiau plastig am oes allan yr oedd fy ngwraig a fi wedi bod yn cadw mewn droriau. Roedd y syniad o roi darluniau ar fagiau plastig wedi tyfu o hynna. A ro’n i eisiau portreadu’r Cymoedd mewn ffordd bositif hefyd,” esbonia Bagsy, sy’n hynod o falch o’i wreiddiau yn y Rhondda.

Un o gwsmeriaid bodlon Bagsy

Fe ddechreuodd brintio ar grysau-T yn 2019 a hwdis yn 2020 gan fod ei gwsmeriaid wedi bod yn gofyn amdanyn nhw. Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae twf y busnes wedi bod yn “anhygoel” meddai, ac roedd wedi gweld cynnydd mawr yn y galw ar ddechrau’r cyfnod clo.

“Dw i’n credu’r oedd pobl yn teimlo hiraeth am Gymru yn ystod y clo a ro’n i’n cael lot o e-byst gan bobl oedd yn dweud eu bod nhw heb fod adref ers blynyddoedd. Roedden nhw’n dweud bod cael un o fy magiau neu grys-T fel bod yn berchen ar ddarn bach o’r Cymoedd.”

Teyrnged i Max Boyce

Mewn lliw llwyd yn unig oedd ei grysau-T a hwdis tan yn ddiweddar iawn, a hynny am ei fod eisiau iddyn nhw fod “yn wahanol”.

“Pan o’n i’n edrych ar liwiau wnes i feddwl beth am eu gwneud nhw mewn jest un lliw – Rhondda Grey, fel teyrnged i gân Max Boyce. A dyna sut y dechreuodd e’. Ond dw i wedi cael fy argyhoeddi i wneud rhai coch Cymru yn ddiweddar ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi sydd wedi bod yn boblogaidd iawn hefyd.”

Mae Bagsy wedi cychwyn creu crysau-T gyda’r Gymraeg arnyn nhw

Mae ei gwsmeriaid, meddai, yn “hynod o amyneddgar a chefnogol, achos mae’r rhan fwyaf wedi bod gyda fi ers y cychwyn cyntaf ac wedi bod gyda fi ar y daith. Fyswn i’n dweud bod traean o fy nghwsmeriaid yn byw yn y Cymoedd, traean dros weddill Cymru, a thraean ym mhedwar ban byd.  Dw i’n cofio rhai yn dweud wrtha i pan wnes i ddechrau na fyddai’r busnes byth yn llwyddo achos doedd dim digon o bobl yn byw yn y Cymoedd. Ond fysech chi’n synnu faint o ex-pats sydd allan yna.”

‘Creu swyddi yn y Cymoedd’

Mae Bagsy yn angerddol dros gadw’r broses o gynhyrchu’r nwyddau yn y Rhondda a dros y chwe mis diwethaf mae wedi bod yn gweithio gyda menter wnïo leol sydd wedi dechrau ar safle hen ffatri Burberry yn Ynyswen.

“Roedd nifer ohonyn nhw efo aelodau o’r teulu oedd yn gweithio yn y ffatri, hyd yn oed pan oedd yn cael ei adnabod fel ffatri Polikoff’s [a ddechreuodd gynhyrchu yn 1939]. Roedd fy niweddar hen ewythr John yn gweithio yno drwy gydol ei fywyd, felly mae wedi bod yn hyfryd cael gweithio gyda chyn-weithwyr y ffatri a rhai oedd yn adnabod fy ewythr yn dda. Mae yna lawer o straeon i’w hadrodd. Maen nhw nawr yn cynhyrchu’r bagiau i fi, a dw i mor falch i allu dweud eu bod nhw’n cael eu gwneud a’u printio â llaw yn y Rhondda. Mae’n creu swyddi i bobl yn y Cymoedd a dw i’n lleihau fy ôl troed carbon. Ond mae llawer mwy i’w wneud a dw i’n edrych ymlaen at ddatblygu hyn ymhellach yn y blynyddoedd i ddod,” meddai Bagsy, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg dros y misoedd diwethaf.

Digwyddodd hynny oherwydd yr adborth mae wedi’i chael dros y pedair blynedd ddiwethaf gan ei gwsmeriaid yn galw arno i gynhyrchu nwyddau gyda’r iaith Gymraeg arnyn nhw.

“Roedd hyn yn rhywbeth ro’n i wedi osgoi achos ro’n i’n teimlo mod i methu gwneud cyfiawnder â fe gan mod i ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl. Ond ychydig fisoedd yn ôl wnes i benderfynu rhoi tro arni ac mae’n rhaid i fi ddweud, dw i yn mwynhau dysgu Cymraeg. Dw i newydd gwblhau fy modiwl cyntaf. Ymlaen.”

bagsybags.com