Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi teithio i’r Unol Daleithiau lle bydd yn ymweld â ffatri niwclear sy’n cael ei gweithredu gan ddau gwmni sydd â diddordeb mewn datblygu safle Wylfa.
Wrth adael, dywedodd ei fod yn “gobeithio” derbyn cynigion ar gyfer sefydlu gorsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn.
Daw hyn wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig baratoi i gyhoeddi strategaeth ynni newydd yfory (dydd Iau, Ebrill 7).
Bydd Simon Hart yn ymweld â safle pŵer niwclear Vogtle yn Georgia, sy’n cael ei adeiladu gan y cwmnïau Westinghouse a Bechtel.
Mae’r cwmnïau wedi bod yn trafod â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn ag adfywio cynllun ar gyfer gorsaf bŵer niwclear ar Ynys Môn, ac maen nhw o’r farn mai Môn yw’r safle gorau ym Mhrydain ar gyfer adeiladu gorsaf niwclear fawr.
‘Potensial economaidd ac ynni enfawr’
“Bydd e’n werth biliynau o bunnoedd,” meddai Simon Hart cyn gadael am yr Unol Daleithiau.
“Bydd angen ymddiriedaeth a hyder ar y ddwy ochr a’m tasg yr wythnos hon yw parhau i adeiladu’r ymddiriedaeth honno, fel bod yna ddigon o ffydd rhwng y ddwy wlad i ni allu dod bwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn.
“Mae yna botensial economaidd ac ynni enfawr – nid yn unig i ynys Môn, ond i Gymru gyfan a’r Deyrnas Unedig yn ehangach, felly rydym yn awyddus iawn i gyflawni hyn.
“Mae’r wythnos hon yn rhan o’r daith honno.”
‘Clwstwr niwclear yng ngogledd Cymru’
Fodd bynnag, nid Wylfa yw’r unig safle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ei ddatblygu yng Nghymru.
Yn ôl Simon Hart, mae Rolls Royce yn gweithio ar gynlluniau ar gyfer adweithyddion niwclear llai, gyda Thrawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn un o’r safleoedd sydd o dan sylw.
“Mae datganiad mawr yn cael ei wneud gan Kwasi Kwarteng (Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) ddydd Iau ynglŷn â lle mae niwclear yn ffitio yn strategaeth ynni’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Rydym yn gobeithio ac yn cynllunio y bydd hynny’n cynnwys datblygiad mawr ar Wylfa ac o bosibl datblygiadau llai amgylch Trawsfynydd hefyd.
“Mae gennym hefyd rai prosiectau diddorol eraill a fyddai’n cyd-fynd yn dda â phrosiect Wylfa.
“Mae hynny o gwmpas yr hen leoliad niwclear yn Nhrawsfynydd, mae pobl yn gyfarwydd ag ef.
“Felly mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwn adeiladu rhyw fath o glwstwr niwclear yng ngogledd Cymru, sy’n ynni diogel a glân, ac mae hefyd yn mynd i fod yn gyfle trawsnewidiol i’r economi leol hefyd.”
Gwrthwynebiad
Fodd bynnag, mae yna wrthwynebiad chwyrn i ddatblygiadau o’r fath yma yng Nghymru.
Wedi ei sefydlu yn 1988, mae mudiad PAWB yn gwrthwynebu adeiladu unrhyw fath o atomfa niwclear arall yr Ynys Môn.
Fis diwethaf, dywedodd PAWB y byddai’n “parhau i dynnu sylw at y ffaith bod ynni niwclear yn dechnoleg fudr, hen ffasiwn, peryglus, hynod ddrud sy’n bygwth iechyd pobl a’r amgylchedd”.
“Byddai hefyd yn dwyn adnoddau y mae mawr eu hangen oddi wrth dechnolegau adnewyddadwy sy’n rhatach, yn llawer cyflymach i adeiladu ac yn fwy effeithiol i fynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd,” meddai’r mudiad.