Mae arweinydd yr SDLP yn dweud bod Sinn Fein wedi sylweddoli, o’r diwedd, mai’r argyfwng costau byw ac nid ffiniau Iwerddon yw’r flaenoriaeth.
Mae Colum Eastwood wedi cyhuddo’r blaid genedlaetholgar o fyw mewn “byd ffantasi” wrth alw am bleidlais ar y ffiniau ar adeg pan fo pobol yn ei chael hi’n anodd bwydo’u teuluoedd.
Mae’n cyhuddo Sinn Fein o fod yn “ddysgwyr araf”, ac o orfod symud eu ffocws oddi ar y Cyfansoddiad tuag at yr argyfwng costau byw.
Roedd yn ymateb i sylwadau Michelle O’Neill, arweinydd Sinn Fein, yn Stormont wrth iddi gydnabod nad yw trigolion Iwerddon yn dihuno yn y bore ac yn meddwl am ailuno Iwerddon ar hyn o bryd ond yn hytrach, fod biliau cynyddol yn achosi pryder.
Mae Eastwood wedi cyhuddo gweinidogion Sinn Fein o dreulio gormod o amser yn gwthio am refferendwm pan ddylen nhw fod yn canolbwyntio ar helpu teuluoedd wrth i chwyddiant gynyddu.
“Dysgwyr araf ydyn nhw fel arfer,” meddai wrth Press Association.
“Rydyn ni wedi bod yn dweud wrthyn nhw ers blynyddoedd am roi’r gorau i alw am bleidlais ar ffiniau ’nawr’.
“Rhaid gwneud y gwaith hwnnw, wrth gwrs, rhaid clywed y sgwrs, ond mae pobol yn ei chael hi’n anodd bob dydd ac mae Sinn Fein, bedair wythnos cyn yr etholiad, nawr yn dechrau siarad am broblemau pobol yn hytrach na siarad am bleidlais ffiniau.”
Mae’n cyhuddo Sinn Fein o “eistedd ar eu dwylo” ac o fyw mewn “byd ffantasi tra ein bod ni’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau pobol”.
Y Cyfansoddiad
Yn y cyfamser, mae Naomi Long, arweinydd yr Alliance Party, yn dweud nad yw pobol yn dihuno yng nghanol nos yn meddwl am y Cyfansoddiad ac ailuno Iwerddon.
“Dydy etholiadau’r Cynulliad byth yn canolbwyntio ar gwestiwn y Cyfansoddiad,” meddai.
“Fydd dim byd wnawn ni yn y Cynulliad yn newid safbwynt cyfansoddiadol Gogledd Iwerddon, dim ond refferendwm gyda’r holl bobol fydd [yn gwneud hynny].
“Mae pleidleisio dros bobol oherwydd eu safbwynt ar y cwestiwn cyfansoddiad yn dipyn o wastraff pleidlais oherwydd bydd gennych chi eich pleidlais eich hun i’w bwrw mewn unrhyw refferendwm.
“Tra, efallai, fod gan bobol ddyheadau, naill ai i aros yn y Deyrnas Unedig neu am ailuno Iwerddon, nid dyna’r pethau sy’n dihuno pobol yng nghanol nos ar hyn o bryd.”