Wrth gondemnio ymosodiad Vladimir Putin ar Wcráin, mae un neu ddau wedi dechrau ein hatgoffa ni bod ymosodiadau dadleuol eraill wedi bod…
“Pryd mae gweithred o ryfel yn mynd yn drosedd rhyfel? Oes, mae rhyw linell yn rhywle, ond anodd ei lleoli. Ac ar ddiwedd y rhyfel wrth gwrs, yr enillwyr sy’n gosod y llinell. Crogwyd Goering, a chodwyd cofeb i Bomber Harris… Dinistr erchyll dinasoedd Wcráin y dyddiau hyn yn galw i gof olygfeydd o Baghdad a Mosul rai blynyddoedd yn ôl. Tra byddwn ni’n disgwyl i’r Pwtyn ddod i’r rhwyd, beth am sefydlu’r llys a chael tipyn o bractis gyda Tony Blair yn brif gymeriad?” (Dafydd Glyn Jones ar glynadda.wordpress.com)
I’r un man yr aeth Leanne Wodd yn thenational.cymru…
“Tros fis, cafodd poblogaeth Irac ei pheledu ddydd a nos. Yn ystod yr ail wythnos, roedd dau fom wedi taro marchnadoedd ym Maghdad gan ladd dwsinau. Cafodd ysbyty’r Cilgant Coch ei bomio, gan anafu doctoriaid a nyrsys. Gollyngwyd bomiau clwstwr lle’r oedd pobol gyffredin, neu gerllaw. Yn ôl Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig, defnyddiwyd 1.9 tunnell metrig o wraniwm disbydd, ac mae llywodraeth y DU yn parhau i wrthod ei glirio. R’yn ni’n cofio’r 7,000 o ddinasyddion Irac a fu farw yn ystod y goresgyniad anghyfreithlon a’r cannoedd o filoedd o Iraciaid sydd wedi marw yn sgil hynny.”
Os ydi Wcráin yn ymladd am ei heinioes, mae rhai blogwyr hefyd yn poeni am ddatganoli yng Nghymru. Ac Ifan Morgan Jones ar nation.cymru’n gweld peryg oherwydd diffyg gwasanaethau newyddion i ddangos be sy’n digwydd…
“Mae gan hunanlywodraeth Gymreig gefnogaeth eang ym mhob arolwg barn. Ond fydd dim yn haws i’r ‘unoliaethwyr cyhyrog’ sydd mewn grym yn San Steffan, na dadwneud datganoli os nad oes neb hyd yn oed yn gwybod ei fod yn digwydd. I gefnogwyr unrhyw ffurf ar hunanlywodraeth Gymreig, sut i achub a chryfhau’r cyfryngau Cymreig ddylai fod yn brif destun sgwrs ar hyn o bryd… ‘Beth sydd gan Gymru fwya’ ohonyn nhw, newyddiadurwyr neu swyddogion y wasg?’ Roedd yr ateb yn amlwg: swyddogion y wasg… Ydi hynna’n sefyllfa iach i ecosystem cyfryngau gwlad, pan fo mwy o bobol â’r gwaith o drin ceisiadau am wybodaeth gan newyddiadurwyr nag sydd yna o bobol i ofyn y cwestiynau?”
Yn ôl Jess Blair o’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadau, un o’r ffyrdd o gryfhau datganoli ydi cynyddu nifer aelodau’r Senedd… rhywbeth y mae cynhadledd wanwyn Plaid Lafur Cymru wedi pleidleisio’n unfrydol o’i blaid…
“Bron 25 mlynedd ers buddugoliaeth fain yr ymgyrch ‘Ie’ yn y refferendwm datganoli, mae’r Senedd wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth, gan fynd o Gynulliad bychan heb ddim swyddogaethau llywodraeth a grymoedd prin, i Senedd Gymreig lawn gyda hawliau deddfu a chodi trethi. Dyma senedd sydd wedi treulio’r ddwy flynedd ddiwetha’ yn craffu ar ddeddfau pwysig a chyllidebau ynghanol pandemig gyda chydig tros 40 o bobol i wneud hynny (ar ôl tynnu gweinidogion llywodraeth, arweinwyr pleidiau a chynrychiolwyr Comisiwn y Senedd).” (nation.cymru)