Wrth i’r Urdd ddathlu can mlynedd eleni, bydd cyn-benaethiaid a dirprwyon Gwersyll Glan-llyn yn cael aduniad dros y penwythnos.
Aled Siôn, a fu’n ddirprwy ac yna’n bennaeth ar y gwersyll, gafodd y syniad o gynnal aduniad.
Bydd penaethiaid a dirprwyon y gorffennol – yn mynd yn ôl i 1967 gyda John Eric Williams – a’r presennol yn dod ynghyd yng Nglan-llyn ddydd Sadwrn (Ebrill 9).
Cael pawb at ei gilydd oedd y syniad, meddai Aled Siôn, a ddechreuodd fel dirprwy yng Nglan-llyn yn 1988, cyn dod yn bennaeth yn 1993.
“Dyw e erioed wedi digwydd o’r blaen,” meddai Aled Siôn wrth golwg360.
“Mae miloedd a miloedd o blant a phobol wedi bod drwy Glan-llyn ac mae’r atgofion sydd ganddyn nhw’n siŵr o fod wedi gweddnewid rhai pobol o safbwynt Cymreictod a gwneud ffrindiau ac yn y blaen.
“Dyna be’ dw i’n ei gofio, y Gwersyll Haf pan oedd 200 o bobol ifanc yn dod ac yn treulio cyfnod ac yn cael hwyl ymysg ei gilydd ac yn creu ffrindiau bore oes.”
‘Parhau i ddatblygu’
Er bod Aled Siôn wedi dod yn Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd yn 2007, parhaodd i weithio yng Nglan-llyn a buodd yn gweithio ar yr un safle am dros 30 mlynedd i gyd, fwy neu lai, tan 2020.
“Gyda fi’n bersonol, fel dirprwy i ddechrau ac yna pennaeth, roedd angen newid. Gyda’r oes yn newid, mae Glan-llyn wedi newid hefyd o safbwynt proffesiynoli,” meddai.
“Pan gyrhaeddais i Glan-llyn dim ond chwe pherson oedd yn gweithio llawn amser, pan roeddwn i’n gadael roedd yna dros hanner cant ohonom ni’n gweithio llawn amser.
“Y newid gyda’r amser… wrth wneud hynny roedden ni’n gallu parhau i fod yn llwyddiannus, nid jyst gyda’r staff, ond gyda gweithgareddau – bowlio deg a wal ddringo a chwrs raffau – yn ogystal â’r ochr staffio a’r ochr lletya gydag ystafelloedd en-suite ac adnoddau da.
“Y datblygiad, efallai, sy’n uchafbwynt. Ein bod ni wedi cadw ymlaen i ddatblygu, ac mae dal i barhau hyd heddiw.”
‘Proffesiynoli’ Glan-llyn
Y proffesiynoli sy’n dod i gof Bethan Gwanas hefyd wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod fel Dirprwy Bennaeth tua chanol y 90au.
“Fe wnes i landio yno pan roedd o’n gyfnod reit anodd achos roedd yna ddamwain wedi bod efo canŵs yn Lyme Bay yn ne Lloegr, fe wnaeth yna blant farw am fod yr hyfforddwyr ddim yn gwybod be oedden nhw’n ei wneud,” meddai wrth golwg360.
“Fy swydd i fel dirprwy oedd gwneud siŵr bod y staff yn cael eu hyfforddi’n iawn ac yn cael cymwysterau achos tan hynny, system swogs oedd yna. Fysa chdi’n gallu bod yn y coleg, ac eisiau helpu yng Nglan-llyn a fysa chdi’n gallu mynd â phlant allan ar y llyn a chdithau’n gwybod fawr ddim.”
Bethan Gwanas, y ferch gyntaf i gael ei phenodi’n ddirprwy, oedd yn gofalu am drefnu hyfforddiant i staff, ac roedd ei gwaith hi fel dirprwy yn waith ymarferol.
“Fe wnes i wirioneddol fwynhau’r hyfforddi, dw i’n cofio mynd ar gwrs dringo yng Nghraig y Deryn yn Nysynni a phasio fy single pitch… wel, mwynhau!
“Cael y stwff, a’r offer, a’r cymwysterau’n iawn, fe wnes i wirioneddol fwynhau hynny.
“Ddaru’r lle newid yn anhygoel, ond roedden ni’n gorfod. Doedd gennym ni ddim dewis.
“Roedd y gwersyllwyr a’r rhieni yn mynnu mwy o foethusrwydd, fatha en-suites! Dw i’n cofio cael galwadau ffôn o rywle yn y de, mam yn flin am fod yna gronc o fys wedi dod i nôl y plant a doedd hi ddim yn mynd i adael ei phlentyn ar y cronc bys yma.
“Doeddwn i ddim yn siŵr be’ oedd gan y bys i wneud efo fi!”
