Bydd tîm rygbi’r gynghrair Cymru’n herio Ffrainc ar Fehefin 19, eu gêm ryngwladol lawn gyntaf ers 2018.
Bydd yr ornest yn cael ei chynnal yn Albi yn ne Ffrainc.
Hon fydd eu gêm lawn gyntaf ers iddyn nhw guro Iwerddon i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd, sydd wedi’i ohirio tan ddiwedd y tymor.
“Dw i’n credu bod angen i’r holl wledydd fanteisio ar y penwythnos rhyngwladol rhydd,” meddai’r prif hyfforddwr John Kear.
“Gan nad ydyn ni wedi chwarae fel tîm ers nifer o flynyddoedd bellach, dw i’n gweld hyn fel paratoad hanfodol ar gyfer Cwpan y Byd yn erbyn gwrthwynebwyr cadarn.
“Mae’r gêm yn Ffrainc wedi cael dadeni yn ddiweddar – maen nhw wedi cael llwyddiant gyda’r Catalans a Toulouse ac maen nhw’n cynnal Cwpan y Byd yn 2025.
“Bydd y gêm yn her fawr, mae hi oddi cartref a bydd hi’n profi ein gwydnwch i weld beth sydd angen i ni weithio arno er mwyn gwella at Gwpan y Byd.