Mae diwrnod cynta’r tymor criced sirol yng Nghaerdydd wedi dod i ben yn gynnar o ganlyniad i law a chenllysg.

Mae Morgannwg yn 164 am bedair, gyda’r batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram, heb fod allan ar 71 a Chris Cooke heb fod allan ar 30.

Dechreuodd y gêm Bencampwriaeth gynharaf erioed yng Nghaerdydd mewn amodau gwyntog, gyda’r ddau Gymro, Andrew Salter a’r capten David Lloyd, yn agor y batio fel partneriaeth agoriadol newydd sbon.

Ond wnaeth y bartneriaeth ddim para’n hir iawn, wrth i Salter o Sir Benfro gael ei fowlio gan Matthew Potts, a Morgannwg yn 16 am un.

Roedd y tîm cartre’n 54 am ddwy pan darodd Lloyd o Wrecsam y bêl i’r slip oddi ar fowlio Ben Raine, i ddod â Sam Northeast i’r llain am y tro cyntaf ers symud o Hampshire cyn dechrau’r tymor.

Dechreuodd e ac Ingram eu partneriaeth yn gadarn gyda chyfres o ergydion i’r ffin, gydag Ingram yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 76 o belenni cyn cinio, gan daro 13 pedwar.

Ond roedd Morgannwg yn 107 am dair wrth i Chris Rushworth daro coes Northeast o flaen y wiced, cyn i Ben Raine fowlio Kiran Carlson, yr is-gapten o Gaerdydd.

Roedd Morgannwg yn 110 am bedair ar ddechrau sesiwn y prynhawn, wrth i Chris Cooke ac Ingram geisio sefydlogi’r batiad.

Er i’r tywydd eithafol ddod ar ôl dim ond 38 o belawdau, llwyddodd y chwaraewyr i ddychwelyd am bedair pelawd arall cyn gorfod gadael eto.

Dychwelon nhw eto ar ôl te, gyda Morgannwg yn 153 am bedair a deg pelawd wedi’u colli o ganlyniad i’r tyywdd ond dim ond 4.2 pelawd arall oedd yn bosib cyn i’r chwaraewyr adael y cae am y tro olaf.

Ymateb

Ar ddiwedd y dydd, mae David Lloyd wedi canmol perfformiad Colin Ingram am fatio mewn modd ymosodol.

“Mae o llenwi’n rhif tri ac wedi gwneud gwaith gwych i ni heddiw ac wedi perfformio’n dda,” meddai.

“Dyna’r ffordd mae o’n chwarae, a dyna pryd mae o’n chwarae ei griced gorau.

“Wnaeth o dalu ar ei ganfed iddo fo wneud hynny, a gobeithio y gall o ailadeiladu eto yn y bore.

“Yn amlwg, mae gynno fo lawer o brofiad ac mae o’n nabod ei gêm yn eitha’ da, felly dwi’n meddwl fod o’n dipyn haws nag y byddai o i rywun ifanc ddod i mewn a’i wneud o.”

Wrth asesu’r diwrnod cyntaf, dywed David Lloyd fod Morgannwg wedi dangos “cryn gymeriad”, a bod rhaid iddyn nhw geisio sgorio o leiaf 300 yn eu batiad cyntaf.

“Wnaethon ni fatio’n dda, gyda chryn dipyn o fwriad o ran y ffordd aeth yr hogiau ati,” meddai.

“Mae’r ffordd mae Cooky a Colin wedi’n cadw ni ynddi’n dda, a gobeithio y gallwn ni adeiladu ar hynny fory.”