Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, wedi cyhoeddi pum newid yn y tîm i herio Lloegr.

Bydd y prop pen rhydd Donna Rose yn dechrau’r gêm ar ôl sgorio dau gais fel eilydd yn erbyn Iwerddon, tra bydd Sisilia Tuipulotu yn dechrau gêm am y tro cyntaf, gan gadw cwmni i Gwen Crabb yn yr ail reng.

Sioned Harries fydd yn dechrau yn y cryf rhif wyth, gyda’r capten Siwan Lillicrap yn symud i ochr dywyll y rheng ôl.

Yr haneri fydd Ffion Lewis, ar ôl ei chais yn erbyn yr Alban, a Robyn Wilkins.

Yn ôl Ioan Cunningham, mae’r chwaraewyr i gyd yn “haeddu” eu lle, ac mae gan bob un “rôl allweddol” yn y tîm.

“Rydyn ni wedi cyffroi yn sgil yr her fawr hon yn erbyn tîm rhif un y byd,” meddai.

“Ar gyfartaledd, maen nhw’n sgorio tua wyth cais bob gêm felly does dim amheuaeth gennym ynghylch maint y dasg.

“Fodd bynnag, rydyn ni eisiau cystadlu yn erbyn timau gorau’r byd, felly mae hwn yn gyfle gwych i ni brofi’n hunain a gwneud cynnydd.

Bydd y gic gyntaf yng Nghaerloyw ddydd Sadwrn (Ebrill 9) am 4.45yp, a’r gêm yn fyw ar BBC 2.

 

Tîm Cymru: 15 Kayleigh Powell, 14 Lisa Neumann, 13 Hannah Jones, 12 Kerin Lake, 11 Jasmine Joyce, 10 Robyn Wilkins, 9 Ffion Lewis; 1 Gwenllian Pyrs, 2 Carys Phillips, 3 Donna Rose, 4 Sisilia Tuipulotu, 5 Gwen Crabb, 6 Siwan Lillicrap (capten), 7 Alisha Butchers, 8 Sioned Harries

Eilyddion: 16 Kelsey Jones, 17 Cara Hope, 18 Cerys Hale, 19 Alex Callender, 20 Bethan Lewis, 21 Keira Bevan, 22 Elinor Snowsill, 23 Natalia John