Fe fydd y brifwyl eleni – y gyntaf ers covid – yn cael croeso brwd gan gantorion y gorllewin…

Mae yna hen edrych ymlaen at y cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, wedi dros ddwy flynedd o aros.

Cafodd y brifwyl, a fydd yn cael ei chynnal ar bwys tref Tregaron ym mis Awst eleni, ei gohirio ddwywaith oherwydd Covid, ond bellach mae corau a phartïon wedi dechrau ymarfer o ddifrif.