Mae Angharad James yn galw ar gefnogwyr tîm pêl-droed merched Cymru i heidio i Barc y Scarlets heno ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Ffrainc (nos Wener, Ebrill 8).

Mae dros 4,000 o docynnau wedi’u gwerthu eisoes, ac mae’r chwaraewyr a’r rheolwr Gemma Grainger wedi bod yn pwysleisio pwysigrwydd y Wal Goch wrth i Gymru geisio cyrraedd Cwpan y Byd.

Ar drothwy’r pedair gêm ragbrofol olaf, mae Cymru’n ail yn eu grŵp, gyda gêm fawr arall i ddod yn Kazakhstan nos Fawrth nesaf (Ebrill 12).

Pan wnaeth Cymru herio Ffrainc ym mis Tachwedd, y gwrthwynebwyr oedd yn fuddugol, a hynny o 2-0.

“Ni’n gwybod bydd hi’n gêm anodd, maen nhw’n drydydd yn y byd a ni wedi chwarae nhw dim ond misoedd yn ôl, felly ni’n gwybod beth maen nhw’n dda a beth rydyn ni’n gallu gwneud i wella’r canlyniad tro yma,” meddai Angharad James.

“Ni wedi gweithio’n galed iawn wythnos yma i drio cael y pwyntiau drosodd i’r tîm, a ni’n hyderus yn mynd mewn i’r gêm, a ni’n gwybod os ydyn ni’n gallu gwneud y game-plan yn gywir, bydd gyda ni siawns dda i gael rhywbeth allan o’r gêm.

“Y ffaith aethon ni lawr i ddeg o chwaraewyr a wnaethon ni dal cael siawns i gael rhywbeth allan o’r gêm, dyna faint mor bell ni wedi dod fel grŵp o chwaraewyr.

“Ni’n gwybod beth wnaethon ni’n dda ma’s yn Ffrainc, ac roedd y cefnogwyr yn gwneud e’n galed i ni hefyd.

“Mae 4,000 ar y funud yn dod i’r gêm, felly os ydyn nhw’n gallu bod tu ôl i ni, byddan nhw’n helpu ni shwd gymaint hefyd.

“Mae’r pethau hyn yn bethau bach ond mae’n helpu.

“Ni’n gyffrous gyda’r perfformiad allan yn Ffrainc, a ni’n llawn hyder yn mynd mewn i’r gêm.

“Dyma’r sialens i ni fel gwlad, dyma’r gemau rydyn ni mo’yn chwarae, yn erbyn tîm sydd yn drydydd yn y byd ac fel chwaraewyr ac fel tîm, ni’n gallu gweld faint mor bell ni wedi dod ac efallai faint mor bell mae’n rhaid i ni fynd er mwyn gwneud beth rydyn ni mo’yn gwneud fel gwlad.”