Roedd aelodau o grŵp sy’n ymgyrchu tros annibyniaeth i’r Alban ac sy’n destun achos llys yn ymddiried yn ei gilydd, yn ôl cyn-Ysgrifennydd Iechyd yr Alban.

Mae Jeane Freeman wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn ystod achos llys Natalie McGarry, sydd wedi’i chyhuddo o ddwyn dros £25,000 o ddau grŵp ymgyrchu, gan gynnwys Menywod tros Annibyniaeth.

Yn Llys Siryff Glasgow, dywedodd cyfreithiwr ar ran Natalie McGarry ei bod hi’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei herbyn.

Roedd Jeane Freeman yn un o sylfaenwyr y grŵp yn 2012 ac yn un o’i brif drefnwyr.

Clywodd y llys fod y grŵp wedi sefydlu sawl ymgyrch i godi arian er mwyn cynhyrchu taflenni a nwyddau i’w gwerthu.

Dywedodd Jeane Freeman mai Natalie McGarry oedd yn gyfrifol am arian yr ymgyrchoedd, a’i bod hi’n “deall” sut roedd codi arian yn gweithio ac unrhyw adroddiadau a chofnodion roedden nhw’n eu cadw.

Ychwanegodd ei bod hi’n dibynnu ar “adroddiadau llafar” McGarry, y trysorydd, er mwyn gwybod i ble roedd arian yn mynd a phan gafodd ei holi ynghylch gwirio’r cyfrifon, dywedodd fod yr aelodau’n “ymddiried yn ei gilydd”.

Cyhuddiadau

Mae Natalie McGarry o Glasgow wedi’i chyhuddo o ddwyn £21,000 oddi ar grŵp WIF rhwng Ebrill 2013 a Thachwedd 2015.

Mae hi wedi’i chyhuddo o ddefnyddio cyfri’r sefydliad i drosglwyddo arian oedd i fod i fynd i Fanc Bwyd Perth a Kinross a mudiad carchardai yn Glasgow i’w chyfrif hi ei hun.

Mae hi hefyd yn wynebu cyhuddiad arall o ddwyn £4,661.02 oddi ar gymdeithas ranbarthol Glasgow yr SNP rhwng Ebrill 2014 ac Awst 2015.

Mae erlynwyr yn dadlau ei bod hi, yn ystod ei chyfnodau’n drysorydd, ysgrifennydd a chynullydd y gymdeithas, wedi defnyddio sieciau o gyfrifon yn enw’r gymdeithas i dalu treuliau ffug a’i bod hi wedi derbyn ad-daliadau nad oedd ganddi hawl i’w derbyn.

Mae hi hefyd wedi’i chyhuddo o ddefnyddio sieciau’r gymdeithas i roi arian yn ei chyfrifon banc ei hun ac i drosglwyddo arian a gafodd ei roddi i’r gymdeithas drwy ei gwefan i’w chyfrifon ei hun.

Mae’r achos yn parhau.