Ceisio cysuro plant hiraethus
Un agwedd ar y gwaith roedd Bethan Gwanas yn ei gasáu oedd gweithio yn y ganolfan bowlio deg, – “pan oedd y peiriannau’n torri, roeddet ti’n gorfod mynd i’r cefn ar dy fol yn trio symud ryw skittle!”
Roedd eisiau amynedd efo plant oedd yn hiraethu am adref hefyd, ychwanega.
“Plant efo hiraeth am adra, a hwythau ond wedi cyrraedd ers hanner awr…” meddai.
“Gan fy mod i wedi bod yn blentyn anturus, roedd o’n anodd iawn imi fod â amynedd efo babi mams, ond roeddwn i’n trio fy ngorau!”
Ond un profiad sy’n aros yn y cof yw croesawu degau o dimau caiacio o dros Ewrop i aros yng Nglan-llyn yn ystod cystadleuaeth gaiacio Ewropeaidd yn Nhryweryn.
“Roedd y lle’n llawn o’r athletes six foot three anhygoel yma, a rhai ohonyn nhw, yn dibynnu o ba wlad oedden nhw’n dod, yn poeni dim am noethni, ddudwn ni!
“Dw i’n cofio, doedd y tîm o’r Eidal ddim eisiau bwyd Glan-llyn, roedd ganddyn nhw eu chef eu hunain.”
‘Dipyn o antur’
John Eric Williams oedd pennaeth cyntaf Glan-llyn, ac er ei fod o’n rhedeg y gwersyll ar ei ben ei hun yn y dechrau a bod y swydd yn “ffordd o fyw, fwy na heb”, roedd hi’n swydd ddelfrydol.
“I mi, roedd Glan-llyn yn nifer o bethau gwahanol. Roedd o’n gyfle’r adeg honno, yn y 60au a’r 70au, i gyflwyno gweithgareddau doedd ddim yn digwydd yng Nghymru drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg – mynydda, hwylio, cerdded hyd yn oed, canŵio,” meddai wrth golwg360.
“Yn enwedig o gofio nad oedd yna lawer o wyliau tramor yr adeg hynny, felly roedd dod i Lan-llyn yn dipyn o antur, fyswn i’n ddweud, ac roedden ni’n trio’i greu o felly.
“Roedd o’n gyfnod anturus. Mi wnes i lot o ffrindiau yno, ac mi ddaeth o â phobol ifanc Cymru at ei gilydd, de a gogledd, doedd hynny ddim yn digwydd cynt.
“Roedd yr acenion gwahanol yn dod at ei gilydd yng Nglan-llyn, dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig iawn.”
Dros y blynyddoedd, mae nifer o swyddogion gwirfoddol Glan-llyn wedi cyfarfod eu gwŷr a’u gwragedd yno, “rhai degau” ohonyn nhw, meddai John Eric Williams.
“Mae’r rheiny rŵan wedi priodi, wedi magu teuluoedd Cymraeg. Mae hwnnw, dw i’n teimlo, wedi bod yn gyfraniad pwysig yn ei amser.”
‘Chwyddo’r defnydd’
Cyn gweithio fel pennaeth Glan-llyn am bymtheg mlynedd, buodd John Eric Williams yn gweithio i’r mudiad am bedair blynedd fel Trefnydd Gwersylloedd a Chwaraeon.
“Roedd yna berson oedd yn mynd i [Lan-llyn] yn ystod Gwersyll yr Haf yn unig, ond doedd o ddim yn byw yno,” meddai.
“Yr adeg hynny, deg wythnos o wersyll haf oedd yn mynd ymlaen efo ychydig o wythnosau eraill yn y flwyddyn.
“Un o’r pethau oedd angen eu gwneud oedd chwyddo’r defnydd trwy gydol y flwyddyn, trwy ddod ag aelodau o’r Urdd o’r siroedd a’r ysgolion i aros yno ar benwythnosau neu ynghanol yr wythnos.
“O dipyn i beth, mi chwyddodd y defnydd fel bod y lle, fwy na heb, ar agor gydol y flwyddyn.
“Y pethau oedd yn bwysig imi yno oedd cyflwyno’r gweithgareddau newydd yma, sef hwylio, canŵio, mynydda, wedyn mi gafon ni bwll nofio, campfa, ond hefyd yr ochr ddiwylliannol.
“O dipyn i beth, gafon ni ddechrau gwneud cyrsiau iaith yno lle’r oedd plant yn dod yno ac yn cael eu boddi yn yr iaith Gymraeg ac unigolion galluog mewn dysgu iaith yn dod i ddysgu’r plant.
“Hefyd, roedden ni’n trio trosglwyddo diwylliant Cymru, roedden ni’n cael nosweithiau llawen, rhaglenni nodwedd, mynd â nhw o gwmpas Llanuwchllyn, dangos pethau hanesyddol yn yr ardal honno.
“Dim jyst gweithgareddau awyr agored, ond hefyd yr ochr ddiwylliannol i bethau.”