Mae David Lloyd, capten Clwb Criced Morgannwg, yn dweud bod y chwaraewyr “wedi achosi cur pen o ran pwy i’w dewis” ar gyfer gêm gynta’r tymor dosbarth cyntaf.

Durham yw’r ymwelwyr â Gerddi Sophia yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm Bencampwriaeth pedwar diwrnod sy’n dechrau heddiw (dydd Iau, Ebrill 7).

Cafodd y chwaraewr amryddawn o Wrecsam ei benodi’n gapten y sir ar gyfer y Bencampwriaeth a Chwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd enillodd Morgannwg y tymor diwethaf, ar drothwy’r tymor newydd, tra bydd Kiran Carlson yn arwain y sir yn y Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd.

Mae gan y sir sawl wyneb newydd yn y garfan hefyd, gan gynnwys y batiwr profiadol Sam Northeast, sydd wedi ymuno o Hampshire, tra bod y Cymro James Harris yn dychwelyd o Middlesex yn dilyn cyfnod ar fenthyg yng Nghymru y tymor diwethaf.

“Yn amlwg, mae’r hogiau wedi cyffroi’n lân o gael cychwyn arni,” meddai David Lloyd wrth golwg360.

“Mae’r cyfnod cyn cychwyn y tymor yn cyrraedd y pwynt lle mae’r hogiau’n barod i fynd efo’r stwff go iawn.

“Fel grŵp, rydan ni wedi cyffroi’n fawr, mae pawb wedi ymarfer yn dda ac wedi rhoi cur pen o ran pwy i’w dewis.

“Mae gynnon ni lawer mwy o ddyfnder a chystadleuaeth am lefydd yn ein carfan eleni, sy’n beth da ac yn rywbeth oedd yn eisiau efo ni, felly mae hynny’n plesio.

“Gobeithio fedrwn ni gychwyn y tymor efo criced da, awn ni allan i ennill pob gêm ond dim ond i ni gadw at y broses a gwneud yr hyn rydan ni’n ei wneud orau, dyna ydi’r peth pwysicaf.”

Gemau’r gorffennol

Teithiodd Morgannwg i Durham ar gyfer gêm ola’r tymor diwethaf, a cholli o fatiad a 42 o rediadau ar ôl cael eu bowlio allan am 97 yn eu batiad cyntaf.

Sgoriodd Durham 503 wrth ymateb, a rhoi crasfa i’r sir Gymreig, er i Dan Douthwaite ac Andrew Salter frwydro’n galed gyda’r bat i geisio achub yr ornest.

Yr ymweliad yr wythnos hon yw’r tro cyntaf i Durham chwarae yng Nghaerdydd ers 2018, pan gipion nhw fuddugoliaeth o fatiad o fewn tridiau, diolch i Chris Rushworth a’i bum wiced am 28, gyda Morgannwg yn cael eu bowlio allan am 111 yn eu hail fatiad.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Durham yn y Bencampwriaeth ers yr ornest yn San Helen yn Abertawe yn 2017, ar ôl i Forgannwg gwrso 266 mewn 51 o belawdau ar ôl i’r ymwelwyr gau’r batiad ar y prynhawn olaf.

Nick Selman enillodd yr ornest honno i’r sir Gymreig, gyda’i ganred yn selio’r fuddugoliaeth o dair wiced.

Mae Durham wedi chwarae saith gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers iddyn nhw gael statws dosbarth cyntaf yn 1992, pan darodd Paul Parker a Wayne Larkins ganred yr un i gipio’r fuddugoliaeth o fatiad a 104 o rediadau er i Tony Cottey daro canred i Forgannwg yn yr ail fatiad.

Simon Brown, y bowliwr cyflym llaw chwith, oedd y seren i Durham bryd hynny, gydag wyth wiced.

Dim ond dwywaith, yn 1992 a 2018, mae Durham wedi ennill gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd – rhwng 1997 a 2003, fe wnaeth Morgannwg eu curo mewn pedair gêm Bencampwriaeth yn olynol yng Ngerddi Sophia – o fatiad a dau rediad yn 1997, o saith wiced yn 1999, o bum wiced yn 2002 ac o wyth wiced yn 2003.

Mae cryn edrych ymlaen at y frwydr rhwng dau fowliwr cyflym – Michael Hogan a Chris Rushworth – gyda’r naill wedi cipio 412 o wicedi dosbarth cyntaf i Forgannwg a’r llall wedi cipio 564 o wicedi dosbarth cyntaf i Durham.

Y garfan a’r gwrthwynebwyr

Dyma fydd gêm gyntaf David Lloyd wrth y llyw ers iddo gael ei benodi’n swyddogol i olynu Chris Cooke, ac fe fydd yn agor y batio gyda’r chwaraewr amryddawn o Sir Benfro, Andrew Salter, sydd wedi codi i fyny’r rhestr fatio.

Daw Kiran Carlson, yr is-gapten, i mewn i’r gêm ar ôl sgorio 148 yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr wythnos hon, ac mae’n un o ddim ond pedwar chwaraewr sy’n cadw eu llefydd o’r gêm honno, ynghyd â Tom Cullen, Dan Douthwaite a Callum Taylor.

Colin Ingram o Dde Affrica a’r Awstraliad Michael Neser yw’r ddau chwaraewr tramor, ac mae’r bowliwr cyflym Neser yn parhau i wella o anaf i’w ochr ar ôl iddo orfod colli taith Awstralia i Bacistan fis diwethaf.

Mae’r bowliwr cyflym Michael Hogan, sydd ar drothwy ei dymor olaf gyda Morgannwg cyn ymddeol, hefyd wedi’i gynnwys yn y garfan.

O ran yr ymwelwyr, mae disgwyl i Alex Lees agor y batio fis ar ôl ennill ei gap prawf cyntaf dros Loegr yn y Caribî, ond dydy ei gyd-chwaraewyr rhyngwladol Ben Stokes na Mark Wood ddim ar gael.

Mae Brydon Carse yn parhau i wella o anaf, ac felly fydd e ddim yn chwarae yn y gêm hon, a bydd Keegan Petersen o Dde Affrica ar gael yr wythnos nesaf, ac yntau’n chwarae i’w dîm cenedlaethol yn erbyn Bangladesh ar hyn o bryd.

Ond un sydd wedi’i enwi yn y garfan yw’r bowliwr cyflym 21 oed Oliver Gibson, ac yntau’n aros i chwarae i Durham am y tro cyntaf ar ôl graddio o’r Academi a llofnodi cytundeb cychwynnol gyda’r sir.

Carfan Morgannwg: D Lloyd (capten), K Carlson, C Cooke, T Cullen, D Douthwaite, J Harris, M Hogan, C Ingram, M Neser, S Northeast, A Salter, C Taylor, T van der Gugten, J Weighell.

Carfan Morgannwg: D Bedingham, S Borthwick (capten), G Clark, P Coughlin, S Dickson, N Eckersley, O Gibson, M Jones, A Lees, L Trevaskis, M Potts, B Raine, C Rushworth.

Sgorfwrdd